Manylion y penderfyniad

Governance Update and Consultations

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Bu i Mr Latham longyfarch Mrs Fielder a Mrs K Williams a oedd eu dwy wedi cael eu henwebu a’u cynnwys ar restr fer y Gwobrau Women in Pensions.  Dywedodd hefyd fod Mrs K Williams wedi ennill canmoliaeth uchel. Bu i’r Pwyllgor longyfarch Mrs Fielder a Mrs William.

Nododd Mr Latham y pwyntiau allweddol canlynol:

-          Roedd paragraff 1.01 yn amlinellu’r diweddariad ar y cynllun busnes, ac fe gadarnhaodd Mr Latham fod cynnydd da yn cael ei wneud. Atgoffodd aelodau diweddaraf y Pwyllgor, nad oedd wedi gallu mynychu’r sesiynau hyfforddiant cynefino, i gadarnhau pan yr oeddent wedi gwylio’r recordiadau perthnasol.   

-          Nid oedd yr ymgynghoriad ar God Ymarfer Unigol y Rheoleiddiwr Pensiynau a’r Adolygiad Llywodraethu Da wedi’i gwblhau ac felly roedd wedi cael ei symud ymlaen yn y cynllun busnes.

-          Roedd Mrs E Williams, a oedd yn wreiddiol wedi cael ei phenodi fel Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun (Nad Ydynt yn Rhan o Undeb Lafur) y Bwrdd Pensiwn am dair blynedd hyd at fis Chwefror 2023, wedi cael ei hail-benodi i’r swydd hon am ddwy flynedd arall.

-          Roedd materion cenedlaethol yr oedd yn rhaid i’r Pwyllgor fod yn ymwybodol ohonynt wedi’u rhestru ym mharagraffau 1.06 i 1.11.

-          Roedd y Polisi Llywodraethu a Datganiad Cydymffurfio wedi cael ei adolygu ac roedd y newidiadau arfaethedig wedi’u hamlygu yn Atodiad 3. Yn cynnwys y newidiadau yn ymwneud â Phennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd yn cymryd cyfrifoldebau gan y Prif Weithredwr. Gofynnodd Mr Latham i’r Pwyllgor gymeradwyo’r diweddariadau i’r Polisi a’r Datganiad.

-          Roedd yr adolygiad blynyddol o’r mesurau amcanion ar gyfer polisïau a strategaethau yn ymwneud â llywodraethu wedi’i gynnwys yn Atodiad 4. Roedd y rhan fwyaf o fewn y targed, ond roedd gan rai meysydd gwaith i’w gwblhau o hyd.

-          Fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.14, braf iawn oedd gweld canran uchel o aelodau yn mynychu’r hyfforddiant. Roedd rhestr o ddigwyddiadau hyfforddiant yn y dyfodol a gofynnodd Mr Latham i aelodau’r Pwyllgor nodi’r rhain a mynychu os yn bosibl.

-          Roedd problemau recriwtio a chadw staff ar hyn o bryd a oedd yn achosi straen ychwanegol oherwydd swm y gwaith ychwanegol oherwydd ffactorau y tu allan i reolaeth y Gronfa megis y Dangosfwrdd Pensiynau a Rhaglen Unioni McCloud. Roedd gwaith pellach hefyd yn cael ei wneud i ddeall a fyddai cynnydd mewn llif gwaith gweinyddol o safbwynt aelodaeth yn parhau.

 

            Dywedodd Mrs Fielder fod e-bost wedi cael ei anfon yngl?n â’r Seminar Buddsoddi LGC a fydd yn cael ei gynnal yn Carden Park. Gofynnodd i’r aelodau roi gwybod iddi cyn gynted â phosib os oeddent yn dymuno mynychu er mwyn i’r Gronfa allu manteisio ar y gostyngiadau cynnar, a dywedodd ei fod bod amser yn ddigwyddiad gwerthfawr ac yn lleol.

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad.

(b)          Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau i amserlenni yn y cynllun busnes ar gyfer eitemau G3 a G5, oherwydd oedi gan y Llywodraeth o ran symud ymlaen â Chod Unigol y Rheoleiddiwr Pensiynau a chanlyniadau adolygiad Llywodraethu Da y Bwrdd Cynghori’r Cynllun.

(c)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r newidiadau i Bolisi Llywodraethu a Datganiad Cydymffurfio’r Gronfa fel y dengys yn Atodiad 3.

 

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 03/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 23/11/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/11/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: