Manylion y penderfyniad
Joint Funded Care Packages - Update Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
I rannu diweddariad ar y sefyllfa bresennol o ran dyled hirdymor gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers yr adroddiad diwethaf.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am y ddyled hirdymor gyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) mewn perthynas â darparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn Sir y Fflint.
Yn dilyn trafodaeth, ailadroddodd y Cadeirydd y pryderon ynghylch nad yw’r broses apelio yn caniatáu cynrychiolaeth gan yr awdurdod lleol a mynegodd y dylai’r Pwyllgor, efallai, fyfyrio ar hyn yn ystod y diweddariad nesaf.
Cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa o ran anfonebau Gofal Iechyd Parhaus sydd heb eu talu i’r Cyngor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Awdur yr adroddiad: Jane Davies
Dyddiad cyhoeddi: 21/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/06/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: