Manylion y penderfyniad

Draft Annual Report including Accounts 2021/22

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Cadarnhaodd Mrs Fielder fod adroddiad blynyddol 2021/22 i fod i gael ei gyhoeddi cyn 1 Rhagfyr 2022, oedd yn cynnwys y cyfrifon archwiliedig. Diolchodd i Mercer am eu cefnogaeth i gynhyrchu’r Adroddiad Blynyddol oherwydd bod Cyfrifydd y Gronfa wedi gadael ym mis Ebrill 2022. Eglurodd Mrs Fielder fod Mr Ferguson, Swyddog Adran 151 y Gronfa wedi adolygu’r cyfrifon ac roedd ei sylwadau wedi cael eu hystyried. Cadarnhaodd hefyd fod y Gronfa’n cydymffurfio ag arweiniad y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a gynhyrchwyd yn 2019 o’r enw “Paratoi Adroddiad Blynyddol” cyn belled â phosibl.

            Aeth Mrs Fielder drwy’r adroddiad blynyddol gan dynnu sylw at nifer o feysydd yn cynnwys y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Amlygodd adroddiad y Cynghorydd Annibynnol ac adroddiad y Bwrdd Pensiynau bod y polisi seiber wedi cael ei gymeradwyo, cynnydd rhagorol ar flaenoriaethau a thargedau buddsoddiad cyfrifol y Gronfa yn ogystal â’r gwelliant parhaus mewn gweinyddu er gwaetha’r cynnydd mewn niferoedd achosion.

-       Mae’r adroddiad gweinyddu yn atodiad 4 yn dangos, ers y pandemig, bod gweithwyr wedi parhau i weithio o gartref yn ystod 2021/22. Roedd cynhyrchiant yn parhau’n uchel ac roedd mwy na 31,000 o achosion wedi eu cwblhau yn ystod y flwyddyn. Cynyddodd nifer y cofrestriadau ar gyfer hunan wasanaeth aelodau o 36.1% i 48.4%. Roedd 52 o’r 54 cyflogwr yn y Gronfa bellach yn defnyddio iConnect.

-       Hyd at 31 Mawrth 2022, roedd y Gronfa wedi cynnal sefyllfa a gyllidir yn llawn yn unol â thudalennau 83 i 86 yr eitem Gyllid a Llwybr Hedfan. Gan fod y gronfa mewn blwyddyn werthuso, byddai’r sefyllfa gyllid yn cael ei hadolygu’n ffurfiol a byddai’r fframwaith rheoli risg yn monitro effaith chwyddiant a chyfraddau llog cynyddol fyddai’n parhau ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifo a bydd y rhain yn cael eu hystyried fel rhan o osod rhagdybiaethau.

-       Perfformiodd y Gronfa yn dda yn ystod y flwyddyn fel yr amlinellir ar dudalennau 85 i 103 gan y cyflawnodd y Gronfa enillion ar fuddsoddiad o 13.3% am y flwyddyn yn erbyn meincnod y Gronfa o 9.1%. Y cyfartaledd awdurdod lleol ar gyfer y ffigwr hwn oedd 8.6%. Mae hyn yn golygu fod y Gronfa yn ail ym mydysawd Cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cymheiriaid. 

-       Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd y portffolio syniadau gorau a gyflawnodd 20.3% a’r portffolio marchnadoedd preifat gydag enillion o 26.4% i gyd, ac o hynny roedd enillion ecwiti preifat yn 36.0% a’r portffolio effaith leol yn 40.3%. Ar y llaw arall, roedd enillion ecwitïau marchnadoedd byd-eang a marchnadoedd newydd yn 2.3%, oedd yn groes i enillion y flwyddyn flaenorol o 42.2% pan lwyddodd marchnadoedd preifat i wneud enillion o 4.6% yn unig.

-       Parhaodd y Gronfa i wneud ymrwymiadau i asedau marchnadoedd preifat gan ffafrio’r rhai ag effaith gynaliadwy neu gylch gwaith lleol.

-       Yn ystod y flwyddyn trawsnewidiwyd mwy o asedau i’r WPP, sef ecwitïau marchnadoedd newydd. Roedd y dyraniad strategol 10% yn awr yn cael ei reoli gan Russell Investments, oedd yn dod â chyfanswm buddsoddiadau’r Gronfa yn y WPP i 32%.

-       Dangosir cyfrifon y gronfa ar dudalennau 104 i 139. Y prif feysydd i’w nodi oedd:

o   Cynyddodd asedau oedd yn cynnwys arian parod ond nid asedau net o £2.2 biliwn i £2.5 biliwn.

o   Cynyddodd cyfraniadau gan weithwyr a chyflogwyr £3.4 miliwn.

o   Cynyddodd trosglwyddiadau i’r Gronfa, oedd yn anodd eu hamcangyfrif, £3.5 miliwn.

o   Roedd incwm dros wariant, ac eithrio ffioedd ac incwm buddsoddi yn £4 miliwn o’i gymharu â £2 filiwn y llynedd.

o   Roedd y newid yng ngwerth marchnad y buddsoddiadau yn cynnwys elw a cholled a wireddwyd a hefyd yr enillion/colledion na wireddwyd ym mhrisiad yr asedau yn ystod y flwyddyn.  Roedd y cynnydd i werth y farchnad o £261 miliwn yn is eleni, gan fod gwerthiannau £200 miliwn yn is na’r llynedd.

o   Ar dudalennau 115 i 116, amlygodd treuliau rheoli bod costau gweinyddu wedi cynyddu £210,000 ers y llynedd. Roedd hyn oherwydd costau TG a staffio oedd wedi bod yn y gyllideb ar gyfer 2021/22. Cynyddodd y costau trosolwg a llywodraethu £334,000 oherwydd ffioedd cyfreithiol uwch yn ymwneud â buddsoddiadau newydd mewn marchnadoedd preifat a’r gefnogaeth gynyddol gan ymgynghorwyr ar farchnadoedd preifat.

 

-       Roedd tudalen 146 yn dangos y costau gwirioneddol yn erbyn y cyllidebau, a chafodd £436,000 ei danwario i gyd yn erbyn cyllideb o £25.8 miliwn. Roedd dadansoddiad mwy manwl ar gael yn atodiad 8.

-       Roedd tudalen 143 yn dangos y llif arian gwirioneddol yn erbyn y gyllideb a’r amrywiant sylweddol, sef yr incwm dosbarthu o’r marchnadoedd preifat, oedd yn well na’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. 

-       Roedd tudalennau 155 i 162 yn rhoi mwy o fanylion am gynnydd yr WPP hyd yma.

-       Byddai adran 4 yn cynnwys dogfennau rheoleiddio’r Gronfa, oedd wedi cael eu cymeradwyo’n flaenorol gan y Pwyllgor, megis y Datganiad Strategaeth Gyllid, y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi, Polisi  Llywodraethu a’r Strategaeth Gyfathrebu. Byddai’r rhain yn cael eu cynnwys yn y ddogfen derfynol a gyhoeddir. Cyfeiriwyd hefyd at ddogfennau arfer gorau eraill yn ymwneud â’r gronfa.

-       Roedd atodiad 2 yn cynnwys yr ymateb drafft i lythyr archwilio ac ymholiadau Archwilio Cymru ar gyfer 2021/22 a thynnwyd sylw at y newidiadau. Gofynnwyd i aelodau’r Pwyllgor nodi’r ymateb.

            O ran y diweddariad economaidd a’r farchnad, amlygodd Mr Cockerton ei bryderon am y pwysau chwyddiant fyddai’n effeithio ar y Gronfa, gan nodi fod y mater hwn ar eitem yn nes ymlaen ar y rhaglen.

            Diolchodd Mr Ferguson i Mrs Fielder a’r tîm am y gwaith caled ar y cyfrifon. Roedd wedi adolygu’r cyfrifon cyn iddynt gael eu cyflwyno ac roedd yn hapus iddynt gael eu cyflwyno i Archwilio Cymru. Cadarnhaodd Mr Ferguson y byddai gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cyfrifon terfynol archwiliedig yng nghyfarfod mis Tachwedd y Pwyllgor.

            Ar dudalen 95, tynnodd y Cyng Swash sylw at y cyfeiriad at y targed uchelgeisiol y byddai gan y buddsoddiadau yn y Gronfa allyriadau carbon sero net erbyn 2045. Gwyddai’r Cyng Swash am gronfeydd eraill oedd â tharged allyriadau carbon sero net erbyn 2030, felly gofynnodd am fwy o gyd-destun. Dywedodd Mr Harkin ei fod yn uchelgeisiol yng nghyd-destun portffolio presennol y Gronfa i gydbwyso risgiau ar hyd y llwybr i fod yn sero net. Dywedodd pe bai’r Gronfa yn symud eu portffolio’n rhy gyflym, gallai hyn arwain at risgiau sylweddol i’r Gronfa.  Roedd yn ymwneud â chanfod cydbwysedd rhwng risgiau a pheidio â rhoi eich cyfrifoldeb ymddiriedol i aelodau mewn perygl. Ychwanegodd Mr Latham fod y Gronfa yn bwriadu cynnal sesiwn gyflwyno i helpu aelodau newydd ddeall sut mae’r targed sero net 2045 wedi cael ei osod.

PENDERFYNWYD:

(a)      Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol drafft y Gronfa ar gyfer 2021/22 yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon drafft.

(b)      Nododd yr Aelodau’r llythyr Ymholiadau Archwilio a’r ymateb.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 31/08/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 31/08/2022 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: