Manylion y penderfyniad

Clwyd Pension Fund Annual Report including Accounts 2021/22

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Cyflwynwyd yr eitem hon gan Mrs Fielder.  Cadarnhaodd mai dim ond dau newid mân oedd wedi cael eu gwneud i’r cyfrifon ers ystyried y cyfrifon drafft yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Cadarnhaodd y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Amlygodd ddatganiad yn y cyfrifon a gywirwyd ym mharagraff 1.08. Roedd hyn yn ymwneud â phrisiadau’r farchnad breifat ym mis Rhagfyr oherwydd cynnydd o oddeutu £1.3 miliwn a gafwyd o ganlyniad i dderbyn prisiadau nad oedd wedi’u cyflawni fis Mawrth.

-       O ystyried cynnwrf y farchnad ym mis Medi, ychwanegwyd nodyn digwyddiad sy’n dilyn y fantolen.

-       Roedd tudalen 199 yn cynnwys y llythyr sylwadau a oedd yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth a ddatgelwyd yn wir ac yn gywir. Argymhellodd y dylai’r Pwyllgor gymeradwyo hyn.

 

            Nododd Ms Wiliam, Arweinydd Archwilio Cronfa Bensiynau Clwyd, y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Roedd safonau archwilio rhyngwladol yn golygu bod angen tynnu sylw’r Pwyllgor at faterion penodol cyn cymeradwyo’r cyfrifon. Ni allai Archwilio Cymru roi sicrwydd llawn bod y cyfrifon hyn wedi’u nodi’n gywir ond roedd yn gweithio yn unol â lefel berthnasedd a allai olygu bod unrhyw gyfrifon dros y lefel honno yn gamarweiniol. Roedd y swm o ran y lefel berthnasedd eleni yn £24.917 miliwn a defnyddiwyd lefel is o £1,000 ar gyfer datganiadau parti cysylltiedig mewn perthynas â staff rheoli allweddol. 

-       Roedd Archwilio Cymru yn annibynnol o’r Gronfa yn ystod yr archwiliad ac yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar ôl derbyn y llythyr sylwadau wedi’i lofnodi. Byddai’r archwilydd yn llofnodi hwn ar 28 Tachwedd 2022.

-       Nid oedd unrhyw gamddatganiadau heb eu cywiro yn y cyfrifon, fodd bynnag, roedd diwygiadau a oedd wedi’u nodi yn Atodiad 3. Ar ôl cwblhau’r archwiliad, byddai Archwilio Cymru yn cwrdd â’r tîm cyllid i drafod sut aeth y prosiect.

            Diolchodd Ms Wiliam i Mrs Fielder a’r tîm cyllid am eu cymorth yn ystod yr archwiliad.

            Gofynnodd y Cynghorydd Hughes a oedd unrhyw un wedi mynegi diddordeb yngl?n â swydd wag Cyfrifydd y Gronfa. Cadarnhaodd Mrs Fielder bod Adran Adnoddau Dynol y Cyngor wrthi’n gwerthuso’r swydd ar hyn o bryd cyn y gellid ei hysbysebu. Roedd hyn hefyd yn wir am y swydd Cynorthwy-ydd Gweinyddol Llywodraethu.

PENDERFYNWYD:

(a)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Gronfa ar gyfer 2021/22 yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon.

(b)          Bod y Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Archwilio Cyfrifon.

(c)          Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Llythyr Sylwadau terfynol.

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 03/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 23/11/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/11/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: