Manylion y penderfyniad

Timings and schedule of Council meetings and meeting format

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the recommendations from the Constitution & Democratic Services Committee meeting on 12th January 2023 in relation to the timings and schedule of Council meetings and meeting format.

Penderfyniadau:

Gwnaeth y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd gyflwyno’r adroddiad.   Cyfeiriodd at yr arolwg y cafodd ei gynnal ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2022 er mwyn cael barn Aelodau etholedig a chyfetholedig ynghylch a ddylai trefniadau cyfarfodydd aros fel y maen nhw ar hyn o bryd neu a ddylid newid amserau i gynnwys cyfarfodydd gyda’r nos.  Gofynnwyd hefyd am farn ynghylch y fformat a ffefrir ar gyfer cyfarfodydd (hybrid neu o bell).

 

Cyflwynwyd crynodeb o ganlyniadau’r arolwg i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar 12 Ionawr 2023.  Cytunodd y Pwyllgor sefydlu gweithgor i ystyried yr ymatebion a chynnal adolygiad o'r Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad interim cyn gwneud unrhyw argymhelliad i'r Cyngor ynghylch newidiadau i fformat cyfarfodydd a mabwysiadu polisi hirdymor.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor wedi argymell i'r Cyngor y dylai’r Pwyllgor Cynllunio gael ei gynnal ar ffurf hybrid cyn gynted â phosibl.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Mike Peers, pan fo cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn y prynhawn, na ddylid trefnu cyfarfodydd na gweithdai sy’n gofyn i Aelodau fod yn bresennol ynddyn nhw yn y bore cyn y cyfarfod yn y prynhawn er mwyn i Aelodau allu paratoi ar gyfer cyfarfod y Cyngor.  Roedd y Cynghorydd Richard Jones yn cefnogi hyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a ellid ystyried cychwyn cyfarfodydd y Cyngor am 1.00 pm.

 

Wrth siarad o blaid y cynnig i gynnal y Pwyllgor Cynllunio ar ffurf hybrid, gofynnodd y Cynghorydd Richard Lloyd a ellid ystyried cynnal cyfarfodydd yn swyddfeydd y Cyngor yn Nh? Dewi Sant, Ewlo.

 

Mynegodd y Cynghorydd Hilary McGuill bryderon ynghylch y goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer cynnal cyfarfodydd ar ffurf hybrid a gofynnodd a ellid darparu costau.  Eglurodd y Prif Swyddog fod gweithgor wedi'i benodi i ystyried yr amser a'r adnoddau sydd eu hangen i gynnal cyfarfodydd mewn fformat hybrid a'r effaith ar y Tîm Gwasanaethau Democrataidd.  Byddai'r gweithgor yn adrodd yn ôl i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar ei ganfyddiadau a'r dewisiadau sydd ar gael. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylid ystyried cynnal cyfarfodydd y Cyngor yn Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion yn yr adroddiad a chafwyd trydydd argymhelliad y dylai’r bore gael ei gadw’n rhydd pan fo cyfarfod y Cyngor yn cael ei gynnal y prynhawn hwnnw er mwyn rhoi amser paratoi i Aelodau cyn cyfarfod y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r argymhelliad y dylid cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio mewn fformat ‘Hybrid’ o 1 Mawrth 2023.

 

(b)       Bod y Cyngor yn aros am adroddiad arall gan Bwyllgor y Gwasanaethau Cyfansoddiad a Democrataiddar oblygiadau gweithio hybrid a Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad hirdymor; a

 

(c)       Pan fo cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn y prynhawn, bod y bore’n cael ei gadw'n rhydd ar y diwrnod hwnnw er mwyn rhoi amser paratoi i Aelodau cyn cyfarfod y Cyngor.

 

Awdur yr adroddiad: Steven Goodrum

Dyddiad cyhoeddi: 17/04/2023

Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2023 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: