Manylion y penderfyniad
Renewal of Public Space Protection Orders – Alcohol and Dog Control
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To determine the renewal of Public Space
Protection Orders relating to dog control and alcohol.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd bod y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn ymyrraeth i atal unigolion, neu grwpiau, rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus. Roeddent yn rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Gan ddod i rym ar 19 Hydref 2017, cymeradwyodd y Cabinet
Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli c?n yn dilyn cyfnod ymgynghorol a gofynion eraill dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Roedd
y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i berchnogion c?n:
1. Waredu gwastraff eu c?n o bob man cyhoeddus o fewn Sir y Fflint
2. Mynd â modd o godi gwastraff eu c?n i fyny gyda nhw
3. Rhoi eu ci ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt pan fo’r ci
yn achosi niwsans
4. Gwahardd c?n rhag mynd ar ardaloedd chwarae caeau chwaraeon cyhoeddus wedi eu marcio,
ardaloedd hamdden ffurfiol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i lawntiau bowlio
a chyrtiau tennis, ardaloedd chwarae gydag offer i blant gyda ffensys o’u cwmpas a phob
ardal ar diroedd ysgolion
5. Cadw eu c?n ar dennyn mewn mynwentydd.
O dan ddarpariaethau Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014,
roedd Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig Sir y Fflint ar gyfer Alcohol yn newid yn awtomatig i
Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar yr un dyddiad. Roedd y gorchymyn hwn yn rhoi p?er i Swyddogion yr Heddlu ofyn i aelodau o’r cyhoedd ildio alcohol os oeddent yn credu bod aelod o’r cyhoedd
yn achosi niwsans mewn man cyhoeddus. Nid oedd hyn yn waharddiad alcohol llwyr
mewn ardal gyhoeddus, ac nid oedd hyn yn berthnasol i eiddo trwyddedig, ond yn annog
yfed yn gall.
Adnewyddwyd y ddau Orchymyn yn 2020 ac roedd y ddau bellach angen eu hadolygu a’u hadnewyddu neu byddent yn dod i ben ar 29 Hydref 2023.
Gallai unrhyw awdurdod lleol sy’n gwneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ymestyn y cyfnod gweithredol cyn belled â’i fod yn fodlon, ar sail resymegol, bod angen gwneud hynny i atal y gweithgareddau a nodwyd yn y gorchymyn rhag digwydd neu ailddigwydd, neu gynnydd yn amlder neu ddifrifoldeb y gweithgareddau hynny, ar ôl y cyfnod hwnnw.
Yn ogystal â hynny, mae Cyngor Tref yr Wyddgrug a Chlwb Pysgota Cei Connah a’r Cylch wedi gofyn i’r Cyngor ddiwygio’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Rheoli C?n i wahardd c?n o Erddi Coffa yr Wyddgrug, Maes Bodlonfa, yr Wyddgrug,
a The Rosie, Parc Gwepra, Cei Connah.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y gwaharddiadau cyfredol a’r amrywiadau arfaethedig yn unol â’r gofynion cyfreithiol am 5 wythnos rhwng 5 Mehefin ac 14 Gorffennaf 2023. Derbyniwyd cyfanswm o 881 ymateb. Roedd cefnogaeth gref i adnewyddu’r ddau
Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys yr amrywiadau a geisiwyd.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) eu bod wedi derbyn deiseb mewn perthynas â gerddi coffa’r Wyddgrug ac er bod yr awdurdod wedi ei chydnabod, roedd prosesau llym yn golygu nad oedd modd ei hystyried ac argymhellwyd gorfodi’r gwaharddiad. Roedd yn bwysig nodi bod yr ymatebion y tu allan i’r cyfnod ymgynghori a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2023. O’r ymgynghoriad, roedd dros 60% o blaid gwahardd c?n o’r ardd goffa yn yr Wyddgrug. Cadarnhaodd bod y cynlluniau ar-lein ac ar y safle yn ystod y cyfnod ymgynghori.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo ymestyn y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus i gynnwys rheoli c?n ac alcohol yn Sir y Fflint, fel yr amlinellir isod:
Bydd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli C?n yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion sy’n gyfrifol am gi:
I. Waredu gwastraff eu c?n o bob man cyhoeddus o fewn Sir y Fflint
II. Gwahardd cymryd, neu ganiatáu i’r ci fynd neu aros yn yr ardaloedd canlynol:
- Ardal o fewn tir ysgol
- Ardaloedd chwarae mewn ardaloedd hamdden ffurfiol gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i lawntiau bowlio a chyrtiau tennis
- Llwybr gyda ffensys o amgylch The Rosie, Parc Gwepra, Cei Connah, fel y nodir ar y map yn atodiad 3
- Parc Coffa Yr Wyddgrug, Maes Bodlonfa, Yr Wyddgrug fel y dengys yn atodiad 4
III Cadw eu ci ar dennyn mewn mynwent
IV Sicrhau bod ganddynt fodd priodol o godi gwastraff eu ci o’r holl lefydd cyhoeddus yn Sir y Fflint
V Rhoi eu c?n ar dennyn, ar gais swyddog awdurdodedig os yw’r ci yn rhydd ac yn achosi niwsans neu annifyrrwch i unigolyn, aderyn neu anifail arall
Effaith y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Alcohol yw gosod y gwaharddiadau a/neu’r
gofynion canlynol mewn mannau cyhoeddus yn Sir y Fflint, drwy’r amser:
- mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn parhau i yfed diod feddwol mewn man cyhoeddus o fewn yr Ardal Gyfyngedig pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddo beidio, yn cyflawni trosedd.
- mae unrhyw berson sydd, mewn man cyhoeddus o fewn yr Ardal Gyfyngedig, heb esgus rhesymol, sy’n methu ag ildio unrhyw ddiod feddwol sydd yn eu meddiant pan fydd Swyddog Awdurdodedig yn gofyn iddo beidio, yn cyflawni trosedd.
- mae’n rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n gosod gofyniad o dan Erthygl 4(a) ac/neu 4(b) uchod ddweud wrth y person fod methu â chydymffurfio â’r gwaharddiad ac/neu’r gofyniad, heb esgus rhesymol, yn drosedd.
(b) Yn amodol ar gymeradwyaeth, bod y Gorchmynion Gwarchod Mannau Agored sy'n cwmpasu rheolaeth c?n ac alcohol yn dechrau ar 29 Hydref 2023, yn dilyn cyfnod rhybudd a chyhoeddusrwydd y gorchymyn sydd ar ddod.
Awdur yr adroddiad: Sian Jones (Environment)
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 26/10/2023
Dogfennau Atodol:
- Renewal of Public Space Protection Orders – Alcohol and Dog Control PDF 102 KB
- Enc. 1 for Renewal of Public Space Protection Orders – Alcohol and Dog Control PDF 48 KB
- Enc. 2 for Renewal of Public Space Protection Orders – Alcohol and Dog Control PDF 54 KB
- Enc. 3 for Renewal of Public Space Protection Orders – Alcohol and Dog Control PDF 323 KB
- Enc. 4 for Renewal of Public Space Protection Orders – Alcohol and Dog Control PDF 890 KB
- Enc. 5 for Renewal of Public Space Protection Orders – Alcohol and Dog Control PDF 184 KB