Manylion y penderfyniad

Medium Term Financial Strategy and Budget 2023/24

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the additional budget requirement for the 2023/24 financial year in advance of the series of Overview & Scrutiny meetings in December.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i ddiweddaru Aelodau ar y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2023/24 cyn y cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu ym mis Rhagfyr, a derbyn y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar 14 Rhagfyr 2022.

 

Yn y cyfarfod fis Hydref, roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos isafswm gofyniad cyllidebol o £24.348 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2022/23.  Roedd gwaith pellach i ganfod newidiadau a risgiau sylweddol wedi arwain at gynnydd pellach, fel yr adroddwyd i’r briffiau cyllid Aelodau diweddar, ac fel y crynhowyd yn yr adroddiad.  Er bod gwaith yn parhau er mwyn sefydlu’r effaith yn llawn, rhagwelwyd y byddai’r gofyniad cyllidebol ychwanegol yn gallu codi i oddeutu £32 miliwn.  Roedd nifer o risgiau parhaus a allai gael effaith pellach a byddai hyn yn parhau i gael ei adolygu, gan gynnwys lleoliadau tu allan i’r Sir a dyfarniadau cyflog athrawon.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad ar gynnydd gyda datrysiadau cyllideb a’r amserlen yn arwain at y setliad cyllidebol terfynol.  Byddai trosolwg o’r sefyllfa ar draws y portffolios yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Ionawr.

 

Wrth gyfleu difrifoldeb y sefyllfa, dywedodd y Prif Weithredwr y cydnabyddir fod graddfa’r sefyllfa bresennol yn cyflwyno heriau sylweddol wrth osod cyllideb gytbwys.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd yr adroddiadau a briffiau diweddar yn rhoi unrhyw ddatrysiadau ar sut i gydbwyso’r gyllideb ac y byddai dewisiadau lliniaru angen cael eu rhannu er mwyn galluogi Aelodau i ystyried a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y gwaith a gyflawnwyd hyd yn hyn yn adlewyrchu graddfa’r her ariannol.  Dywedodd y byddai manylion cynigion effeithlonrwydd portffolio yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol ym mis Rhagfyr, ynghyd â throsolwg o effeithlonrwydd ar draws holl bortffolios.  Tra bod gwaith ar gyllid corfforaethol yn parhau, byddai canlyniadau yn cael eu rhannu gydag Aelodau a byddai derbyn y Setliad Dros Dro yn darparu eglurder raddfa’r bwlch cyllidebol a’r dewisiadau ar gael.

 

Mewn ymateb i’r Cadeirydd, rhannodd y Prif Weithredwr ei bryderon a dywedodd bod holl awdurdodau lleol yng Nghymru mewn sefyllfa debyg.  Rhoddodd sicrwydd fod swyddogion wedi cymryd pob cyfle i adolygu effeithlonrwydd a bod gwaith yn parhau i gyflwyno sefyllfa y gellir ei ddarparu.

 

Cafodd ei sylwadau ei gefnogi gan Aelod Cabinet y Cynghorydd Paul Johnson a ddywedodd bod hwn yn sefyllfa digynsail yn cynnwys nifer o faterion tu allan i reolaeth y Cyngor.  Roedd yn gobeithio y byddai eglurder yn dilyn cyfarfod cyllid gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a holl awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

 

Mynegodd y Cynghorydd Bill Crease ei bryderon o ran yr amser ar gael i wneud penderfyniadau heriol iawn er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg a’r effeithiau posibl ar drigolion.

 

Cytunodd y Cynghorydd Bernie Attridge fod hwn yn sefyllfa digynsail ac nid oedd yn gallu canfod beth ellir ei wneud i osod cyllideb gytbwys, o ystyried fod LlC eisoes wedi darparu ffigyrau ar gyfer Setliad dangosol.   Aeth ymlaen i ddweud y dylai penderfyniadau i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf gael eu rhoi i’r neilltu o ystyried y sefyllfa gyfredol.

 

Ar y sylwadau a godwyd, cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at fuddion ariannol ceisiadau’r Cyngor ar gyfer y Gronfa Codi’r Gwastad a’r cyfle i Aelodau roi mewnbwn ar ystyriaethau cyllidebol wedi’i arwain gan y Prif Weithredwr a thîm y Prif Swyddogion.  O ran datrysiadau cyllidebol, teimlai ei bod yn bwysig i drigolion fod yn ymwybodol o’r goblygiadau gan gynnwys unrhyw doriadau posibl i wasanaethau.

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor fod y setliad dangosol o 2.4% ar gyfer 2024/25 yn cyflwyno heriau hyd yn oed yn fwy sylweddol na’r 3.5% ar gyfer 2023/24, yn arbennig yng nghyd-destun dirwasgiad posibl sy’n wynebu’r DU.

 

Cafodd yr argymhelliad, a gafodd ei ddiwygio i adlewyrchu’r drafodaeth, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2023/24, yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Sara Dulson

Dyddiad cyhoeddi: 09/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/11/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: