Manylion y penderfyniad

Accessible Dropped Kerb Crossings for Pedestrians

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

This report is being presented in response to a request from the Environment & Economy Scrutiny Committee in November 2021. The report sets out how we deal with the provision of pedestrian dropped kerbs within the adopted highway in relation to uncontrolled crossing points, given that there is no allocated funding for this provision. The report outlines the process for receiving requests, identifying sites, recognising the appropriate solution, applying available resources, and identifies possible funding mechanisms for accessible dropped kerbs for pedestrians.

Penderfyniadau:

            Cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno yn dilyn cais gan y Pwyllgor. Mae’n darparu gwybodaeth am geisiadau am groesfannau heb eu rheoli a darparu palmentydd botymog.

 

            Cyfeiriodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd at y newidiadau diweddar yn Rheolau’r Ffordd Fawr, sydd wedi’u nodi dan 1.02 yn yr adroddiad. Amlinellodd resymau a manteision gosod croesfannau gyda chyrbau isel i helpu cerddwyr i groesi’r ffordd fawr yn ddiogel a’r safonau sydd yn rhaid eu cyrraedd. Mae Teithio Llesol yn edrych ar ystyriaethau awdurdodau lleol, ond mae darparu’r rhwydwaith integredig llawn yn mynd i gymryd blynyddoedd. Ystyrir croesfannau gyda chyrbau isel pan wneir gwelliannau i briffyrdd neu waith cynnal a chadw, ac mae manylion y broses o wneud cais ar gael yn yr adroddiad. Nid oes cyllid refeniw ar gyfer y ddarpariaeth hon ond fe archwilir cyfleoedd am gyllid grant. Cyfeiriodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd at y broses flaenoriaethu, sy’n dryloyw, a’r matrics sgorio a ddisgrifir yn yr adroddiad.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd George Hardcastle am ddyrannu cyllid, eglurodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd fod ceisiadau am gyrbau isel yn cael eu hariannu drwy’r grant Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru. Mae cyllid craidd Teithio Llesol yn darparu hyblygrwydd i’r Cyngor fynd i’r afael â llwybrau sydd wedi’u nodi ar y Map Teithio Llesol Integredig a’r rhwydwaith. Hefyd, os gwneir cynlluniau cyllid grant ar gyfer gwelliannau neu waith cynnal a chadw, yna bydd y Cyngor yn edrych ar unrhyw gais a wneir am groesfannau gyda chyrbau isel yn yr ardaloedd hynny a bydd y rheiny’n cael eu darparu ar yr un pryd.

 

            Cyfeiriodd Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio at 1.07 ar dudalen 135 sy’n nodi ei bod yn drosedd rhwystro neu barcio ar gyrbau isel i gerddwyr. Soniodd am achosion o bobl yn parcio ar hyd croesfannau isel yn ei ward a gofynnodd pwy sy’n gyfrifol am orfodi hyn. Mewn ymateb, eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y tîm gorfodi yn gallu gweithredu os yw’r bobl wedi parcio ar linellau. Os nad oes llinellau, yna byddai’n rhaid galw’r heddlu gan mai rhwystr yw hynny. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio fod hyn yn aneglur mewn ardaloedd preswyl ac nad oes gan y Cyngor bwerau oni bai ei fod mewn ardal orfodi benodol a’r tîm gorfodi yn gallu cyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig. Byddai angen deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i orfodi ymhob ardal lle ceir rhwystr ar groesfannau gyda chyrbau isel. Cadarnhaodd fod rhai Rhybuddion Cosb Benodedig wedi’u cyflwyno ond mae’n anodd gan fod yn rhaid i swyddogion fod yn bresennol yno ar y pryd. Gofynnodd i’r Aelodau nodi ardaloedd er mwyn iddi eu rhannu â’r tîm gorfodi er mwyn iddynt gynnal patrôl yn yr ardaloedd problemus. Ychwanegodd Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio fod angen sgwrs gadarn gyda Llywodraeth Cymru a’r Heddlu gan nad yw hyn yn cael ei orfodi ac yn anaddas i’r diben os yw pobl yn parcio wrth eu hymyl yn anystyriol.

 

            Cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod adolygiad cenedlaethol ar y gweill o’r holl barcio ar y stryd a llwybrau troed, sy’n cynnwys cynlluniau 20mya a rhwystrau ger croesfannau gyda chyrbau isel. Disgwylir cynigion gan Lywodraeth Cymru ymhen deuddeg mis.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd George Hardcastle am y canllawiau ar gyfer croesfannau gyda chyrbau isel, cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) mai Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r meini prawf ac nid y Cyngor.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Vicky Perfect.

       

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cefnogi’r broses ar gyfer derbyn a gweithredu ceisiadau am groesfannau hygyrch gyda chyrbau isel i gerddwyr.

Awdur yr adroddiad: Katie Wilby

Dyddiad cyhoeddi: 18/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 08/02/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: