Manylion y penderfyniad
Housing Strategy Action Plan Performance Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Darparu diweddariad blynyddol ar y Strategaeth gyfredol.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) a Rheolwr Strategol Tai a’r Rhaglen Gyflawni adroddiad i roi diweddariad ar gyflawni Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Tai 2019–2024 gyda phwyslais penodol ar flwyddyn ariannol 2023/24. Ar gais y Cynghorydd Helen Brown, byddai nodyn briffio am y risgiau yn y dyfodol yn cael ei rannu ag Aelodau’r Pwyllgor cyn gweithdai’r Strategaeth Tai. Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi. |
PENDERFYNWYD: |
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd ar gyflawni Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Tai 2019–2024; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad i’r canlynol: · Alinio safonau a’r gyfradd ymyrryd ar gyfer caffaeliadau o dan y Grant Tai Cymdeithasol gyda’r rhai o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP). · Yr amserlen ddiweddaraf i adnewyddu’r Strategaeth Tai gyfredol. |
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 25/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/06/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: