Manylion y penderfyniad

Car Parking Provision – Council owned properties

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an overview of Council’s Environmental Programme which includes the provision of car parking at Council owned properties.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai adroddiad a oedd yn canolbwyntio ar y gwaith a oedd wedi’i gwblhau ac a oedd yn parhau i gael ei gyflwyno trwy Raglen Amgylcheddol y Cyngor, a oedd yn cynnwys darpariaeth meysydd parcio. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y Pwyllgor sut yr oedd y cynlluniau’n cael eu hasesu a thrafodwyd y matrics sgorio ar gyfer sut byddent yn penderfynu lle byddai gwaith yn cael ei flaenoriaethu a’i gwblhau.  Defnyddiwyd y matrics meysydd parcio i sgorio pob un a oedd yn ddichonadwy ac a allai fynd yn eu blaenau yn unol â’r gyllideb.

 

Dywedodd fod nifer o Aelodau wedi cyflwyno sawl cais am gynlluniau, gan gynnwys prosiectau yr oedd angen trwyddedau er mwyn parcio ynddynt.  Dywedodd hefyd fod sawl cymhlethdod wedi’u nodi, a’u bod yn cael eu hystyried, ond dywedodd fod rhaid iddynt gydymffurfio â’r Polisi Gwasanaethau Stryd hefyd.  Roedd bwriad i ymgynghori gyda phob Aelod o ran pa gynlluniau allai gael eu symud ymlaen. 

 

Fe amlinellodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol a’r Aelod Cabinet Tai ac Adfywio yr angen i roi ystyriaeth ofalus i weithredu cynlluniau trwyddedau parcio oherwydd y pwysau presennol ar y Tîm Gorfodaeth. 

 

Gan ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin ynghylch ymgynghoriad ag Aelodau, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y rhan fwyaf o geisiadau am gynlluniau parcio wedi’u gwneud gan Aelodau a byddai ymgynghori’n digwydd gydag Aelodau Lleol cyn i benderfyniad gael ei wneud am gynllun. 

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Linda Thew am gynlluniau parcio’n cysylltu â dymchwel safleoedd garejys, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod cynllun tebyg ar waith ar gyfer safleoedd o’r fath, sy’n ffurfio rhan o raglen ar wahân.  Roedd safleoedd o’r fath yn cael eu hystyried ar gyfer mannau parcio/adeiladau newydd/ardaloedd dad-ddofi.  Gofynnodd i’r Cynghorydd Thew rannu gwybodaeth am safleoedd yr oedd wedi’u nodi. 

 

Soniodd y Cynghorydd David Evans am yr angen am ragor o fannau parcio oddi ar y ffordd i breswylwyr ond mynegodd bryder am drwyddedau parcio a’r tegwch o ran sut y byddent yn cael eu dyrannu gan y byddai o fudd i rai ac nid eraill, a gallai olygu bod cymdogion yn cystadlu am le parcio.  Dywedodd y byddai anghydraddoldeb bob amser o ran y rhai oedd â dreif er mwyn parcio am ddim, a’r rhai nad oedd ganddynt ddreif ac a oedd yn gord talu am drwydded.  Dywedodd nad oedd yn cefnogi cynllun trwyddedau parcio, am y rhesymau a nododd.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai trwyddedau parcio ar gyfer eiddo’r Cyngor yn unig, a bod llety tai gwarchod yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.  Ni fyddai’r cynllun yn cynnwys preswylwyr preifat.  Soniodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio am yr heriau o ran darparu digon o fannau parcio gan fod gan rai teuluoedd fwy nag un cerbyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Rush am wybodaeth am gost cyfartalog darparu dreif.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r gost gyfartalog oedd tua £2,000-£3,000 fesul dreif.  Y gyllideb fyddai’n penderfynu sawl dreif y gellid eu cwblhau mewn blwyddyn, ac ailadroddodd fod dreif yn rhywbeth costus iawn i’w ddarparu, sef pam fod dewisiadau eraill wedi'u hystyried.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a ellid cynnwys rhai o’r cynlluniau parcio arfaethedig yn yr adolygiad o dai gwarchod.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai rhai yn cael eu cynnwys fel rhan o raglen Safon Ansawdd Tai Cymru 2. 

 

Ar ôl cwestiynau am gynlluniau’r dyfodol, cytunwyd bod gwybodaeth am flaenoriaeth cynlluniau yn cael ei rhannu gydag Aelodau’r Pwyllgor.

 

Cafwyd awgrym gan y Cynghorydd Ted Palmer, sef fod yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu’r ffaith fod y Pwyllgor yn cefnogi dichonoldeb cynllun parcio mewn egwyddor, yn dilyn ymgynghoriad gyda Deiliaid Contract ac Aelodau Lleol.

 

Cafwyd awgrym gan y Cadeirydd fod yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cael ei ddiwygio i:-

 

·         Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r camau gweithredu arfaethedig sy’n ymwneud â dichonoldeb cynllun trwydded parcio, yn dilyn ymgynghoriad gyda Deiliaid Contract ac Aelodau Lleol.

 

Cafodd yr argymhelliad uchod ei gynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’i eilio gan y Cynghorydd Kevin Rush. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r camau gweithredu arfaethedig sy’n ymwneud â dichonoldeb cynllun trwydded parcio, yn dilyn ymgynghoriad gyda Deiliaid Contract ac Aelodau Lleol.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 14/02/2024

Dyddiad y penderfyniad: 10/01/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: