Manylion y penderfyniad
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) ar Raglen Waith bresennol y Pwyllgor a dywedodd y byddai eitem am y Cynllun Ynni Ardal Leol yn cael ei hychwanegu ar gyfer Ionawr 2025.
Gan gytuno â’r Cadeirydd, byddai’r adroddiad y gofynnwyd amdano’n flaenorol gan y Cynghorydd Coggins Cogan am y gwersi a ddysgwyd o’r tân yn Synthite Ltd yn cael ei drefnu yn y Rhaglen Waith nesaf.
Gofynnodd y Cynghorydd Ibbotson am drefnu cyfarfod yngl?n â’r eitem hirsefydlog am gaffael tir ar gyfer mynwentydd Sir y Fflint. Gwnaeth gais hefyd bod Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cael gwahoddiad i fod yn bresennol yn y dyfodol i drafod cynllun Ymwelydd Dalfeydd Annibynnol ar gyfer gogledd Cymru.
Yn amodol ar y newidiadau hynny, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
Awdur yr adroddiad: Steven Goodrum
Dyddiad cyhoeddi: 13/02/2025
Dyddiad y penderfyniad: 12/12/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/12/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: