Manylion y penderfyniad

Application to Vary a Premises Licence

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 i amrywio trwydded eiddo ym mwyty Bengal Dynasty, 104 Chester Road East yn Shotton.  Roedd y cais fel a ganlyn:

 

·         Ymestyn oriau gwerthu alcohol ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul ar gyfer digwyddiadau wedi’u harchebu ymlaen llaw, o 10.00am tan 2.00am

·         Ymestyn oriau ar gyfer: Cerddoriaeth wedi'i recordio o 23.00pm tan 2.15am; lluniaeth hwyr y nos o 23.00pm tan 2.15am ac amseroedd cau o 12.30am tan 2.30am

·         Ymgeisio am gerddoriaeth fyw rhwng 23.00pm tan 2.15am ac un awr ychwanegol ar Noswyl Nadolig, G?yl San Steffan, Dydd Calan, Dydd Gwener y Groglith a Dydd Sul y Pasg

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys cadarnhad ysgrifenedig nad oedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac adain Rheoli Llygredd y Cyngor wedi gwneud unrhyw sylwadau am y cais yma.   Roedd llythyr yn cadarnhau nad oedd gan Heddlu Gogledd Cymru wrthwynebiad ar yr amod bod teledu cylch cyfyng wedi’i gynnwys yn y drwydded.   Roedd llythyrau o wrthwynebiad gan bedwar preswylydd lleol wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu bod proses o gyfryngu wedi cael ei gynnal rhwng y gwrthwynebwyr a’r Ymgeisydd ond bod y mater yn parhau heb ei ddatrys.   Roedd y preswylwyr oedd yn gwrthwynebu i’r cais wedi cael gwahoddiad i ymuno â’r cyfarfod ond roeddynt wedi ymddiheuro.

 

Wrth roi cefndir am y cais, fe soniodd June Clarke am effaith y pandemig ar gynllun busnes yr Ymgeisydd ar gyfer y bwyty.   Ar ôl cael trwydded safle ym mis Rhagfyr 2021 ac o ystyried yr ansicrwydd gyda’r pandemig ar y pryd, fe oedodd cyn agor y bwyty ac yn hytrach, cynhaliodd ddigwyddiadau preifat i greu rhywfaint o incwm.  Gan fod y rhain wedi bod yn llwyddiannus roedd wedi ymgeisio am amrywiad yn y drwydded i barhau â digwyddiadau o’r fath oedd wedi’u harchebu ymlaen llaw.   Wrth i’r cyfyngiadau cenedlaethol lacio, roedd wedi trefnu i ailagor y safle fel caffi yn ystod y dydd a bar/gril min nos.

 

Cafodd y panel wybod bod yr Ymgeisydd  wedi ystyried pryderon preswylwyr, oedd yn bennaf yn ymwneud â s?n yn ystod y nos.   Rhoddodd June Clarke drosolwg o’i chasgliadau o asesiad risg s?n a gynhaliwyd yn ystod digwyddiad preifat a gynhaliwyd yn y safle ym mis Ebrill. Roedd yn atodiad i’r adroddiad.   Roedd wedi sylwi ar s?n lefel isel mewn lleoliadau gerllaw. Roedd hi’n teimlo eu bod wedi cael eu lliniaru gan elfennau gwrthsain ger y drws tân cefn yn y safle  a byddai’n cael ei wella gan gynlluniau osod portsh newydd yn y blaen.  Fe soniodd hefyd am bryderon gan breswylwyr am argaeledd gofodau parcio a dywedodd y byddai amhariad hwyr y nos yn cael ei leihau gan yr Ymgeisydd a staff yn monitro cwsmeriaid yn gadael y safle yn ystod y nos, mae’n ymddangos bod y mwyafrif ohonynt yn gadael mewn car/tacsi.

 

Dywedodd June Clark er gwaethaf ymgais gan yr Ymgeisydd i ymgysylltu â’r preswylwyr i drafod eu pryderon mewn  mwy o fanylder i geisio dod o hyd i ddatrysiad, nid oeddynt wedi derbyn y cynnig.   Dywedodd bod gan yr Ymgeisydd lyfrau log amrywiol perthnasol ar y safle a’i fod yn fodlon rhannu ei fanylion cyswllt i alluogi preswylwyr i gyfathrebu gydag o’n uniongyrchol am eu pryderon.   Roedd hi’n credu bod yr atodlen weithredu yn ddigon cadarn i fodloni meini prawf gweithgareddau trwyddedu ac fe ailadrodd nad oedd Heddlu Gogledd Cymru na Rheoli Llygredd wedi gwneud unrhyw sylw. 

 

Wrth gael ei wahodd i annerch y panel, dywedodd yr Ymgeisydd ei fod wedi gwneud ei orau ymgysylltu gyda’r preswylwyr i liniaru eu pryderon.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan Gynghorydd Richardson, fe eglurwyd mai nod yr Ymgeisydd yw annog cwsmeriaid i aros y tu mewn i’r eiddo tra’n aros am dacsi a’i fod yn bwriadu ymgysylltu â chwmni tacsi lleol am hyn.   Fe roddodd eglurhad hefyd am ardal ysmygu ddynodedig yn yr eiddo a chamau i liniaru aflonyddwch s?n gan gwsmeriaid yn gadael hwyr yn y nos.

 

Roedd gan y Cyfreithiwr nifer o gwestiynau a chafodd wybodaeth am y drefn o archebu digwyddiad ymlaen llaw er mwyn ymestyn ac egluro’r manylion a ddarparwyd  eisoes gan yr Ymgeisydd.  Byddai digwyddiadau’n gorffen am 2.30am ar yr hwyraf a byddent yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau ond byddent yn cynnwys ciniawa.   Fe fyddent wedi’u harchebu ymlaen llaw - yn llawer hirach na 24 awr ymlaen llaw yn y mwyafrif o achosion.  Pan fydd digwyddiad yn cael ei gynnal, byddai’r bwyty yn llawn ac wedi’i gau i aelodau o’r cyhoedd nad oedd yn westeion yn y digwyddiad.

 

Cadarnhaodd Julie Clarke bod y sylw ysgrifenedig ‘mae’n rhaid i blant o dan 8 oed fod gydag oedolyn cyfrifol drwy’r amser’ eisoes yn amod.  Aeth yn ei blaen i ddweud fod y cais yn ddigon cadarn, yn cynnwys y ddau amod ychwanegol am gynnal asesiad s?n rheolaidd a ffurfio cytundeb gyda chwmni tacsi enwebedig.   Fe eglurodd bod y tri amod ychwanegol arfaethedig oedd yn weddill (a nodir yn Atodiad H yr adroddiad) bellach yn cael eu hystyried yn ddiangen gan nad ydi’r preswylwyr eisiau trafod gyda’r Ymgeisydd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd yr Ymgeisydd yn fodlon cynnwys yr holl amodau ychwanegol petaent yn helpu i fynd i’r afael â’r pryderon.   Cyfeiriodd June Clarke at nifer o reoliadau sy’n ymwneud â rhedeg y busnes a dywedodd mai’r honiad oedd nad oedd y preswylwyr bellach yn poeni gan eu bod wedi dewis peidio cyfarfod â’r Ymgeisydd.   Ar y sail honno, ni fyddai’r amodau ychwanegol yn cael eu symud ymlaen.

 

Cafodd yr Ymgeisydd y cyfle i grynhoi a mynegodd siom bod y preswylwyr wedi dewis peidio cwrdd ag o a thrafod eu pryderon.   Fe ailadroddodd ei fod yn fodlon rhannu ei fanylion cyswllt gyda’r preswylwyr.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau priodol wedi cael eu holi, gadawodd y rhai oedd yn bresennol - ac eithrio’r Cadeirydd, Aelodau’r Pwyllgor, Cyfreithiwr a Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - y cyfarfod i alluogi’r   Pwyllgor i ddod i benderfyniad.   Cynigiwyd ac eiliwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd gan y Cynghorwyr Davies a Richardson.

 

Wrth ddod i benderfyniad, fe ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig y preswylwyr a sylwadau ysgrifenedig a llafar gan yr Ymgeisydd a’i Asiant yn cynnwys eglurhad a roddwyd yn y gwrandawiad am yr atodlen weithredu a chamau y byddai’r Ymgeisydd yn eu cymryd i fodloni’r amcanion trwyddedu.   Yn ogystal, ystyriodd yr is-bwyllgor y pwyslais a roddwyd i ymatebion Rheoli Llygredd ac awdurdodau cyfrifol, hawliau dynol y partïon a risg aflonyddwch s?n y tu allan i’r eiddo.

 

Gwahoddwyd y Swyddog Trwyddedu, Ymgeisydd a’r Asiant yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.  Darllenodd y Cadeirydd benderfyniad yr Is-bwyllgor:

 

PENDERFYNWYD:

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor i ganiatáu'r cais gydag oriau gostyngedig ac yn ddarostyngedig i’r amodau a awgrymwyd gan yr Ymgeisydd yn yr Atodlen Weithredu.

Oriau

  • Dydd Gwener a dydd Sadwrn (digwyddiadau wedi’u harchebu ymlaen llaw yn unig ar gyfer oriau ar ôl 11.30pm)

Gwerthu alcohol rhwng 10.00am a 2.00am, cerddoriaeth wedi'i recordio dan do, cerddoriaeth fyw dan do a lluniaeth hwyr y nos rhwng 10.00am a 12.50am ac un awr ychwanegol ar Noswyl Nadolig, G?yl San Steffan, Dydd Calan, Dydd Gwener y Groglith a Dydd Sul y Pasg.

  • Dydd Sul (digwyddiadau wedi’u harchebu ymlaen llaw yn unig ar gyfer oriau ar ôl 11.00pm)

Gwerthu alcohol rhwng 10.00am a 12.00 hanner nos, cerddoriaeth wedi'i recordio dan do, cerddoriaeth fyw dan do a lluniaeth hwyr y nos rhwng 10.00am a 12.00 hanner nos ac am un awr ychwanegol ar Noswyl Nadolig, G?yl San Steffan, Dydd Calan, Dydd Gwener y Groglith a Dydd Sul y Pasg.

 

Amodau yn Unol â’r Atodlen Weithredu

  • Yn ystod yr oriau estynedig (sef yr oriau ar ôl 11.30pm) mae’n rhaid i’r gweithgareddau trwyddedadwy fod ar gyfer y rhai sy’n mynychu digwyddiadau wedi’u harchebu ymlaen llaw yn unig.
    • Gweithgareddau trwyddedadwy yw gwerthu alcohol, cerddoriaeth wedi'i recordio dan do, cerddoriaeth fyw dan do a darparu lluniaeth hwyr y nos.
    • Mae digwyddiad wedi’i archebu ymlaen llaw yn golygu digwyddiad sydd wedi’i archebu o leiaf 24 awr ymlaen llaw.
    • Mae digwyddiad yn golygu digwyddiad lle mae ystafell yn cael ei llogi ac nid oes gweithgareddau trwyddedadwy yn cael eu darparu i aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn westeion yn y digwyddiad.
  • Bydd deliad y drwydded yn dod i gytundeb gyda chwmni Cerbydau Hacni a/neu gwmni preifat i ddarparu cludiant i gwsmeriaid, gyda rhifau cyswllt ar gael yn hawdd i gwsmeriaid a fydd yn cael eu hannog i ddefnyddio gwasanaethau o’r fath.
  • Bydd asesiad s?n rheolaidd yn cael ei gynnal pan fydd cerddoriaeth wedi chwyddo yn cael ei chwarae yn yr eiddo ac yn cael ei gofnodi mewn llyfr a fydd ar gael i unrhyw awdurdod cyfrifol yn ôl cais.

Awdur yr adroddiad: Gemma Potter

Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 29/06/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 29/06/2022 - Is-bwyllgor Trwyddedu

Accompanying Documents: