Manylion y penderfyniad

Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Amlinellu’r dull o weithio tuag at nodi a chomisiynu addysg ar gyfer pobl ifanc Sir y Fflint a beth sy’n cael ei wneud i fodloni’r galw cynyddol am addysg arbenigol.

Penderfyniadau:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) ei fod yn crynhoi gweithrediad Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a’r gefnogaeth a ddarperir i bobl ag Awtistiaeth.  Amlygwyd pwyntiau allweddol yn yr adroddiad i’r Aelodau.

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr (Gwasanaethau Plant) at y gwaith o gefnogi cydweithwyr iechyd o ran faint o blant a phobl ifanc oedd yn aros am asesiad ND (niwro ddatblygiad).  Mewn cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gofynnwyd cwestiwn am amseroedd aros i Uwch Aelodau’r Bwrdd Iechyd.  Darparwyd ymateb ysgrifenedig a chytunodd yr Uwch Reolwr i rannu hwn gyda’r Pwyllgor.

Awgrymodd y Cadeirydd fod argymhelliad arall yn cael ei gynnwys, sef “bod yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Awtistiaeth yn cael ei wahodd i fynychu’r Pwyllgor yn y dyfodol”.  Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cydnabod y dyletswyddau diwygiedig yr oedd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg yn eu gosod ar y Cyngor a’r camau a gymerwyd i weithredu’r system newydd.

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn nodi’r pwysau ariannol posibl oherwydd y gofynion deddfwriaethol.

 

(c)          Bod yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Awtistiaeth yn cael ei wahodd i fynychu’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

 

 

Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield

Dyddiad cyhoeddi: 03/03/2025

Dyddiad y penderfyniad: 27/06/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/06/2024 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dogfennau Atodol: