Manylion y penderfyniad

Rolling Review of the Employees Code of Conduct

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Wrth gyflwyno, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Codau a'r Protocolau o fewn y Cyfansoddiad yn cael eu hadolygu'n barhaus i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn berthnasol.  Roedd y ddogfen hon yn rhan o Gontract Cyflogaeth y Gweithwyr a byddai'n cael ei gorfodi drwy gamau disgyblu.  Eglurwyd bod y Cod Ymddygiad statudol ar gyfer gweithwyr yn wahanol i God Ymddygiad yr Aelodau.  Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr adroddiad ac eglurodd mai'r testun mewn print trwm oedd y testun statudol, gyda'r testun annelwig yn cyfeirio at wybodaeth ychwanegol neu ofynion a ychwanegwyd gan y Cyngor Sir dros y blynyddoedd.  Cafodd y Cod ei adolygu, ac argymhellwyd nifer o newidiadau yn dilyn trafodaeth gan y Pwyllgor Safonau. Maent wedi’u crynhoi ym mhwynt 1.04 yr adroddiad.  Darparwyd gwybodaeth am y newidiadau a'r ychwanegiadau a oedd yn ymwneud ag ymddygiad, sefyll mewn etholiad, datganiadau cyhoeddus yn beirniadu'r Awdurdod, defnydd o TG a chod gwisg, a oedd hefyd wedi'u cynnwys.   

 

  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ar adran 2.3 o’r cod arfaethedig, awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y dylid cynnwys y frawddeg ganlynol.  

 

 “Gallai cynefindra personol agos rhwng gweithwyr a chynghorwyr unigol yn y gweithle niweidio'r berthynas a phrofi’n embaras i weithwyr eraill.”    Awgrymwyd y dylid cynnwys brawddeg arall ar gyfer sefyllfa pan mae Cynghorwyr a gweithwyr mewn perthynas, yn nodi ei bod yn ddyletswydd ar y gweithiwr i ddatgan hynny i'w rheolwr atebol.

 

Mewn ymateb i ail bwynt y Cynghorydd Ibbotson ynghylch adran 5.01, teimlai’r Prif Swyddog ei bod yn briodol trafod yn llawn yr holl faterion a sylwadau a oedd gan yr aelodau.  Cadarnhawyd y byddai sylwadau’r pwyllgor hwn yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor llawn.  Cadarnhaodd hefyd, pe ceid unrhyw bryderon neu angen gwirio ddwywaith gydag aelodau'r pwyllgor, yna byddai hyn yn cael ei wneud drwy e-bost i sicrhau bod yr holl sylwadau'n cael eu cynnwys cyn cwblhau'r adroddiad terfynol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge ar y mecanwaith adrodd ar gyfer Cod Ymddygiad Swyddogion, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod paragraff 8 y Cod yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion ddatgan cysylltiad lle gallai eu bywydau preifat wrthdaro â'u dyletswydd gyhoeddus.  Amlinellodd y gwahaniaethau rhwng Cod y Swyddogion a Chod yr Aelodau ac eglurodd sut yr ymdriniwyd â hyn ym mharagraff 8.  Roedd yn ymwneud â’r posibilrwydd rhag ofn y byddai’r angen yn codi.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yr argymhelliad gyda newid bach - “bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau sy’n cael eu hargymell gan y Pwyllgor Safonau i’r Cyngor Llawn i’w mabwysiadu.”

 

            Awgrymodd y Prif Swyddog fod hyn yn cael ei newid yn dilyn y cyfarfod i ymgorffori'r newidiadau a awgrymwyd ym mharagraffau 2.3 a 5.1.

 

Cymeradwywyd yr argymhellion yn yr adroddiad fel y'u cynigiwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r newidiadau sy'n cael eu hargymell gan y Pwyllgor Safonau i'r Cyngor Llawn i'w mabwysiadu.

 

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 16/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2024 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Accompanying Documents: