Manylion y penderfyniad

Review of Protocol for Meeting Contractors

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro a eglurodd fod y Cyngor wedi gwario dros £200 miliwn y flwyddyn drwy ei gontractau amrywiol.   Roedd nifer fawr o reolau ar waith yn ymwneud â chontractau er mwyn sicrhau fod y contractwyr yn gallu cyflawni’r tasgau, yn cynnig gwerth am arian, yn dryloyw ac yn defnyddio llwybrau archwilio clir ac nad oedd unrhyw beth yn cael ei ddweud neu ei wneud i danseilio’r egwyddorion pwysig hynny.   Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y newidiadau diweddar yn y Cod Ymddygiad Gweithwyr a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr ddilyn Rheolau'r Weithdrefn Gontractau.  Fodd bynnag, nid oedd unrhyw ofyniad ar Aelodau mewn perthynas â hyn.   Mae’r Protocol yn ategu at y Cod Ymddygiad Aelodau i ddisgrifio sut dylai Aelodau ymddwyn er mwyn sicrhau nad ydynt yn tanseilio’r prosesau hyn.   Darparodd y Swyddog Monitro enghreifftiau o’r cwestiynau a godwyd mewn perthynas â’r contractau a gafodd eu dyrannu gan San Steffan yn ystod y Pandemig ac roedd y Protocol hwn yn allweddol er mwyn osgoi cwestiynau ac achosion o’r fath rhag codi yn Sir y Fflint.    Roedd y Protocol wedi cael ei adolygu flynyddoedd yn ôl ac roedd bellach yn cael ei adolygu dan y rhaglen adolygu dreigl, ond roedd y Swyddog Monitro’n teimlo bod y Protocol yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gyfredol. 

 

            Cyfeiriodd Gill Murgatroyd at baragraff 2.2 ac awgrymodd efallai y byddai angen diweddaru’r nodweddion gwarchodedig gan fod 9 ohonynt bellach, ond dim ond 6 oedd yn y paragraff hwn.    Cytunodd y Pwyllgor ar hyn.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Jacqueline Guest ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Antony Wren. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cytuno, ar ôl adolygu’r Protocol i Aelodau ar gyfer Delio â Chontractwyr a Thrydydd Partïon Eraill, yn amodol ar y diwygiad bychan, ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gyfredol.  

 

 

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 04/03/2025

Dyddiad y penderfyniad: 04/03/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/03/2024 - Pwyllgor Safonau

Dogfennau Atodol: