Manylion y penderfyniad

Housing Revenue Account (HRA) 30 Year Financial Business Plan

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

The purpose of this report is to present for consideration and comment, the draft HRA 30-year Financial Business Plan and the proposed HRA Budget for 2023/24.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad i gyflwyno Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd drafft y CRT a Chyllideb arfaethedig CRT ar gyfer 2023/24 i'w hystyried.

 

Cafwyd cyflwyniad gan y Prif Swyddog a’r swyddogion Cyllid Corfforaethol a drafododd y canlynol:

 

·         Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023/24

·         o ble ddaw cyllid y CRT?

·         i ble mae’r arian yn mynd - costau cynnal CRT

·         sut mae ein costau ni’n cymharu ag awdurdodau eraill sy’n dal stoc - gwerth am arian 

·         gosod rhent

·         chwyddiant arfaethedig o ran rhent

·         effaith rhent ar denantiaid ar gynnydd o 5% 

·         rhent - effaith gosod prisiau rhent yn is na ganiateir dan y polisi rhent

·         taliadau gwasanaeth

·         gofynion cyllideb y CRT ychwanegol ar gyfer 2023/24

·         Rhaglen Gyfalaf y CRT

·         datgarboneiddio

·         Cyllid Cyfalaf y Cyfrif Refeniw

·         benthyca darbodus

·         cronfeydd wrth gefn

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Sean Bibby a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.

 

Soniodd y Cynghorydd Helen Brown am y mater o eiddo gwag. Dywedodd bod hyn ar ei uchaf ar hyn o bryd a gofynnodd am yr hyn sydd wedi’i wneud i fynd i'r afael â'r mater yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a sut yr oedd y cynnydd wedi effeithio ar y cynllun busnes.  

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Mike Peers rhoddodd y Swyddog Cyllid Corfforaethol drosolwg o sut yr oedd bron i £300,000 mewn arbedion effeithlonrwydd wedi'i gyflawni yn y CRT.

 

Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon y byddai taliadau gwasanaeth yn cael eu gohirio ar gyfer tenantiaid presennol ond nad oedden nhw’n berthnasol i denantiaid newydd.  Gwnaeth sylw hefyd ar fater eiddo gwag a phwysleisiodd yr angen i ddefnyddio arian dros ben yn ystod y flwyddyn ar frys i leihau nifer yr eiddo gwag yn Sir y Fflint.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) eglurhad ynghylch cost taliadau gwasanaeth i denantiaid.  Mewn ymateb i'r cwestiynau a'r sylwadau yn ymwneud ag eiddo gwag, rhoddodd y Prif Swyddog y ffigur ar gyfer y 12 mis diwethaf a dywedodd y byddai modd rhoi’r ffigurau ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf ar ôl y cyfarfod. 

 

Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chafodd yr argymhellion canlynol eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Cymeradwyo Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y CRT a'r gyllideb ar gyfer

2023/24 fel y nodir yn yr adroddiad hwn a'r atodiadau sydd ynghlwm; ac

 

(b)       Ystyried defnyddio'r cronfeydd wrth gefn sydd ar gael, yn ystod y flwyddyn, er mwyn sicrhau bod modd defnyddio eiddo gwag yn Sir y Fflint.

 

Awdur yr adroddiad: Vicky Clark

Dyddiad cyhoeddi: 17/04/2023

Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: