Manylion y penderfyniad
Admissions Consultation 2024/2025
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To advise on the outcome of the statutory
consultation exercise on the admission arrangements for 2024/25 and
to recommend approval.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn cynghori ar ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ar drefniadau derbyn ar gyfer 2024/25 ac argymell i’w cymeradwyo.
Mae’n rhaid i’r ymgynghoriad gynnwys y trefniadau derbyn llawn yn cynnwys:
polisi derbyniadau, meini prawf pan fydd mwy o geisiadau na lleoedd sydd ar gael, yr amserlen ar gyfer derbyniadau a niferoedd derbyn (h.y. y nifer uchafswm o ddisgyblion i gael eu derbyn gan yr awdurdod derbyn i bob gr?p blwyddyn). Roedd y wybodaeth wedi’i atodi i’r adroddiad.
Roedd y trefniadau derbyn presennol wedi bod ar waith ers 2003 ac roedd
mwyafrif dewisiadau’r rhieni’n parhau i gael eu bodloni (tua 96%). Roedd y nifer o apeliadau derbyn yn y blynyddoedd diweddar wedi’u manylu yn y tabl yn yr adroddiad.
Cynhaliwyd y broses ymgynghori rhwng 13 Ionawr 2023 a 3 Chwefror 2023 ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau. Nid oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r trefniadau derbyn. Roedd yr amserlen dderbyniadau ddiwygiedig wedi’i llunio mewn ymgynghoriad ag awdurdodau cyfagos, ac yn rhoi ystyriaeth i ffactorau megis rhoi digon o amser i rieni ymweld/ymchwilio i ysgolion a mynegi eu dewisiadau, yr amser oedd ei angen i brosesu ceisiadau ac ati.
Yn rhan o’r ymgynghoriad, gofynnwyd i Benaethiaid a fu yna newidiadau i’r gofod yn eu hysgolion a fyddai’n golygu bod angen adolygu eu Nifer Derbyn. Ni chafwyd unrhyw geisiadau. Roedd yna newidiadau i’r capasiti a’r niferoedd derbyn mewn nifer o ysgolion o ganlyniad i estyniadau a/neu adeiladau newydd, ac roedd y ffigurau hynny wedi’u hatodi yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2024/25.
Awdur yr adroddiad: Jennie Williams
Dyddiad cyhoeddi: 10/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/03/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/03/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 23/03/2023
Dogfennau Atodol: