Manylion y penderfyniad

Cost of Living and Welfare Reform

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update on the impacts of welfare reforms and the work that is ongoing to mitigate the impacts.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai, Lles a Chymunedau) adroddiad i ddarparu diweddariad gweithredol cyfun ar effaith ymateb y diwygiadau lles diweddaraf a chynlluniau costau byw i gefnogi preswylwyr.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar yr effaith y mae diwygiadau lles yn parhau i’w chael ar breswylwyr Sir y Fflint a’r gwaith sy’n digwydd i’w lliniaru ac i gefnogi aelwydydd sy’n cael eu heffeithio.  Roedd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar aelwydydd diamddiffyn bellach hefyd ac roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am amrywiaeth o fesurau a gaiff eu gweithredu i helpu’r rhai y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio arnynt a’r gefnogaeth a ddarperir i breswylwyr i helpu i liniaru’r effaith negyddol hon.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth ddiweddariad manwl ar y meysydd canlynol a amlinellwyd yn yr adroddiad:-

 

·         Cymhorthdal Ystafell Sbâr

·         Effaith yn Sir y Fflint

·         Uchafswm Budd-daliadau

·         Effaith yn Sir y Fflint

·         Cynllun Cymorth Biliau Ynni – Cyllid Amgen

·         Taliad Tanwydd Amgen – Cronfa Amgen

·         Prydau Ysgol Am Ddim i’r holl Ddisgyblion Cynradd a Hawl i Brydau Ysgol Am Ddim

·         Grant Hanfodion Ysgol (Grantiau Gwisg Ysgol)

·         Cymorth Lles

·         Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai

·         Newidiadau yn y Dyfodol

 

Soniodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin am yr anawsterau o ran annog rhieni i gofrestru ar gyfer y cynlluniau a gofynnodd a oedd unrhyw wybodaeth y gellid ei darparu i rieni i roi gwybod iddynt y gallent wneud cais am gymorth ariannol arall pe baent yn gwneud cais am gymorth ariannol penodol.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’r Cyngor yn parhau i weithio gydag ysgolion i hyrwyddo Prydau Ysgol Am Ddim i’r holl Ddisgyblion Cynradd.

 

            Yn dilyn cais bod y wybodaeth yn yr adroddiad yn cael ei dosbarthu i’r holl Aelodau er gwybodaeth, awgrymwyd bod taflen wybodaeth yn cael ei chynhyrchu a’i dosbarthu i bob Aelod o’r Cyngor. 

 

            Yn dilyn sylwadau pellach am annog rhieni i wneud cais am Brydau Ysgol Am Ddim i’r holl Ddisgyblion Cynradd, awgrymwyd bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru (LlC) i ofyn eu bod yn annog rhieni ar lefel genedlaethol i barhau i wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim.

 

Fe gafodd yr argymhellion, fel a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys argymhelliad ychwanegol, sef fod y Pwyllgor yn ysgrifennu at LlC i ofyn eu bod yn annog rhieni ar lefel genedlaethol i barhau i wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim, eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith y mae diwygio’r gyfundrefn les yn ei chael, ac y byddai’n parhau i’w chael, ar rai o’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi'r mesurau cymorth a roddwyd ar waith drwy Lywodraeth Cymru i liniaru'r argyfwng costau byw; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn eu bod yn annog rhieni ar lefel genedlaethol i barhau i wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim.

Awdur yr adroddiad: Karen Powell

Dyddiad cyhoeddi: 14/02/2024

Dyddiad y penderfyniad: 10/01/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/01/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: