Manylion y penderfyniad

Alarm Service Charges Review

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To outline the proposal to achieve full cost recovery for the Housing Revenue Account alarms service.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai, Lles a Chymunedau) adroddiad a oedd yn darparu manylion am gynnig i gynyddu’r ffi gwasanaeth i bob preswylydd llety gwarchod a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth larwm ar hyn o bryd a byddai’r ffi gwasanaeth yn berthnasol i bob eiddo gwarchod o’r dyddiad gosod yn y dyfodol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y Cyngor yn darparu ystod o wasanaethau i drigolion, i’r gymuned ac i ymwelwyr y gall godi ffi neu dâl amdanynt a chynhyrchu incwm o ganlyniad.  Roedd 2,592 o unedau llety tai gwarchod yn stoc tai’r Cyngor (Cyfrif Refeniw Tai) ac ar ôl adolygiad o’r gwasanaeth warden yn 2009, daeth y gwasanaeth hwn i ben, a chrëwyd y Gwasanaeth Cefnogi Llety yn y Gymuned.  Roedd y gwasanaeth yn darparu gwasanaeth daliadaeth niwtral i unrhyw berson h?n yn Sir y Fflint allai fod angen cefnogaeth sy’n ymwneud â thai.

 

Yn ogystal, roedd y gwasanaeth yn darparu gwasanaeth ymateb ar gyfer achosion o ganu larwm.  Ar gyfer preswylwyr y Cyfrif Refeniw Tai, roedd hwn yn wasanaeth 24 awr, gan weithredu gwasanaeth y tu allan i oriau swyddfa o’rtu mewn i’r tîm (gyda’r nos, dros nos a phenwythnosau).  Y cynnig a amlinellwyd yn yr adroddiad oedd gweithredu’r ffi gwasanaeth uwch i bob preswylydd llety gwarchod a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth larwm ar hyn o bryd.  Byddai’r ffi yn cael ei gweithredu ar gyfer pob preswylydd newydd mewn cynlluniau llety gwarchod lle’r oedd larwm wedi’i gosod, yn unol â’r broses bresennol ar ddechrau eu contract newydd.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ganmoliaeth i’r gwasanaeth larwm gan ddweud ei fod yn wasanaeth ardderchog i ddeiliaid contract mewn llety gwarchod a bod y deiliaid contract hynny’n ei werthfawrogi’n fawr.

 

Roedd y Cynghorydd Ted Palmer yn pryderu bod y ffi gwasanaeth yn cael ei gweithredu i bob llety gwarchod o’r dyddiad gosod yn y dyfodol, o ystyried bod rhai deiliaid contract mewn llety gwarchod tua 55 oed, ac na fyddai angen y gwasanaeth arnynt o bosibl.  Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai deiliaid contract yn cael gwybod am y ffi gwasanaeth cyn cytuno i osod llety gwarchod yn y dyfodol.

 

Gan ymateb i gwestiwn am ôl-ddyddio’r cynnydd, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’r cynnydd yn cael ei weithredu o 1 Ebrill, 2024, felly ni fyddai unrhyw gostau wedi’u hôl-ddyddio yn cael eu hychwanegu.

 

Cytunwyd bod y sylwadau a’r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet. 

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’i eilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi a chymeradwyo’r cynnig i adennill cost lawn gwasanaeth larwm y cyfrif refeniw tai.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 14/02/2024

Dyddiad y penderfyniad: 10/01/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: