Manylion y penderfyniad

Impact of the pandemic and other factors on transport services and operating costs

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

This report is being presented to the Environment & Economy Scrutiny Committee following a recommendation of the Recovery Committee meeting held in November 2021, which highlighted two new red risks that public bus services (commercial and subsidised) were becoming financially unsustainable due to reduced passenger numbers and transport operating costs were increasing while the number of available transport operators to provide services was reducing. The report outlines how public bus services have been funded during the pandemic along with the impact on operators and service levels, as well as future developments.

Penderfyniadau:

Wrth gyflwyno’r adroddiad eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y Pwyllgor Adfer, ym mis Tachwedd, wedi argymell cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor. Mae’r pandemig wedi cael effaith fawr ar wasanaethau cludiant cyhoeddus. Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg o’r hyn a ddigwyddodd, a’r mesurau lliniaru a roddwyd ar waith i gefnogi gweithredwyr mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.

 

            Eglurodd Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig fod y pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar gludiant ysgol a gwasanaethau cludiant cyhoeddus ar draws y wlad. Roedd colli teithwyr ynghyd â chadw pellter cymdeithasol a chostau COVID wedi ychwanegu at y pwysau sydd ar y gwasanaethau. Roedd yn rhaid i weithredwyr atal gwasanaethau a bu newidiadau i’r canllawiau, ond fe ddarparwyd cefnogaeth i liniaru effaith y gwasanaethau a ataliwyd. Cyflwynodd Lywodraeth Cymru’r Gronfa Galedi ac mae trosolwg o hon, a’r ffioedd consesiwn yr oedd yn rhaid i deithwyr eu talu, wedi’u darparu. Cyflwynwyd y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau fis Gorffennaf 2020, gan barhau i gadw incwm cwmnïau ar lefelau hanesyddol. Sir y Fflint oedd yr awdurdod cynnal yng ngogledd Cymru, gan ddyrannu a phrosesu’r cyllid gyda chefnogaeth swyddogion rhanbarthol. Roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i weithredwyr gyfrannu a gwella rhwydweithiau rhanbarthol, a oedd yn rhan o’r cytundeb ar gyfer Sir y Fflint ac ar draws y gogledd. Eglurodd Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig fod y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau 1.5 wedi’i gyflwyno i helpu gweithredwyr i ddychwelyd i gynnig y gwasanaeth llawn, yn enwedig o ystyried mesurau cadw pellter cymdeithasol pan oedd angen dau fws er mwyn cludo plant i’r ysgol. Darparwyd cyllid y cynllun brys i sicrhau eu bod yn gweithredu. Bydd cytundeb ariannu hirdymor Cynllun Brys 2 gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn para tan fis Gorffennaf 2022, oni bai bod amodau’r farchnad wedi gwella’n sylweddol ac asesiad o’r cyllid sydd ei angen wedi’i gynnal yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Mae gweithredwyr bysiau yn ei chael hi’n fwyfwy anodd i gynnal gwasanaethau gyda nifer y teithwyr wedi lleihau yn ystod y deunaw mis diwethaf. Ym mis Gorffennaf 2020 cafodd gwasanaeth 5 o’r Wyddgrug i Ellesmere Port, oherwydd diffyg refeniw, ei drosglwyddo’n ôl gan y gweithredwr. Gan fod y gwasanaeth hwn yn rhan o rwydwaith craidd y Cyngor cafodd y contract ei roi ar dendr ac roedd y cynigion a ddaeth i law deirgwaith yn fwy na phris y darparwr blaenorol. Defnyddiwyd cyllid y cynllun brys i gwrdd â’r cynnydd ond roedd pwysau o £100,000 ar y gyllideb oherwydd hyn. Pan gaiff llwybrau eu cynnig ar dendr mae gan weithredwyr ddau ddewis, tendro ar gostau net neu dendro ar gostau gros, ac eglurodd Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig y gwahaniaeth. Mae’r rhan fwyaf o gontractwyr yn defnyddio’r broses contract gros, sy’n rhoi’r risg yn ôl ar y Cyngor o ran refeniw prisiau. Mae gweithredwyr hefyd wedi dweud bod yna gynnydd aruthrol yn eu costau gweithredu – tanwydd/yswiriant/cyflogau a phrinder darnau i gerbydau, colli gyrwyr (HGV a rolau eraill) a hyfforddi gyrwyr, sydd hefyd wedi’i effeithio. Yr unig incwm a gafodd y gweithredwyr oedd cyllid gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, gan fod teithiau ysgol a theithiau eraill wedi’u canslo a’r Cynllun Brys ddim yn eu cefnogi. Mae’r rhwydwaith cludiant cyhoeddus yn gwella ond rhagwelir y bydd costau caffael yn y dyfodol yn llawer uwch, bydd hynny yn destun adroddiadau fel pwysau cyllidebol parhaus.

 

            Yna fe ddarparodd Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig wybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud gyda’r Cyngor, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i adolygu cludiant cyhoeddus Cymru ac amlinellwyd eu dyheadau ar gyfer hyn. Cadarnhaodd fod cam cyntaf y rhaglen wedi’i gwblhau a’r gobaith yw darparu cyflwyniad ar y gwaith sy’n cael ei wneud i’r Pwyllgor maes o law. Yna darparodd wybodaeth am waith Gweithgor Diwygio Bysiau Llywodraeth Cymru sydd â chynllun pum mlynedd ar gyfer gwasanaethau bws Cymru.

 

            Gan symud ymlaen at gostau cludiant ysgol, eglurodd Rheolwr yr Uned Cludiant Integredig fod y rhain wedi cynyddu’n aruthrol hefyd. Yn 2017 cyflwynodd y Cyngor System Brynu Ddynamig a oedd yn para chwe blynedd tan 2023. Darparwyd trosolwg o’r system a’r hyblygrwydd y mae’n ei rhoi i weithredwyr. Roedd y llwybrau i fod i ddod i ben fis Gorffennaf 2021 ond, oherwydd y pandemig, cafodd y llwybrau eu hymestyn tan fis Gorffennaf 2022 ac amlinellodd y tri cham ar gyfer caffael a’r pwysau cyllidebol sydd ar y llwybrau hyn.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Owen am gynnwys mwy o hyblygrwydd yn y llwybrau, cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) mai nod y cynllun Diwygio Bysiau yw cymryd mwy o reolaeth yn ôl gan weithredwyr i Drafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’r Cyngor yn darparu sylwadau ac adborth i’r Adolygiad o Rwydweithiau Bysiau, sy’n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ac yn canolbwyntio ar wneud bysiau yn ddewis amgen i’r car. Amlinellodd bopeth sy’n cael sylw yn yr adolygiad, gyda Sir y Fflint eisoes yn defnyddio’r model sy’n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru o ran rhwydwaith bysiau craidd. Amlinellodd beth mae’r Cyngor yn ei ddarparu o ran gwasanaethau craidd a gwasanaethau gwennol.

 

            Canmolodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd y gwaith mae Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru wedi’i wneud o ran Cynllun Brys 2 ac roedd yn gobeithio y byddai’r cynllun yn cael ei ymestyn ar ôl mis Gorffennaf, am flwyddyn arall.


            Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd fod dadreoleiddio gwasanaethau bws wedi arwain at y sefyllfa sydd yn ein hwynebu heddiw. Teimlodd fod angen adnoddau cenedlaethol i sicrhau bod yna system gludiant integredig i fynd â phobl i ble bynnag maent eisiau mynd.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Joe Johnson a Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi yn croesawu’r adroddiad ac yn cefnogi gwaith y portffolio Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth i gynnal gwasanaethau allweddol yn ystod y pandemig.

 

(b)       Bod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi yn nodi sut cafodd gwasanaethau bws cyhoeddus eu hariannu yn ystod y pandemig, yr effaith ar lefelau bysiau / nifer y teithwyr a’r effaith ar gwmnïau bysiau a’r cynigion i’r dyfodol.

 

(c)       Bod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi yn nodi sut mae’r pandemig wedi effeithio ar wasanaethau cludiant i’r ysgol, y niferoedd isel o weithredwyr sy’n cyflwyno tendrau ar gyfer contractau a’r cynnydd uchel mewn costau.

Dyddiad cyhoeddi: 18/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 08/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: