Manylion y penderfyniad
Council Plan Development 2023/24
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To agree the proposed Priorities, Sub Priorities and Well-being Objectives for the Council Plan 2023-28.
Penderfyniadau:
Dywedodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd wrth yr Aelodau bod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 wedi’i adolygu a’i adnewyddu i adlewyrchu’r prif flaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer tymor 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd, fel gofyniad Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ar gyfer sefydliadau i osod unrhyw gamau gweithredu i gynyddu faint mae’r Cyngor yn bodloni gofynion perfformiad. Eglurodd bod adolygiad llawn wedi cael ei gynnal a oedd yn cynnwys:-
· Camau Gweithredu Blaenoriaeth a fydd yn parhau o 2023 ymlaen ar gyfer sylw parhaus.
· Camau Gweithredu Blaenoriaeth a ellir eu tynnu gan eu bod wedi’u cwblhau neu wedi dod yn weithredol.
· Camau Gweithredu Blaenoriaeth sy’n dod i’r amlwg yn 2023-28
Mae’r strwythur a fwriedir i gynllun y Cyngor 2023-28 yn cynnwys saith blaenoriaeth, amcanion lles ac is-flaenoriaethau fel y rhestrir yn 1.03 o’r adroddiad.
Bydd y cynllun terfynol ar gael fel dogfen ar y we a gyhoeddir ar wefan y Cyngor ar ôl i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu ym mis Mehefin 2023. Roedd tabl yn yr adroddiad yn darparu trosolwg o flaenoriaethau arfaethedig ar gyfer Cynllun y Cyngor 2023-28 mewn perthynas â lles cymunedol a phersonol.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod pum elfen yn yr adroddiad ond yn grynodeb o’r hyn sydd yn mynd i mewn i’r Cynllun Corfforaethol y Cyngor. Ychwanegoddyr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y byddai dadansoddiad yn rhan 2 o’r cynllun hwn, a fydd yn cael ei wneud ar ddyddiad yn y dyfodol.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Makie a’u heilio gan y Cynghorydd Buckley.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi blaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles arfaethedig Cynllun y Cyngor 2023-28, fel y nodir yn Atodiad 1.
Awdur yr adroddiad: Jay Davies
Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2023
Dyddiad y penderfyniad: 27/10/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: