Manylion y penderfyniad
Independent Member attendance at Committee Meetings.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i gytuno ar y broses i Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor sy’n mynychu ac yn arsylwi cyfarfodydd y Cyngor, Cabinet a Phwyllgorau’r Cyngor Sir yn yr un modd ag yr oeddent wedi mynychu cyfarfodydd Cyngor Tref a Chymuned. Roedd y gyfres olaf o ymweliadau wedi eu cynnal yn ystod 2021 a chytunwyd yn y cyfarfod diwethaf bod adroddiad yn cael ei ystyried ar drefniadau i drefnu ail rownd o ymweliadau.
Yn ystod trafodaeth, roedd y Swyddog Monitro yn egluro’r canlynol:
· Un ymweliad gan un Aelod Annibynnol i bob un o’r 12 Pwyllgor, gyda’r dewis i ddau o bobl fynychu’r Cyngor Sir os bydd angen.
· Mae’n bosibl y bydd cyfranogwyr yn dymuno ymuno o bell yr un fath ag aelodau o’r cyhoedd.
· Ble mae rhaglen yn cynnwys eitem gyfrinachol ac yn dibynnu ar y testun, gofynnir i Gadeirydd y Pwyllgor hwnnw ystyried caniatáu i’r Aelod Annibynnol aros yn y cyfarfod os yw hynny’n briodol. Yr Aelod Annibynnol i’w ddyrannu i’r cyfarfod hwnnw i gael ei hysbysu am y penderfyniad cyn mynychu.
· Y tîm Gwasanaethau Democrataidd i hysbysu pob Cadeirydd Pwyllgor pa Aelod Annibynnol fyddai’n mynychu i arsylwi eu cyfarfod.
· Dylid adrodd ar adborth o’r ymweliadau i’r Pwyllgor Safonau yn yr un modd ag ymweliadau a wnaed i Gynghorau Tref a Chymuned.
· Byddai Cadeiryddion Pwyllgor yn ymwybodol yr adroddir ar adborth i’r Pwyllgor Safonau gan fod dolenni i raglenni yn cael eu rhannu gyda holl Aelodau Etholedig.
· Byddai’r adborth hefyd yn cael ei rannu gydag Arweinwyr Gr?p.
· Yr Aelod Annibynnol i dderbyn datganiad byr ar ddiben yr ymweliadau i’w ddarllen allan mewn cyfarfodydd, os gofynnir iddynt wneud hynny.
Cytunwyd y byddai’r tîm Gwasanaethau Democrataidd yn dosbarthu’r rhestr o gyfarfodydd i wahodd y pum Aelod Annibynnol a’r cynrychiolydd Cyngor Tref/Cymuned i ddewis dau gyfarfod yr un, i gwblhau’r rota.
Ar y sail hynny, cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan Mark Morgan a’i eilio gan Gill Murgatroyd.
PENDERFYNWYD:
Bod y rhestr o gyfarfodydd yn cael ei dosbarthu i wahodd cyfranogwyr i ddewis dau gyfarfod yr un, er mwyn cytuno ar y rota presenoldeb a chanllawiau ar gyfer sut y dylid cynnal ymweliadau.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 13/10/2023
Dyddiad y penderfyniad: 03/07/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/07/2023 - Pwyllgor Safonau
Dogfennau Atodol: