Manylion y penderfyniad

Funding, Flight-Path and Risk Management Framework

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Nododd Mr Page y pwyntiau allweddol canlynol:

-          Roedd y sefyllfa gyllido ar 30 Medi 2022 wedi gostwng i 102%, o 105% ar 31 Mawrth 2022. Ers hynny, gwelwyd cynnydd o ran y lefel gyllido a oedd yn newyddion da i’r Gronfa er gwaethaf anwadalrwydd y marchnadoedd yn Ch3 2022.

-          Roedd y fframwaith rheoli risg wedi cael ei roi ar brawf, yn enwedig yn ystod mis Medi a Hydref 2022 ond serch hynny roedd y fframwaith wedi gwasanaethu’r Gronfa’n dda. Roedd yr adroddiad yn amlygu perfformiad pob elfen wahanol o’r fframwaith rheoli risg.

-       Gwelwyd gostyngiad mewn ecwiti ond roedd wedi’i ddiogelu gan y portffolio ecwiti synthetig felly bu i’r amddiffyniad ar y gyfran honno o’r portffolio ychwanegu gwerth dros y chwarter.

-       Bu i’r bunt wanhau’n sylweddol dros y chwarter, a gwnaed colledion ar strategaeth fantoli FX. Fodd bynnag, oherwydd sicrwydd o 100% rhag chwyddiant, roedd y colledion FX a wnaed wedi cael eu gosod yn erbyn yr enillion a wnaed ar yr asedau ffisegol a fuddsoddir ynddynt dramor.

-       Y strategaeth LDI oedd y prif ffocws o ystyried anwadalrwydd y farchnad gilt yn ddiweddar. Roedd lefel y rhagfantoli ar gyfer cyfraddau llog wedi cynyddu o fewn y fframwaith sbardunau marchnad o oddeutu 20% i 50%. Roedd lefel y rhagfantoli ar gyfer chwyddiant yn parhau i fod yn 40% ar 30 Medi 2022, gan ddarparu amddiffyniad gwerthfawr rhag chwyddiant cynyddol dros y flwyddyn.

-       Roedd anwadalrwydd eithafol o ran y giltiau hyd at bwynt lle’r oedd bron yn gamweithredol ac roedd y siart ar dudalen 282 yn dangos y camau olrhain drwy gydol mis Medi a mis Hydref 2022 a pha mor gyflym oedd y cyfnod hwn. Er gwaethaf yr anwadalrwydd, rheolwyd hyn yn dda gan y fframwaith sicrwydd cadarn a oedd yn weithredol.

-       Ar ôl cyhoeddi’r datganiad cyllidol, bu cynnydd cyflym mewn arenillion giltiau a gostyngiad cyflym yng ngwerth giltiau. Dros gyfnod o ychydig ddyddiau, bu i arenillion giltiau godi a gostwng, gan gynyddu o 2.5% ac yna gostwng o 2.5%, ac nid oedd hynny erioed wedi digwydd o’r blaen. Yna, fe aeth Banc Lloegr ati i sefydlogi’r farchnad am gyfnod o bythefnos ac fe aeth yr arenillion giltiau i lawr eto ond buan iawn y gwnaethant ddechrau cynyddu’n raddol eto. Yn ystod y bythefnos, bu i’r diwydiant cynllun pensiwn werthu nifer fawr o asedau i leihau dyledion y portffolios LDI. Fodd bynnag, roedd pryderon o hyd am arenillion giltiau yn codi eto ond, oherwydd cefnogaeth gan Fanc Lloegr a’r Canghellor newydd a wnaeth ddirwyn y polisiau yn ôl, fe sefydlogwyd y farchnad.

-       Roedd Mr Page yn falch iawn â fframwaith llywodraethu hynod gryf y Gronfa, nododd fod y Gronfa nid yn unig mewn sefyllfa dda i wrthsefyll ansefydlogrwydd y farchnad ar hyn o bryd, roedd hefyd mewn sefyllfa i gymryd cyfleoedd. Roedd gan y Gronfa fframwaith yn weithredol lle’r oedd yn cymryd y cyfle i fuddsoddi mewn giltiau pan oeddent yn rhad, gyda’r lefelau arenillion hynny wedi’u diffinio ymlaen llaw. Ar ben hynny, roedd y swyddogion eisoes wedi cwblhau adolygiad o’r lefelau arenillion ym mis Medi ac roedd y lefelau hyn wedi cynyddu. Roedd hyn yn golygu bod y Gronfa’n prynu giltiau ar lefelau rhatach, a oedd yn fantais. Dros fis Medi, roedd y cysylltiad â chyfraddau llog wedi cynyddu o 20% i 50% o asedau, ac wedyn roedd y fframwaith wedi cael ei oedi er mwyn gallu asesu’r sefyllfa o ystyried anwadalrwydd y farchnad, a oedd unwaith eto yn gam cadarnhaol.

-       Fodd bynnag, fel yn y rhan fwyaf o gronfeydd pensiynau, oherwydd gwerth yr hyn a roddir yn gyfochrog o fewn y strategaeth llwybr hedfan, cymerwyd camau i gryfhau hyn i gefnogi’r fframwaith. Roedd £200 miliwn o ran ecwiti ffisegol a werthwyd am arian parod ac a symudwyd i’r fframwaith rheoli risg er mwyn gwella sicrwydd y sefyllfa. Yna fe atgynhyrchwyd y lleihad mewn cysylltiad yn defnyddio ecwiti deilliadol i sicrhau bod y dyraniad strategol i ecwiti yn aros yr un fath, ac felly nid oedd yr enillion disgwyliedig ar y Gronfa yn cael eu heffeithio.  Bu i hyn wella sicrwydd y sefyllfa heb effeithio ar ddyraniad asedau strategol cyffredinol y Gronfa.

 

Roedd y Gr?p Ariannu a Rheoli Risg yn parhau â thrafodaethau yngl?n â chyfleoedd pellach y gallai’r Gronfa eu cymryd.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn ystyried cynnwys yr adroddiad a’r cynnydd o ran y lefel o fantoli a’r camau amrywiol a gymerwyd.

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 03/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 23/11/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/11/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: