Manylion y penderfyniad

Council Plan 2022-23 Mid-Year Performance Reporting

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the levels of progress in the achievement of activities and performance levels identified in the Council Plan.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd canol blwyddyn yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23. Roedd yr adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022/23 yn dangos bod 59% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da. Roedd 70% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori eu targedau, roedd 9% yn cael eu monitro’n agos ac nid oedd 21% yn cyrraedd y targed ar hyn o bryd.

 

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar y meysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targedau ar hyn o bryd. Cafodd y dangosyddion perfformiad sy’n dangos statws COG coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor, eu nodi yn yr adroddiad.      

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bernie Attridge sylw ar y nifer o addasiadau mawr gorfodol ar gyfer pobl anabl a’r nifer cyfartalog o ddiwrnodau a gymerwyd i’w cwblhau a gofynnodd am eglurhad am yr oedi â’r ceisiadau cynllunio am waith mawr. Gofynnodd hefyd a oedd oedi gydag ymweliadau Therapyddion Galwedigaethol. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Lles a Chymunedau bod oedi â chynllunio oherwydd yr ôl-groniad a chymhlethdodau gyda rhai addasiadau a oedd angen eu gwneud ar gyfer pobl anabl. Eglurodd hefyd fod fframwaith newydd ar y gweill, a fyddai’n galluogi’r Cyngor i ddefnyddio cyflenwyr lleol a chynyddu’r nifer o ddyfynbrisiau. O ran Therapyddion Galwedigaethol, eglurodd bod nifer o swyddi gwag sydd angen eu llenwi o fewn y gwasanaeth a’i fod yn faes anodd recriwtio ar ei gyfer ar hyn o bryd. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gysylltu â Phrifysgolion er mwyn gweld a fyddent yn gallu cynorthwyo â recriwtio.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau canol blwyddyn yng Nghynllun y Cyngor 2022/23; 

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo a chefnogi perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/23; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 11/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: