Manylion y penderfyniad
Transformation Programme
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To approve the criteria for adding projects to the transformation programme and to consider adding a number of projects.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i ystyried y meini prawf ar gyfer cynnwys prosiectau yn y Rhaglen Drawsnewid Strategol ynghyd â nifer o brosiectau ychwanegol i’w cymeradwyo i gael eu derbyn.
Er bod y Cynghorydd Claydon yn nodi bod gwerth cymdeithasol wedi ei wreiddio yn Rheolau’r Weithdrefn Gontractau gan y Cyngor, gwnaeth gais bod crynodeb prosiect P6 yn cynnwys cyfeiriad penodol fel nodyn atgoffa o’r ymrwymiad hwn.
Parthed Argymhelliad 1, eglurwyd bod y meini prawf derbyn a ddangosir yn Nhabl 2 ar gyfer symud prosiect i fod yn ‘fyw’ yn y Rhaglen Drawsnewid Strategol naill ai’n 1 a 4, neu’n 2 a 4, neu’n 3 a 4. Ar y sail honno, cefnogwyd hyn.
Ymatebodd y Prif Swyddog i’r pryderon a godwyd gan Aelodau yngl?n â rhai prosiectau a rhoddodd sicrwydd y byddai unrhyw newidiadau i safonau gwasanaeth yn cael eu hystyried yn fanwl gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol cyn mynd ger bron y Cabinet.
Ar ôl trafodaeth bellach, cynigiodd y Cynghorydd Coggins Cogan welliant i Argymhelliad 2 i gefnogi symud prosiectau P2, P10, P6 a P20 yn eu blaenau, a bod briff diamwys ar P12 yn cael ei ddychwelyd ger bron y Pwyllgor. Eiliwyd ef gan y Cynghorydd Gladys Healey ac, wedi cynnal pleidlais ar y mater, cymeradwywyd hyn.
Gwnaeth y Cynghorydd Ibbotson gais bod ei bleidlais ef yn erbyn Argymhelliad 2 yn cael ei gofnodi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn derbyn y meini prawf a ddefnyddir i benderfynu pa Brosiectau sy’n gymwys i’w cynnwys yn y Rhaglen Drawsnewid Strategol, yn amodol ar yr eglurhad a roddir; a
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn derbyn pedwar prosiect (P2, P6, P10 a P20) – pob un bellach wedi bodloni’r meini prawf – i’w cynnwys yn y Rhaglen Drawsnewid Strategol, a bod briff diamwys ar brosiect P12 yn cael ei ddychwelyd ger bron y Pwyllgor hwn.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 13/02/2025
Dyddiad y penderfyniad: 12/12/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/12/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol