Manylion y penderfyniad

Biodiversity Sect.6 Reporting

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Information Only

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To update members on work to deliver the Environment Act Section 6 Biodiversity Duty Delivery Plan in order to report on action to Welsh Government.

Penderfyniadau:

Darparodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol yr adroddiad a oedd yn manylu ar gynnydd y Cyngor o ran cyflawni ei ddyletswydd bioamrywiaeth o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Roedd yr adroddiad yn egluro Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor 2020 - 2023, ‘Cefnogi Natur yn Sir y Fflint’ a chynnydd y camau i gyflawni’r amcanion, gan dynnu sylw at feysydd allweddol o waith bioamrywiaeth o fewn y Sir. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys yr adroddiad Adran 6 statudol a fyddai’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023 ar ddiwedd yr ail rownd adrodd 3 blynedd.

 

Darparodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif bwyntiau, gan gyfeirio at y 6 amcan a’r cynnydd a wnaed o ran cyflawni camau gweithredu i gyflawni 20 cam y Cynllun dan yr amcanion (Atodiad 1).

 

Canmolodd y Cynghorydd Mike Peers waith y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol a’i dîm, a llwyddiant y cynlluniau a gynhaliwyd yn y gymuned, gan nodi’r ‘cynllun dôl blodau gwyllt’ fel enghraifft. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Dolphin o blaid y cynllun ‘dôl blodau gwyllt’ ond dywedodd fod rhai pryderon wedi cael eu mynegi yngl?n â’r perygl o dân oherwydd tywydd eithriadol o boeth a sych a gwair hir.  Cydnabu’r Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol y pwynt a wnaed ac esboniodd, ar y cyfan, oherwydd yr ardaloedd bach dan sylw a monitro amodau hinsawdd lleol, teimlwyd bod y manteision yn gorbwyso’r risg bosibl.  Rhoddodd sicrwydd bod hyblygrwydd i dorri’r gwair ar unrhyw adeg os oedd angen.

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell am waith y Gwasanaeth Cynllunio a’r ffyrdd y gallai cynllunio helpu gyda bioamrywiaeth.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dan Rose bryderon yngl?n â cholli cynefin.  Soniodd am golli mannau gwyrdd a gwrychoedd oherwydd datblygiad cynllunio ac am wasanaethau eraill a ddarparwyd gan y Cyngor a oedd yn defnyddio plaladdwyr a dulliau rheoli eraill.   Gofynnodd a oedd cofnod mewn lle i fonitro’r effaith.  Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y gellid mynd i’r afael â’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Rose yn yr Adroddiad Monitro a fyddai’n eistedd ochr yn ochr â’r CDLl ac fe allai gael sylw yng nghyfarfod y Gr?p Strategaeth Cynllunio. 

 

Siaradodd y Cynghorydd David Healey o blaid pwysigrwydd bioamrywiaeth ar lefel leol gan gyfeirio at gyfranogiad Cyngor Tref a Chymuned.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Roy Wakelam a Mike Peers.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y diweddaraf yn cael ei nodi a’r gwaith parhaus yn gysylltiedig â gwella bioamrywiaeth yn cael ei gefnogi.

Awdur yr adroddiad: Tom Woodall

Dyddiad cyhoeddi: 14/04/2023

Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/11/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: