Manylion y penderfyniad

Council Tax Premium Scheme for Second Homes and Long-Term Empty Properties

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Ystyried yr adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos a chyfraddau premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ac os y dylai cyfraddau aros yr un fath neu gynyddu o fis Ebrill 2025.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) a Rheolwr Refeniw a Chaffael adroddiad (eitem 9 ar y rhaglen) oedd yn nodi adborth y cyhoedd yn dilyn ymgynghoriad diweddar, a’r prif ystyriaethau dros osod neu amrywio cyfraddau’r premiwm.

 

Fe gynigiodd y Cynghorydd Ibbotson nifer o gynigion a gafodd eu heilio gan y Cynghorydd Swash.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Jones ddiwygiad i’r cynigion a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Ibbotson a gafodd eu heilio gan y Cynghorydd Bill Crease.  Nid oedd y Cynghorydd Ibbotson yn cefnogi’r diwygiad i’w gynigion. 

 

Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd y diwygiad.  Daeth hwn yn brif gynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Thew ddiwygiad i’r prif gynnig.  Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Ibbotson a heriodd y cyngor a roddwyd o ran pa Gynghorydd a ofynnwyd i dderbyn y diwygiad a gynigiwyd i’r prif gynnig.   

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Bod y Cyngor yn cefnogi cynnydd ym mhremiwm eiddo gwag hirdymor gyda chynnydd o 75% i 100% a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2025, gan roi rhybudd o 6 mis i’r rhai a fyddai’n cael eu heffeithio'n uniongyrchol. 

 

(b)          Cyflwyno dull graddol fel a ganlyn: ar ôl 3 blynedd cynnydd o 150% ym mhremiwm Treth y Cyngor; ar ôl 5 mlynedd 200% ac ar ôl 10 mlynedd 300% o gynnydd; a byddai data hanesyddol o pan ddaw eiddo’n wag yn cael ei ddefnyddio i bennu lefel y premiwm, ac fe ddaw hyn i rym ym mis Ebrill 2026, gan roi 18 mis o rybudd i’r rhai a fydd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol; a

 

(c)       Bod eithriad dewisol yn cael ei greu er mwyn osgoi bod prynu eiddo gwag hirdymor yn arwain at anfantais drwy’r newid ym mhremiwm Treth y Cyngor.

Awdur yr adroddiad: David Barnes

Dyddiad cyhoeddi: 13/01/2025

Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/09/2024 - Cyngor Sir y Fflint

Dogfennau Atodol: