Manylion y penderfyniad
Joint Funded Care Packages
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To update Members on the current situation on the long term debt with the Betsi Cadwaladr University Health Board since the last report was received.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) y wybodaeth ddiweddaraf ar ddyled hirdymor cyfredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) mewn perthynas â phecynnau gofal a ariennir ar y cyd a chymorth i unigolion ag anghenion gofal cymhleth.
Cyfeiriodd yr adroddiad hwn at y fframwaith statudol sydd wedi’i roi ar waith gan Lywodraeth Cymru, sy’n nodi trefniadau i’r Byrddau Iechyd ddarparu Gofal Iechyd Parhaus y GIG (GIP) yng Nghymru, mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a sefydliadau eraill. Manylodd yr Uwch Reolwr ar nifer o heriau allweddol megis y gwahanol gymorth sydd ei angen ar oedolion a phlant, a'r nifer uchel o becynnau Gofal Iechyd Parhaus a ddarperir yn Sir y Fflint a Wrecsam. Mae perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda chydweithwyr yn y sector iechyd wedi helpu i ddatrys rhai materion sy’n bod ers amser maith yn y broses Gofal Iechyd Parhaus. Mae penodi Swyddog Cynllunio a Datblygu Gofal Iechyd Parhaus o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol wedi galluogi’r tîm i wella prosesau mewnol ac ymgysylltu â BIPBC.
Mewn perthynas â
lefelau dyled a adroddwyd ar 5 Medi 2022, roedd
ad-daliad o £46,333 wedi’i wneud ers hynny gan BIPBC ar
gyfer anfonebau heb eu talu o dair blynedd a throsodd, gyda gwaith
yn parhau i glirio’r anfonebau hanesyddol sy’n weddill.
Dros y chwe mis diwethaf, roedd gwaith gan y tîm i
ganolbwyntio ar ddatrys anfonebau newydd yn brydlon wedi helpu i
leihau lefelau dyled tymor byr yn sylweddol. Ers mis Medi 2022,
roedd anfonebau gwerth cyfanswm o £260,248 ar fin cael eu
prosesu, sy’n ymwneud yn bennaf ag un achos penodol yn
ymwneud â phlentyn.
Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor o gefndir yr adroddiad cychwynnol a rannwyd ym mis Rhagfyr 2021. Roedd ei bryderon yn ymwneud nid yn unig â cholli incwm disgwyliedig ond hefyd am yr amser a gymerwyd i ddatrys anfonebau dadleuol a oedd yn fater llif arian i'r Cyngor.
Eglurodd yr Uwch Reolwr bod y gwelliannau diweddar a roddwyd ar waith wedi arwain at ddealltwriaeth glir o’r prosesau ar y ddwy ochr.
Rhoddodd
Paul Carter sicrwydd bod BIPBC yn gweithio’n agos gyda
chydweithwyr y Cyngor i brosesu anfonebau cyfredol mewn modd
amserol a bod ymgysylltu rheolaidd â swyddogion ar bob lefel
i egluro’r rhesymau dros dalu anfonebau hanesyddol nad oedd
wedi bod yn destun yr un broses drylwyr yn rhannol neu beidio
â’u talu. Er ei fod yn obeithiol y byddai tua
£250,000 o anfonebau oedd fod i gael eu hystyried gan banel
BIPBC yn cael eu cymeradwyo i leihau’r ddyled hanesyddol
ymhellach, roedd trafodaethau’n mynd rhagddynt i ganfod
gwybodaeth ategol ar dri achos sy’n weddill gwerth cyfanswm o
£350,000 a thros £400,000 o anfonebau yn ymwneud
â phlant er mwyn i BIPBC allu cymeradwyo’r taliadau
hynny. Yn benodol, ni chanfuwyd gwybodaeth ar ddau achos cost uchel
hyd yma.
Codwyd pryderon gan y Cynghorydd Bernie Attridge ynghylch goblygiadau ariannol y ddyled sydd heb ei thalu, o ystyried y diffyg amserlen a rhagolwg cyllideb y Cyngor ar gyfer 2023/24. Dywedodd y dylai gweithdrefnau sydd i'w trafod mewn gweithdy wedi'u hwyluso eisoes gael eu deall yn glir.
Pwysleisiodd Paul Carter er bod prosesau priodol ar waith i gymeradwyo taliadau, ni ellir talu anfonebau heb yr hawl angenrheidiol a’r gwaith papur ategol. Roedd yn obeithiol y gellid datrys materion, ond nid oedd yn gallu rhoi amserlen heb fod y wybodaeth angenrheidiol yn cael ei darparu i gefnogi’r taliadau hynny.
Fel diweddariad ar y sefyllfa gyfredol, adroddodd yr Uwch Reolwr bod y ddyled sydd heb ei thalu o 2016 wedi’i lleihau i £1,461 a bod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i fynd i’r afael â gwerth £12,518 o anfonebau o 2017. Yr amcangyfrif cyfredol o ddyled ar gyfer 2018 oedd £34,890.
Croesawodd y Prif Weithredwr y drafodaeth ar y mater pwysig hwn y dylid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor amdano. Wrth ddiolch i bawb a fu’n ymwneud â’r mater am eu gwaith, bu iddo sôn am yr angen i flaenoriaethu achosion cost uchel er mwyn cael effaith ar lefelau dyledion cyffredinol.
Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu presenoldeb a chynigiodd argymhelliad ychwanegol a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran rheoli cyllideb yn rhagweithiol ar gyfer anfonebau heb eu talu a godwyd gan y Cyngor i'w talu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a
(b) Bod dyled pecyn gofal a ariennir ar y cyd dros 90 diwrnod yn cael ei ystyried ar frys i ddeall sut y gellir lleihau’r ddyled hon mewn modd amserol. Dylai’r gwaith gael ei wneud gan Bennaeth y Gwasanaeth ac Aelod Cabinet ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn yn fisol.
Awdur yr adroddiad: Neil Ayling
Dyddiad cyhoeddi: 23/12/2022
Dyddiad y penderfyniad: 13/10/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/10/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: