Manylion y penderfyniad

Investment and Funding Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Nododd Mrs Fielder y pwyntiau allweddol canlynol:

-          O ran y cynllun busnes, oedwyd proses adolygu’r strategaeth fuddsoddi oherwydd yr amgylchedd economaidd anodd. Byddai hyn yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Chwefror 2023.

-          Roedd oedi hefyd o ran yr adroddiad newid hinsawdd a gofynion y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol yn Ymwneud â’r Hinsawdd. Roedd y gwaith yn parhau a byddai sesiwn hyfforddi yn cael ei chynnal i aelodau’r Pwyllgor ar 1 Chwefror 2023.

-          Cyflwynwyd y Cod Stiwardiaeth erbyn y dyddiad cau ar 31 Hydref 2022 wedi i gyflwyniad drafft gael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Awst. Ni fydd y canlyniad yn hysbys i’r Gronfa tan fis Mawrth 2023. Os oedd yr aelodau’n dymuno gweld y cyflwyniad terfynol, dylent gysylltu â Mrs Fielder.

-          Roedd y Gronfa wedi disgwyl sawl ymgynghoriad yngl?n â datblygiadau yn ymwneud â buddsoddiad CPLlL ond dim ond yr un sy’n ymwneud â llywodraethu ac adrodd ar risg hinsawdd sydd wedi cael ei gyhoeddi.

-          Fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.02, bu i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gyhoeddi ymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 24 Tachwedd 2022, ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau gweinyddu CPLlL adrodd ar risgiau newid hinsawdd. Roedd yr ymgynghoriad yn unol â’r argymhellom a wnaed gan y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol yn Ymwneud â’r Hinsawdd. Eglurodd Mrs Fielder fod cyfres o argymhellion wedi cael eu cyhoeddi yn 2017 gyda’r nod o wella risgiau ariannol. Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddwyd y byddai datganiadau’r Tasglu yn orfodol yn y DU erbyn 2025. Barn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yw y dylai’r gofyniad ar gyfer CPLlL fod yr un mor uchel â’r safon a osodir ar gyfer cynlluniau pensiwn preifat. Y cynlluniau pensiwn preifat oedd y man cychwyn ar gyfer y cynigion ond nid oeddent yn ystyried nodweddion unigryw’r CPLlL yn cynnwys gweinyddu lleol ac atebolrwydd democrataidd. Tynnodd Mrs Fielder sylw at ymateb drafft y Gronfa i’r ymgynghoriad yn Atodiad 2. Ar y cyfan, roedd y Gronfa yn cefnogi cynigion yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn yr ymgynghoriad. Mae nifer sylweddol o’r cynigion yn ymwneud â dadansoddi sefyllfaoedd a metrigau, ac roedd y Gronfa eisoes wedi gwneud gwaith modelu a byddai’n gwneud hynny eto fel rhan o broses adolygu strategaeth fuddsoddi’r Gronfa. Mae ymateb y Gronfa i’r ymgynghoriad yn crynhoi sut yr oedd newid hinsawdd eisoes wedi’i sefydlu yn strategaethau llywodraethu, buddsoddi ac ariannu’r Gronfa. Darparodd hyn dystiolaeth bellach fod y Gronfa wedi ymrwymo i’r arfer orau yn y maes hwn, a bod y Gronfa yn bwriadu cynnal ei adroddiadau Tasglu ei hun ar ddechrau 2023, cyn dyddiad cau’r Llywodraeth. Roedd hyn yn cadw at yr egwyddorion a osodwyd yn y ddogfen ymgynghori. Dywedodd Mrs Fielder fod gofyniad ar y Pwyllgor i gymeradwyo’r ymateb i’r ymgynghoriad drafft.

-          Roedd paragraff 1.04 yn amlinellu’r adolygiad Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol yr oedd y Gronfa’n rhan ohono ar hyn o bryd gyda darparwyr CGY, Prudential ac Utmost drwy Mercer. Yn unol â rheoliadau’r CPLlL, roedd gofyn i bob awdurdod gweinyddu roi manylion a mynediad i ddarparwr CGY i bob aelod. Nid oedd Mercer wedi codi unrhyw faterion penodol fel rhan o’r adolygiad, dim ond argymell y dylai’r Gronfa gyfathrebu ag aelodau i’w hatgoffa i adolygu eu buddsoddiadau CGY yn rheolaidd ac i gadarnhau eu hoedrannau ymddeol.

-          Bu i’r Gronfa drosglwyddo asedau ym mis Hydref a mis Tachwedd 2022 fel y nodwyd ym mharagraff 1.15. Adbrynwyd £125 miliwn o Gronfa Ecwiti Blackrock Global ESG a £90 miliwn o Gronfa Ecwiti Marchnad Newydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Roedd hyn yn lleihau cysylltiad ecwiti ffisegol y Gronfa o 20% i 10%.

-          O ran dyraniad y farchnad breifat, gwnaed dau ymrwymiad arall i fuddsoddiadau yn y portffolio ecwiti preifat, yn cynnwys £20 miliwn i ECI12 (roedd y Gronfa wedi buddsoddi yn ECI12 ers 1998) ac £11 miliwn i Activate Capital II.

-          Roedd sawl newid i’r gofrestr risg yn cynnwys y diweddariad yngl?n â’r prisiad i risg F4, a gostyngiad y lefel gyllido i risg F2. Symudodd y ddau o fod â thebygolrwydd sylweddol i isel.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn nodi’r diweddariad.

(b)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r ymateb drafft i’r ymgynghoriad “Llywodraethu ac adrodd risgiau newid hinsawdd.”

 

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 03/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 23/11/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/11/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: