Manylion y penderfyniad
Flintshire Youth Justice Service Youth Justice Plan 2023-2026
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present, for consideration, the Youth
Justice Plan.
Penderfyniadau:
Darparodd yr Uwch Reolwr, Cyfiawnder Ieuenctid a Sorted Sir y Fflint drosolwg o'r gwaith statudol a wneir gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn Sir y Fflint. Roedd y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Blynyddol ynghlwm wrth y Cynllun yr oedd angen ei gyflwyno i'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn flynyddol. Roedd y Cynllun yn ymgorffori’r weledigaeth a rennir gan Lywodraeth Cymru (LlC) a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ‘Plant yn Gyntaf’ a sefydliad sy’n Ystyriol o Drawma gyda chymorth partneriaid yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Glynd?r. Roedd y gwasanaeth wedi bod yn rhan o gynllun peilot yng Nghymru o’r blaen gan ddefnyddio’r Model sy’n Ystyriol o Drawma drwy’r peilot Rheoli Achosion Uwch, ac roedd hyn yn adeiladu ar lwyddiant y peilot a’r canlyniadau cadarnhaol a gafwyd. Roedd y gwasanaeth am sicrhau bod cyfranogiad o fewn yr amcanion strategol gweithredol yn galluogi lleisiau'r plant a'r bobl ifanc i gael eu clywed er mwyn llywio cyfeiriad, dulliau ac adnoddau'r gwasanaeth wrth symud ymlaen. Roedd y rhain wedi'u cynnwys yn y Strategaeth Cyfranogiad y cytunwyd arni y llynedd, ac roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am ganlyniadau'r plant a'r bobl ifanc a ddaeth i'r System Cyfiawnder Troseddol a'r cymorth a gawsant gan y tîm ymroddedig.
Bu newidiadau hefyd yn y math o droseddau a gyflawnwyd y llynedd gyda phandemig Covid yn effeithio ar y data yr oedd modd ei gasglu. Bu gostyngiad mewn troseddau trefn gyhoeddus, cynnydd mewn troseddau lladrad ond trais oedd y prif drosedd o hyd a rhoddwyd blaenoriaeth ychwanegol iddo. Roedd hyn yn cyd-fynd â’r Ddyletswydd Trais Gwasanaeth statudol a’r Cynllun Gweithredu Ieuenctid ynghylch trais ac roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i asio hyn â’r Strategaeth Trais Difrifol. Roedd trais difrifol yn cyfeirio at gyfran fechan o'r garfan ond yn parhau i fod yn bryder. Pryder arall i’r gwasanaeth oedd y defnydd cynyddol o’r ddalfa a remand, gyda’r cyfraddau yn Sir y Fflint yn parhau’n eithaf isel ond bu cynnydd bychan o fewn y 12 mis diwethaf a oedd yn ymwneud â throseddau mwy difrifol. Fel gwasanaeth roedd defnyddio’r ddalfa yn cael ei weld fel y dewis olaf ond yn anffodus mewn rhai amgylchiadau roedd yn rhaid ei ddefnyddio gan fod heriau o gwmpas y sector gofal cymdeithasol ar gyfer lleoliadau priodol i blant a phobl ifanc. Roedd angen cydbwysedd rhwng cefnogi person ifanc a chadw'r gymuned yn ddiogel.
Adroddodd yr Uwch Reolwr ar gynlluniau'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol a'r effeithiau ar y garfan i sicrhau eu bod i gyd yn cael profiad cadarnhaol ynghyd â mynd i'r afael â materion anghymesuredd o fewn y System Cyfiawnder Troseddol ehangach.
Wrth amlinellu'r heriau ar gyfer y flwyddyn i ddod, roedd yr adroddiad yn amlinellu'r goblygiadau o ran adnoddau a'r ffordd unigryw y derbyniodd y gwasanaeth arian grant. Darparwyd hyn gan LlC, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a phartneriaid statudol fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf, Iechyd a gwasanaethau eraill. Eglurodd yr Uwch Reolwr sut yr oedd yr arbedion effeithlonrwydd a’r heriau costau byw a wynebwyd gan bartneriaid y Cyngor wedi effeithio ar y gyllideb yr oedd y gwasanaeth yn ei derbyn. Roedd recriwtio yn parhau i fod yn her gyda phobl yn llai tebygol o gymryd swyddi tymor byr wedi'u hariannu. Roedd y mesurau a roddwyd ar waith gan y Bwrdd Rheoli a'r Tîm Prif Swyddogion wedi galluogi gweithlu sefydlog a chefnogol. Roedd y gwasanaeth hefyd wedi gwneud gwaith ar Gynllun Olyniaeth a Datblygu Gweithlu a fyddai'n sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi, eu hyfforddi ac yn ymgymryd â chyfleoedd datblygu. Roedd pob Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru wedi profi newidiadau o ran Llywodraethu, Goruchwylio ac Arwain ynghyd â'r gofyniad i adrodd ar ddangosyddion perfformiad allweddol, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2023. Yn flaenorol roedd y gwasanaeth wedi gofyn am adolygiad gan gymheiriaid o ran rheolaeth a llywodraethu gan y Bartneriaeth Gwella’r Sector Cyfiawnder Ieuenctid. Roedd hyn yn cefnogi'r gwasanaeth trwy aros yn gryf i ddarparu'r gwasanaethau i blant a phobl ifanc cyn arolwg CThEF o fewn y 12 mis nesaf.
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Dave Mackie ynghylch y cyllid ar gyfer y gwasanaeth hwn, amlinellodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y rhwystredigaethau ynghylch y sefyllfa ariannu a golygai nad oedd y gwasanaeth yn gallu cynllunio'n strategol ar gyfer carfan o bobl ifanc fregus iawn. Roedd recriwtio i'r gwasanaeth hwnnw yn heriol a dyna pam yr oedd y Prif Weithredwr a'r Tîm Prif Swyddogion wedi gwneud y penderfyniad i benodi swyddi parhaol ar sail risg ar gyfer y rolau arbenigol hyn. Roedd y Prif Weithredwr, fel Cadeirydd y Bwrdd Rheoli, wedi ysgrifennu at y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn nodi pa mor annerbyniol ydoedd ar yr adeg hon yn y flwyddyn ariannol nad oeddent yn hysbys beth oedd y dyraniad cyllid craidd.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Uwch Reolwr a'i dîm am y Cynllun manwl ac roedd yn falch eu bod wedi croesawu adolygiadau adeiladol gan gydweithwyr a oedd yn gwella gwasanaethau cyffredinol o fewn cyfyngiadau'r gyllideb. Roedd hi'n teimlo eu bod nhw ar flaen y gâd.
Cafodd yr argymhelliad, sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’i eilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD
Nodi'r blaenoriaethau strategol a gweithredol yn y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid.
Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield
Dyddiad cyhoeddi: 31/10/2023
Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
Dogfennau Atodol: