Manylion y penderfyniad
Safeguarding in Education including Internet Safety and Social Media
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni dyletswyddau diogelu statudol mewn ysgolion a’r portffolio Addysg. Cynnwys gwybodaeth ar Berthnasau ac Addysg Rywiol, a sut roedd hyn yn cyfrannu at leihau niwed.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ddyletswyddau diogelu statudol yr Awdurdod mewn ysgolion ac yn y portffolio Addysg ac Ieuenctid. Amlygwyd pwyntiau allweddol yn yr adroddiad i’r Aelodau.
Gan ymateb i gwestiynau gan Aelodau, cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu – Iechyd, Lles a Diogelu i ddarparu’r canlynol :-
• Darparu gwybodaeth am leoedd sydd ar ôl ar gyrsiau ar gyfer Datblygiad Proffesiynol.
• Darparu gwybodaeth am yr amrywiaeth o rolau sydd wedi’u cynnwys yn y grwpiau newydd ym mhwynt 1.06 yr adroddiad.
• O ran Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, cytunodd i ysgrifennu adroddiad, a fyddai’n cynnwys canlyniadau’r amcanion, a oedd yn sicrhau bod ysgolion yn cael cefnogaeth i fodloni gofynion y Cod ACRh statudol.
• Gan ymateb i bwyntiau am nifer yr ysgolion sy’n defnyddio Adnodd 360° Safe Cymru, cytunwyd i ddarparu’r wybodaeth leol hon. Yna byddai ysgolion yn cael eu hatgoffa bod yr adnodd hwn ar gael, ei fod yn rhad ac am ddim ac os nad oedd yn cael ei ddefnyddio, sut oedden nhw’n sicrhau bod eu darpariaeth diogelwch ar-lein, polisïau a gweithdrefnau’n gyfredol. Roedd Llywodraeth Cymru yn amlygu hyn hefyd.
Fe gafodd y penderfyniad yn yr adroddiad ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad Diogelu mewn Addysg ac yn darparu eu hadborth i swyddogion ar y strategaethau a ddefnyddiwyd gan y Portffolio i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol.
Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield
Dyddiad cyhoeddi: 03/03/2025
Dyddiad y penderfyniad: 27/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/06/2024 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: