Manylion y penderfyniad

Integrated Youth Provision – Delivery Plan Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update to the Committee on the Integrated Youth Provision Delivery Plan

Penderfyniadau:

            Rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wybod nad oedd yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn gallu mynychu’r cyfarfod, ond roedd wedi paratoi’r adroddiad ac roedd hi wedi cytuno i rannu adborth a chwestiynau gan yr Aelodau gydag ef yn dilyn y cyfarfod.  

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog y gwaith partneriaeth a oedd yn mynd rhagddo i gefnogi pobl ifanc fel y nodir yn yr adroddiad.  Darparodd wybodaeth am y gefnogaeth, datblygiad a’r hyfforddiant a ddarperir i’r partneriaid hynny i alluogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol.  Eglurodd bod heriau recriwtio sylweddol ar gyfer y gwasanaeth hwn a oedd wedi cael effaith ar y gwasanaeth y gellid ei darparu, ond eglurodd bod gwaith ieuenctid yn werthfawr tu hwnt ac yn cynnwys llwybrau cynnydd ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth i ystyried datblygu gyrfa yn y gwasanaeth hwnnw.   Cyfeiriodd at y gwaith partneriaeth Fframwaith Prentisiaeth gydag Addysg Oedolion Cymru a Phrifysgol Glynd?r i sicrhau bod cymwysterau ar gael i bobl ifanc eu cwblhau’n lleol.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybod bod yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn ystyried sut gellir mesur, nodi targedau a monitro allbynnau ar gyfer y gwasanaeth a’r effaith ar bobl ifanc.   Roedd y newidiadau yr oedd yn eu cynnig yn cynnwys newid cyflenwr y system monitro electronig i ddull mwy effeithiol ac roedd gwybodaeth mewn perthynas â hyn wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.   Roedd yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig hefyd yn awyddus i ddefnyddio’r wybodaeth a’r atodiadau yn yr adroddiad i siapio gwasanaethau yn y dyfodol i gefnogi pobl ifanc.   Dywedodd y Prif Swyddog fod cefnogi lles emosiynol pobl ifanc yn eu helpu i ymgysylltu’n well yn yr ysgol ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.   

 

            Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch eglurdeb ym mhwynt 1.03 o’r adroddiad gan y Cynghorydd Dave Macie, eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn cyfeirio at y Wobr Dug Caeredin, a oedd yn boblogaidd iawn ymhlith ysgolion ac yn fuddiol iawn ar gyfer pobl ifanc.   Roedd yr Uwch Weithiwr Ieuenctid hefyd yn arweinydd Dug Caeredin ac yn cynnig cefnogaeth i ysgolion i gynnig eu rhaglenni eu hunain a bodloni’r prosesau achredu.   Darparodd wybodaeth am y ganolfan mynediad agored yn yr Wyddgrug a’r camau a oedd yn cael eu cymryd i alluogi hyn i barhau.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Dave Mackie y byddai modd cynnal gweithdy i Aelodau’r Pwyllgor i amlinellu sut y gellid darparu’r amcanion o fewn Cynllun Cyflawni 2021-2024.   Croesawodd y Prif Swyddog yr awgrym hwn a dywedodd y gellid trefnu gweithdy yn hwyrach yn 2023 ac y gellid gwadd pobl ifanc i’r gweithdy i amlinellu eu safbwynt i’r Pwyllgor.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham fod y Fframwaith Prentisiaeth yn rhagorol ac nad yw’r Brifysgol yn addas i bawb.  Roedd yn falch ei fod yn cael ei gyflwyno fel cymhwyster i annog pobl ifanc i ymuno â’r Gwasanaeth Ieuenctid drwy’r Fframwaith Prentisiaeth.

 

            Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Bill Crease ar y pedwar argymhelliad a’r systemau rheoli data, cytunodd y Prif Swyddog fod data meintiol yn hollbwysig at ddibenion craffu a dwyn swyddogion i gyfrif, ond nid hwn oedd yr unig ffordd i werthuso canlyniadau.    Roedd hi’n teimlo bod lleisiau pobl ifanc yn hollbwysig i ddangos yr effaith gadarnhaol roedd y gwasanaeth yn ei chael ar eu bywydau.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan Mrs Lynne Bartlett am fap o’r Sir yn amlinellu lleoliad y clybiau ieuenctid, darpariaeth partneriaeth a’u cysylltiad gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod map o’r fath ar gael.   Defnyddiwyd y system mapio GIS ar gyfer nifer o ddarpariaethau’r Cyngor ac roedd yn cael ei ddiweddaru gan yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig a’r Uwch Reolwr, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar hyn o bryd.   Eglurodd bod mapio lleoliadau’r clybiau ieuenctid ac edrych ar y data ar gyfer achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi galluogi i adnoddau gael eu targedu’n effeithiol.

 

            Amlinellodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid y perthnasoedd gwaith agos â’r Gwasanaethau Ieuenctid a phartneriaid yn Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â materion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.   Eglurodd sut roedd yr adran TG yn cysylltu’r wybodaeth a oedd ar gael ar hyn o bryd gyda’r Fframwaith GIS o fewn y Cyngor.   Mynychodd y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid ac Ieuenctid y Bartneriaeth Lleihau Galw yn y Gymuned sef y gr?p gorchwyl ymddygiad gwrthgymdeithasol a arweinir gan yr Heddlu.  Roedd y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Gr?p hwn ynghyd â’r wybodaeth a dderbyniwyd gan y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid wedi galluogi gwaith â Gwasanaethau Ieuenctid Sorted Sir y Fflint a Chyfiawnder Ieuenctid i ystyried datblygu dulliau allgymorth i dargedu’r adnoddau hynny lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’i nodi.   Cynhaliwyd cyfarfodydd wythnosol gyda sarsiantiaid cymunedol yng Ngogledd a De Sir y Fflint gan ddefnyddio’r data a gasglwyd yn y cyfarfodydd hynny i dargedu gwasanaethau i’r ardaloedd sydd fwyaf eu hangen.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Carolyn Preece o blaid y system Upshot a fyddai’n arbed arian i’r Cyngor dros y tair blynedd nesaf.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bill Crease ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Carolyn Preece.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r penderfyniad i ddisodli’r system QES gydag Upshot, er mwyn gallu casglu data’n fwy effeithiol ar draws rhaglenni’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig, gan ganiatáu ar gyfer system monitro, gwerthuso a dysgu gwell a fyddai’n arwain at ddarpariaeth gwasanaeth gwell. 

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo hwyluso hyfforddiant ar gyfer sefydliadau partner, megis clybiau chwaraeon a sefydliadau mewn lifrai, er mwyn cynyddu effaith ymarfer gwaith ieuenctid, a chefnogi iechyd a lles pobl ifanc yn Sir y Fflint; 

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod y cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun ac y dylai’r tîm Darpariaeth Ieuenctid Integredig ehangach ystyried diwygiadau i’r cynllun yn y dyfodol yn ofalus iawn yn unol ag adborth gan bobl ifanc;

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r penderfyniad i ddechrau’r broses Achrediad Marc Ansawdd yn y Gwanwyn, gan ddechrau gydag Efydd ac yn dilyn yr argymhellion allweddol o’r broses hon, dod â’r cynllun yn ôl i’r Cabinet i gytuno i symud ymlaen i Arian ac Aur.  

Awdur yr adroddiad: Claire Homard

Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 01/12/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: