Manylion y penderfyniad

Flintshire and Wrexham Investment Zone

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y Parth Buddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a Rheolwr Gwasanaeth Menter ac Adfywio adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) ar ddatblygiad Parth Buddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam, a oedd yn un o ddau yn unig yng Nghymru.  Yr oedd yr adroddiad yn nodi’r broses drwy bum ‘Porth’ y Llywodraeth gyda’r nod o dderbyn cymeradwyaeth ar gyfer popeth er mwyn gallu dechrau ym mis Ebrill 2025.

 

Siaradodd Aelodau o blaid awgrym y Cynghorydd Claydon i gael gweithdy i gynorthwyo’r Aelodau i ddeall y goblygiadau.

 

Yn dilyn rhai pryderon a godwyd yn ystod y drafodaeth, cafwyd pleidlais ar y tri argymhelliad yn eu tro ac fe’u derbyniwyd, a nodwyd cais y Cynghorydd Ibbotson i gael cofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y tri.  Cefnogwyd argymhelliad pellach o blaid cael cyfarfod briffio ar gyfer yr Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Safleoedd Treth a nodwyd (Porth Glannau Dyfrdwy, Warren Hall ac Ystad Ddiwydiannol Wrecsam) a’r Ardaloedd Ardrethi a Gedwir (Porth Glannau Dyfrdwy ac Ystad Ddiwydiannol Wrecsam);

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Model Llywodraethu arfaethedig;

 

(c)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi Themâu’r Parth Buddsoddi (Arloesi, Sgiliau, a Chludiant) a’r ymyriadau lefel uchel, a fydd yn cael eu mireinio yn rhan o Borth 4; a

 

(d)          Bod cyfarfod briffio ar y Parth Buddsoddi’n cael ei drefnu ar gyfer yr holl Aelodau.

Awdur yr adroddiad: Niall Waller

Dyddiad cyhoeddi: 13/02/2025

Dyddiad y penderfyniad: 12/12/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/12/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: