Manylion y penderfyniad

Corporate Recovery Objectives

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Adfer

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd â’r amcanion corfforaethol yn yr ail gam hwn o’r adferiad o bandemig Covid-19, lle’r oedd amrywiolyn Omicron yn dechrau effeithio ar wasanaethau.  Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar adferiad, roedd y pwyslais yn y dyfodol yn debygol o gael ei effeithio’n sylweddol gan yr angen i weithredu camau gweithredu ymateb trwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror 2022.

 

Roedd nodau cyffredinol y Cyngor o ran adfer fel a gytunwyd o’r blaen, a rhoddodd uwch swyddogion y wybodaeth ddiweddaraf am bob un o’r amcanion adfer corfforaethol yn eu meysydd cyfrifoldeb, fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cyllid

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai adroddiad am oblygiadau Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol cyn i’r Cabinet gyflwyno cynigion cyllideb manwl i’r Cyngor ym mis Chwefror.  Er gwaetha’r Setliad cadarnhaol, byddai angen cynnydd yn y gofyniad cyllidebol ychwanegol er mwyn bodloni effaith dyfarniadau cyflog a’r Cyflog Byw Gwirioneddol ynghyd â chostau ychwanegol parhaus ac incwm a gollwyd yn sgil y pandemig ar ôl diwedd Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru (LlC) ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.  Byddai cynnal lefelau cronfeydd wrth gefn yn ystyriaeth allweddol ar gyfer gosod cyllideb 2022/23 a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Healey a oedd LlC wedi cytuno i ariannu penderfyniadau cenedlaethol, fel yr ymgodiad arfaethedig o ran cyflogau athrawon.  Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod LlC wedi bod yn glir wrth ddweud y byddai angen i effaith pob dyfarniad cyflog gael ei lliniaru’n llawn o’r Setliad.  Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod argymhellion wedi’u cyflwyno i’r Gweinidog gan gorff adolygu cyflogau annibynnol a byddai’r sefyllfa’n cael ei monitro’n ofalus wrth drafod â Chymdeithasol Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Ar ôl cwestiynau gan y Cynghorydd Marion Bateman a’r Cadeirydd, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y gofyniad cyllidebol ychwanegol o £20.696 miliwn a adroddwyd ym mis Rhagfyr yn cael ei adolygu, er mwyn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

Gweithlu

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am effaith y rheoliadau newidiol a rhoddodd enghreifftiau o fesurau a gyflwynwyd i barhau i gefnogi a sicrhau diogelwch a lles y gweithlu, yn enwedig wrth addasu i weithio gartref.  Roedd datblygu protocol drafft i gefnogi egwyddorion gweithio hybrid yn debygol o ragori ar darged LlC i ymgyrraedd ato o ran gweithio o bell.  Er bod ail-ddylunio sefydliadol yn cael ei ddylanwadu’n drwm gan ddatrysiadau technegol, roedd yn bwysig cynyddu hyblygrwydd i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i weithredu'n effeithiol.

 

Cydnabu’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yr her weithio gartref a rhoddodd sicrwydd o ran hyblygrwydd i ddiwallu anghenion gweithwyr wrth sicrhau eu diogelwch.

 

Wrth ddiolch i’r holl staff, rhoddodd y Cynghorydd Ian Roberts deyrnged benodol i’r rhai yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau Stryd, Tai a safleoedd amwynder dinesig am eu gwaith dros gyfnod y Nadolig.  Ailadroddwyd hyn gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Christine Jones, a roddodd deyrnged i dimau yn ei phortffolio.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd athrawon a staff cefnogi wedi’u cynnwys yn y rhaglen brechiadau rhag y ffliw.  Yn ddiweddarach yn y cyfarfod, roedd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn gallu cadarnhau bod holl staff ysgolion wedi cael cynnig brechiad rhag y ffliw a byddai’n atgoffa Penaethiaid mewn cyfarfod a oedd i ddod.

 

Llywodraethu

 

Soniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) am gyfraddau adennill gwell o ran Treth y Cyngor ac Ardrethi Annomestig Cenedlaethol, a oedd wedi’u dylanwadu gan y pandemig, a llwyth gwaith ychwanegol y tîm Refeniw o ran dosbarthu grantiau LlC.  Roedd capasiti ychwanegol i weithio gyda thenantiaid wedi’i gytuno i helpu i fynd i’r afael â’r cynnydd o ran ôl-ddyledion rhent.  Roedd y diweddariad hefyd yn cynnwys cynnydd ag ehangiad parhaus dulliau digidol o ddarparu gwasanaethau.

 

Gan ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Clive Carver, rhoddodd y Prif Swyddog eglurhad ar y broses ar gyfer cyfarfodydd o bell a oedd yn ffurfio rhan o’r polisi aml-leoliad a oedd i gael ystyriaeth gan y Cyngor.

 

Rhannwyd gwybodaeth gyda’r Cynghorydd Hilary McGuill am y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a oedd yn cael ei reoli gan y tîm Budd-daliadau.  Siaradodd y Prif Weithredwr am ddull y Cyngor o reoli ei gostau ynni ei hun hefyd, a’r elfen o gefnogaeth i fusnesau trwy Lywodraeth y DU.

 

Adfer Gwasanaethau/Adfer Cymunedol/Adfer Rhanbarthol

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod cynlluniau parhad busnes wedi’u hadnewyddu a bod blaenoriaethau bellach yn canolbwyntio ar ymateb er mwyn alinio â cham presennol y pandemig.  Roedd adroddiad manwl am adferiad economaidd wedi’i gynnwys mewn eitem ddiweddarach ar y rhaglen.  O ran adferiad rhanbarthol, roedd y Gr?p Cydgysylltu Adferiad wedi’i ailddechrau er mwyn delio â’r sefyllfa bresennol, ac roedd Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn parhau i gael ei defnyddio fel canolfan frechu.

 

Gan ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd, dywedodd y Prif Weithredwr fod yr ymateb wedi’i addasu er mwyn adlewyrchu amrywiolyn Omicron.  Ymatebodd i bwynt y Cynghorydd Marion Bateman hefyd am effaith cyfnod ynysu llai ar y gweithlu a’r economi.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cadeirydd a’i eilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd gan gynnydd o ran bodloni’r amcanion adfer.

Awdur yr adroddiad: Jay Davies

Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2022

Dyddiad y penderfyniad: 06/01/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/01/2022 - Pwyllgor Adfer

Accompanying Documents: