Manylion y penderfyniad
Cost of Living & Welfare Reform
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide the Committee with a combined
operational update on the latest welfare response impacts, and the
cost-of-living schemes to support residents.
Penderfyniadau:
Rhoddodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) ddiweddariad ar yr effeithiau sy’n parhau gyda diwygiadau lles a thrafododd y gwaith parhaus i liniaru’r gwaith sy’n parhau i gefnogi aelwydydd trigolion Sir y Fflint. Ychwanegodd fod treth ystafelloedd gwely yn dal i gael effaith yn Sir y Fflint ynghyd â'r diffyg cartrefi llai sydd ar gael i drigolion sy’n dymuno symud i gartrefi llai hefyd.
Trafododd y canlynol hefyd, fel yr amlinellir yn yr adroddiad:-
· Uchafswm Budd-daliadau
· Cynllun Cymorth Costau Byw
· Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf 2022/23
· Cynllun Cymorth Biliau Ynni
· Taliadau Tanwydd Amgen
· Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd
· Grant Hanfodion Ysgol
· Cymorth Lles
· Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai (DHP)
Aeth yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) ymlaen i drafod cymhwyster a chyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim a’r ffordd y maent yn gweithio gydag ysgolion i roi cyhoeddusrwydd i’r grant amddifadedd disgyblion, a hefyd sut y byddent yn ceisio awtomeiddio taliadau mewn perthynas â’r grant gwisg ysgol ar gyfer pob blwyddyn ysgol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at Gynllun Tanwydd y Gaeaf a mynegodd ei bryderon nad oedd pob preswylydd yn manteisio ar y cynllun. Gofynnodd faint o breswylwyr a oedd yn dal heb drefnu i dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol. Dywedodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) fod y tîm yn rhoi anogaeth gadarnhaol i aelwydydd i fanteisio ar y cynllun, gyda rhai'n cael eu credydu'n ôl drwy eu cyfrifon Treth y Cyngor. Ychwanegodd mai Sir y Fflint oedd â'r nifer fwyaf o bobl yng Nghymru yn manteisio ar y cynllun ac anogodd y Cynghorwyr i rannu ffyrdd o ymgysylltu â thenantiaid.
Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, dywedodd yr Uwch Reolwr (Tai, Lles a Chymunedau) nad oedd yn meddwl bod modd olrhain hawlwyr DHP mewn perthynas â threth ystafelloedd gwely dros y cyfnod o amser a awgrymwyd. O ran prydau ysgol am ddim, cytunodd y gallai'r broses hawlio fod yn anodd a dywedodd fod angen codi ymwybyddiaeth o sut mae hyn yn effeithio ar ysgolion ac ategodd pa mor bwysig oedd gwneud hawliad.
Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn llwyr gefnogi'r Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai a fydd, meddai hi, yn parhau hyd y gellir rhagweld.
Ychwanegodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei sylwadau gan ddweud bod yr adroddiad yn dda ond na ddylai'r Cyngor golli golwg ar yr holl bobl ddiamddiffyn ledled Sir y Fflint sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw a diwygio’r gyfundrefn les.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Tina Claydon a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus o reoli’r effeithiau y mae diwygio’r gyfundrefn les wedi’i gael, ac yn parhau i’w gael, ar rai o’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi'r mesurau cymorth a roddwyd ar waith drwy Lywodraeth Cymru i liniaru'r argyfwng costau byw.
Awdur yr adroddiad: Karen Powell
Dyddiad cyhoeddi: 27/09/2023
Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Dogfennau Atodol: