Manylion y penderfyniad

Application for a Premises Licence

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Eiddo a gyflwynwyd gan TH UK & Ireland Limited.  Yr eiddo dan sylw oedd Tim Hortons, Parc Manwerthu Brychdyn, Brychdyn, Sir y Fflint, CH40DP a dangoswyd y lleoliad yn Atodiad A yr adroddiad. 

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod y cais ar gyfer Trwydded Eiddo newydd (dim alcohol).  Roedd yr ymgeisydd wedi gwneud cais am luniaeth hwyr tu mewn a thu allan a chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio ac heb ei seinchwyddo tu mewn yn unig.  Atodwyd ffurflenni a chynlluniau’r ymgeisydd yn Atodiad B yr adroddiad.  Yr oriau y gwnaed cais amdanynt ar gyfer lluniaeth hwyr tu mewn a thu allan oedd dydd Llun i ddydd Sul 00.00 i 00.00.  Yr oriau y gwnaed cais amdanynt ar gyfer cerddoriaeth wedi’i recordio a heb ei seinchwyddo tu mewn oedd dydd Llun i ddydd Sul 00.00 i 00.00.  Mae’r Ddeddf Trwyddedu 2003 yn diffinio darpariaeth lluniau gyda’r hwyr fel cyflenwad o fwyd poeth a diodydd poeth rhwng yr oriau 11.00pm a 5.00am.  Nid oes angen trwydded ar gyfer darpariaeth cyn 11.00pm neu ar ôl 5.00am. 

 

Roedd yr Uned Diogelu Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir y Fflint wedi cadarnhau nad oedd ganddynt bryderon diogelu.  Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd ganddynt sylwadau i'w gwneud ar y cais.  Derbyniwyd sylwadau gan y partïon â diddordeb ac atodwyd y rhain yn Atodiad C yr adroddiad.  Eglurwyd gyda rhai o bartïon â diddordeb  nad oedd y cais yn cynnwys gwerthu neu gyflenwi alcohol. 

 

Gofynnwyd i Heddlu Gogledd Cymru wneud sylwadau ar y pwyntiau a wnaed yn y llythyrau sylwadau mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a threfn gyhoeddus. Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru ers 2022 bod un digwyddiad mewn perthynas â Tim Hortons a oedd yn bryder ar gyfer diogelwch ond nid oedd yn ymwneud â’r eiddo ei hun. Roedd yr unig ddigwyddiad arall yn ymwneud â digwyddiad am 11pm ym Maes Parcio McDonalds yn ymwneud â 2 gar ac fe gafodd diogelwch eu galw, fodd bynnag ni welsant unrhyw geir ac nid oeddent yn gwybod am ddim. Hefyd fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd unrhyw adroddiadau o god post Vickers Way (CH4 0FX) ar gyfer 2022, a bod y ffigyrau ar eu gwefan cyhoeddus ar gyfer ward gyfan Gogledd Ddwyrain Brychdyn a oedd yn cynnwys eiddo Tîm Hortons ac ardal llawer ehangach.

 

Roedd y camau yr oedd yr ymgeisydd yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu wedi’u gosod allan yn Atodiad D yr adroddiad.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Matthew Williams, Rheolwr Rhanbarthol i siarad ar ran yr ymgeisydd.  Rhoddodd Mr Williams wybodaeth gefndirol ac eglurodd fod eiddo Tim Hortons ym Mharc Manwerthu Brychdyn ar hyn o bryd yn masnachu o 6.00am i 1.00pm yn ddyddiol a’u bod yn ceisio am drwydded eiddo er mwyn galluogi’r busnes i weithredu 24 awr o 6.00am i hanner nos ar gyfer lluniaeth gyda’r hwyr tu mewn a thu allan (gyrru drwodd - ceir yn unig), ac o hanner nos masnachu tu allan (gyrru drwodd) yn unig.  Dywedodd Mr Williams fod bwyty McDonalds a oedd yn gweithredu 24 awr yn yr un ardal a dywedodd fod Tim Hortons yn dymuno cynnig yr un gwasanaeth fel darpariaeth amgen i’r cyhoedd.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Alex Boffey i siarad ar ran y trigolion lleol oedd wedi gwrthwynebu’r cais.  Dywedodd Mr Boffey fod trigolion lleol wedi codi nifer o faterion o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, cynnydd mewn traffig yn sgil ceir, lorïau a thryciau, mwy o s?n, ymyrraeth gyffredinol, goleuadau a sbwriel.  Dywedodd bod y materion hyn wedi cael eu codi gyda Heddlu Gogledd Cymru, Aelod Seneddol lleol a Chyngor Sir y Fflint ers 2018. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Williams i ymateb i’r pryderon a godwyd gan y trigolion lleol.  Dywedodd Mr Williams y byddai’n cymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau posibl o lefelau s?n cynyddol neu ymyrraeth drwy rannu pamffledi a phosteri yn gofyn i bobl barchu trigolion lleol ac y byddai’n gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a’r gymuned leol i ddatrys unrhyw broblemau allai godi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Lloyd fod bwlch yn y gwrych o flaen mynedfa Tim Hortons a bod pobl yn parcio ar y ffordd ac yn defnyddio’r bwlch fel llwybr byr i osgoi’r maes parcio, a bod angen mynd i’r afael â hyn.  Gwnaeth y Cynghorydd Lloyd sylwadau ar y broblem o sbwriel o amgylch yr ardaloedd tu allan a dywedodd bod angen i hyn gael ei fonitro’n rheolaidd i sicrhau fod ymddangosiad glân a thaclus yn cael ei gynnal gan holl fanwerthwyr bwyd yn yr ardal. 

 

Ymatebodd Mr Williams i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Lloyd.  Mewn ymateb i gwestiwn arall, rhoddodd wybodaeth ar drefniadau diogelwch yn eiddo Tim Hortons.

 

Holodd y cyfreithiwr am y Teledu cylch caeedig a systemau larwm oedd mewn lle yn yr eiddo a’r gweithdrefnau i fynd i’r afael ag unrhyw ddigwyddiadau posibl a allai godi.  Hefyd holodd y cyfreithiwr Mr Williams am y materion a godwyd gan y trigolion lleol.  Dywedodd Mr Williams y byddai’n cwrdd â thrigolion lleol i drafod unrhyw bryderon er mwyn eu datrys cyn gynted â phosibl.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r Swyddog Trwyddedu os oedd eiddo arall â thrwydded ar gyfer lluniau gyda’r nos yn yr ardal.   Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod gan McDonalds drwydded eiddo ar gyfer lluniaeth gyda’r nos o ddydd Llun i ddydd Sul 11.00pm i 5.00am.  Cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu fod yr holl awdurdodau cyfrifol wedi cael eu hysbysu a ni wnaed unrhyw sylwadau.

 

Cwestiynodd y Cyfreithiwr Mr Boffey am y wybodaeth a ddarparodd yn ei lythyr o wrthwynebiad mewn perthynas â ffigyrau trosedd lleol a gofynnodd am eglurder ar gyfnod y data.  Cafwyd trafodaeth hefyd o ran lleoliad safle’r eiddo fel y dangoswyd yn Atodiad A yr adroddiad a’r agosatrwydd at drigolion lleol. 

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau priodol wedi cael eu holi, gadawodd y rhai oedd yn bresennol - ac eithrio’r Cadeirydd, Aelodau’r Pwyllgor, Cyfreithiwr a Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - y cyfarfod i alluogi’r   Pwyllgor i ddod i benderfyniad.

 

Yn dilyn ystyriaeth o’r holl sylwadau a chyngor cyfreithiol gan Gyfreithiwr y Cyngor, gwahoddodd y Swyddog Trwyddedu Mr Williams a Mr Boffey yn ôl i’r cyfarfod er mwyn ei ailddechrau.

 

Darllenodd y Cadeirydd y penderfyniad a gafodd ei wneud gan yr Is-bwyllgor fel a ganlyn:

 

Mae’r Is-bwyllgor wedi asesu’r cais a’r atodlen weithredu arfaethedig yn erbyn yr amcanion trwyddedu ac yn unol â pholisi a chanllawiau statudol y Cyngor. 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor y sylwadau a wnaed gan y trigolion.  Roedd yr Is-bwyllgor yn teimlo bod y pryderon yn bennaf yn ofnau o broblemau a allai godi ac nad oedd tystiolaeth glir fod y pryderon yn gysylltiedig â’r gweithrediad presennol neu arfaethedig. 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r ffaith na chafwyd unrhyw sylwadau gan unrhyw awdurdod cyfrifol gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a gadarnhaodd nad oedd unrhyw adroddiadau wedi bod yn yr ardal yn 2022.  

Ystyriodd yr Is-bwyllgor yr eglurhad o ran sut fyddai’r eiddo yn gweithredu â system gyrru drwodd yn unig rhwng 12.00pm a 6.00am, ei leoliad ger safleoedd tebyg, a’r camau eglurodd yr ymgeisydd y byddai’n digwydd er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu.

Penderfynodd yr Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais yn destun amodau yn yr atodlen weithredu (gan gynnwys y rhai a nodir isod) a’r amodau gorfodol a nodwyd yn y Ddeddf Trwyddedu 2003.

Amodau sy’n gyson â’r atodlen weithredu:

  • Rhaid i’r eiddo gynnal system Teledu cylch caeëdig gynhwysfawr a modern yn cynnwys holl bwyntiau mynediad a gadael.

 

  • Dylai’r system Teledu cylch caeëdig recordio’n barhaus tra bod yr eiddo ar agor ar gyfer gweithgareddau y bydd angen trwydded, ac yn ystod y cyfnodau lle mae cwsmeriaid ar yr eiddo, gan gynnwys ardaloedd allanol.

 

  • Dylai’r holl recordiadau gael eu storio am leiafswm o 30 diwrnod a dylai fod ar gael ar gais gan yr Heddlu neu’r Awdurdod Lleol. 

 

  • Dylai hysbysiadau gael eu harddangos yn amlwg yn gofyn i gwsmeriaid barchu anghenion y trigolion a busnesau lleol ac i adael yr ardal yn dawel.

 

Gofynnodd yr Is-bwyllgor hefyd fod yr Ymgeisydd yn ystyried cau’r bwlch yn y gwrych ger y fynedfa tu blaen i’r eiddo er mwyn atal cerbydau rhag parcio ar y ffordd a phobl yn dod i mewn drwy’r gwrych.

 

Nodwyd fod gan yr Ymgeisydd a’r partïon â diddordeb hawli apelio ac y dylai unrhyw apêl gael ei wneud i Lys yr Ynadon o fewn 21 diwrnod o ddyddiad hysbysu’r penderfyniad.

 

 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu  a dywedodd y bydd y penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais yn destun amodau yn yr atodlen weithredu (gan gynnwys y rhai a nodir uchod) a’r amodau gorfodol a nodwyd yn y Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 12/06/2023

Dyddiad y penderfyniad: 30/06/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/06/2022 - Is-bwyllgor Trwyddedu

Dogfennau Atodol: