Manylion y penderfyniad

Forward Work Programme and Action Tracking

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Forward Work Programme of the Environment & Economy Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu i’w hystyried.  Tynnodd sylw at yr eitemau a oedd wedi’u trefnu i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a oedd i gael ei gynnal ar 13 Rhagfyr 2022 a soniodd am yr eitemau i’w hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. 

 

Rhoddodd yr Hwylusydd ddiweddariad ar waith ar y gweill ar yr eitemau oedd yn weddill yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Rhoddodd yr Hwylusydd hefyd ddiweddariad ar gynnydd i drefnu cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i ystyried parcio y tu allan i’r ysgol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd bod eitem yn cael ei hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol er mwyn ystyried y meini prawf eithriadau ar gyfer y cyfyngiad 20mya a fyddai’n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru flwyddyn nesaf.  Siaradodd y Cynghorydd Mike Peers am y cynllun priffyrdd 20mya a gyflwynwyd dros gyfnod prawf ym Mwcle ym mis Mawrth eleni.  Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod pryderon wedi cael eu mynegi i’r Gweinidog gan Aelodau lleol yn ardal Bwcle mewn perthynas â’r cynllun prawf.  Soniodd am farn y Cyngor ar y cynllun peilot a dywedodd ei fod yn cefnogi’r awgrym i gynnal cyfarfod neu weithdy i ystyried y mater cyn gynted â phosibl. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bryderon yngl?n â chyflwr / gwelededd gwael rhai o’r marciau ar y ffyrdd yn Sir y Fflint a nododd farciau ffordd ger cylchfannau mewn rhai ardaloedd fel enghraifft. 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Peers, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod bwriad i ymgysylltu â’r cyhoedd mewn perthynas â’r cynllun 20mya ym Mwcle ac y byddai datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon.  Cyfeiriodd at lansiad Llywodraeth Cymru o’r ddeddfwriaeth genedlaethol newydd ym mis Ionawr 2023 a chefnogodd yr awgrym i gynnal gweithdy yn dilyn y lansiad.  Cytunodd y Prif Swyddog i drafod yn unrhyw bryderon penodol a oedd gan y Cynghorydd Hutchinson mewn perthynas â’r marciau ffordd, ar ôl y cyfarfod.

 

Siaradodd y Cynghorydd David Healey o blaid cynnal ymgynghoriad â’r cyhoedd ar gynllun priffyrdd 20mya Llywodraeth Cymru.

 

 Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cyflwyno i’w cynnwys ar y Rhaglen. 

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Peers a Roy Wakelam.

PENDERFYNWYD:

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn amodol ar y newidiadau uchod;

(b)     Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 14/04/2023

Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/11/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: