Manylion y penderfyniad

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd).   Dywedodd hefyd bod yr Ymgeisydd, yn ôl y gofyn, wedi darparu manylion ynghylch ei gyfnod prawf, a gafodd eu rhannu â’r Is-bwyllgor.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.

 

4.1       Penderfyniad ar y Cais

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r Ymgeisydd yn ôl, er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau’r Is-bwyllgor wedi ystyried yr holl wybodaeth, gan gynnwys y manylion am yr euogfarnau, polisi’r Cyngor ar euogfarnau, y wybodaeth ysgrifenedig a ddarparwyd, yn ogystal â’r eglurhad a dderbyniwyd gan yr Ymgeisydd. Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried euogfarnau blaenorol yr Ymgeisydd, eu natur a faint o amser a aeth heibio ers yr euogfarn am guro. 

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor nad oedd ganddynt unrhyw reswm da dros beidio â dilyn y canllawiau’n ymwneud â gadael i gyfnod o bum mlynedd fynd heibio yn dilyn euogfarn am drais. Dywedodd hefyd bod canllawiau’r Adran Drafnidiaeth yn nodi deng mlynedd.

 

Yn ogystal, er eu bod yn ystyried yn glinigol nad oedd yna unrhyw arwyddion o ddibyniaeth ar alcohol neu ddiddyfnu yn yr archwiliad meddygol, nodwyd hefyd bod yr Ymgeisydd wedi dweud yn y lle cyntaf ei fod bron yn hollol sobr, ond bu i archwiliad meddygol diweddar ddangos ei fod yn yfed hyd at 12 uned o alcohol bob wythnos.

 

Dywedodd yr Ymgeisydd hefyd wrth Is-bwyllgor ei fod wedi derbyn rhagor o euogfarnau traffig ffordd. Roedd hyn yn destun pryder i’r Is-bwyllgor, oherwydd ei fod wedi troseddu dro ar ôl tro, er eu bod nhw’n fân droseddau, mewn perthynas â’r canllawiau perthnasol.

 

Nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon, o ystyried pob posibilrwydd, fod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat. Cafwyd penderfyniad unfrydol i wrthod y cais.

 

4.2      Penderfyniad

 

Bod y cais yn cael ei wrthod, gan nad oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat o fewn Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

Ar ôl darllen penderfyniad yr Is-bwyllgor (fel yr uchod) a chyn cloi’r cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd wrth yr Ymgeisydd fod ganddo’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, ac y byddai copi ysgrifenedig o’r penderfyniad yn cael ei anfon ato.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 30/10/2023

Dyddiad y penderfyniad: 18/09/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/09/2023 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •