Manylion y penderfyniad

Housing Management and Anti-Social Behaviour Policy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an overview of the changes that have been made to the Housing Management Policy and the Anti-Social Behaviour Policy in response to the Renting Homes Wales Act 2016.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai, Lles a Chymunedau) adroddiad i roi trosolwg o'r newidiadau a wnaed i'r Polisi Rheoli Tai a’r Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2022, oedd y newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ersdegawdau.  Roedd y ddeddfwriaeth newydd wedi newid y ffordd y mae pob landlord yngNghymru yn rhentu eu heiddo, a byddai’n parhau i’w newid.  Nod y Ddeddf yw symleiddio’r broses o rentu cartref yng Nghymru a rhoi mwy o wybodaeth i bartïon am eu hawliau a’u rhwymedigaethau.   Roedd y Ddeddf mewn grym yn rhannol bellach, at ddibenion gwneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau.

 

O ran y Polisi Rheoli Tai, roedd crynodeb o’r prif newidiadau wedi’i roi yn yr adroddiad. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd fod y Cyngor yn ymrwymedig i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ei fod yn cael effaith andwyol ar fywydau cwsmeriaid y Cyngor.  Roedd angen i’r Polisi adlewyrchu arfer gorau a diogelu hawliau deiliaid contract yn ogystal â lleihau'r risg i'r Cyngor am beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth briodol.  Nod y polisi oedd sicrhau bod systemau effeithiol yn cael eu mabwysiadu i atal a lleihau nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a’u datrys cyn gynted â phosib’ drwy ymyraethau priodol ac amserol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge fod gweithdrefnau ar gyfer storio Sgwteri yn cael eu cynnwys yn y Polisi Rheoli Tai.  Dywedodd yr Uwch Reolwr na allai’r Polisi Rheoli Tai gynnwys popeth, gan fod polisïau ar wahân a oedd yn ymdrin â phethau fel sgwteri ac anifeiliaid anwes yn dod dan y Polisi Rheoli Tai.

 

Mynegwyd pryder am gryfder y Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o ran delio gydag achosion o ymosodiadau gan g?n.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi’i ddatblygu mewn modd a oedd yn sicrhau y byddai pob agwedd ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cael eu cynnwys, ac atgoffwyd Aelodau y gallai achosion o’r fath arwain at gyhuddiadau troseddol.  Awgrymwyd bod copi o’r Polisi Anifeiliaid Anwes yn cael ei ddosbarth i bob Aelod o’r Cyngor fel eu bod yn glir o ran rhwymedigaethau’r Deiliaid Contract yn hyn o beth.

 

Roedd y Cynghorydd David Evans yn croesawu cynnwys Crwydro o Amgylch Ystadau yn y Polisi, ond holodd sut oedd canlyniad camau/materion a godwyd yn cael ei rannu.  Cytunwyd i swyddogion drin hwn fel mater gweithdrefnol er mwyn gwella cyfathrebu.

 

Cytunwyd bod y sylwadau a’r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Evans yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Ted Palmer y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r polisïau Rheoli Tai ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

 

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 14/02/2024

Dyddiad y penderfyniad: 10/01/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: