Manylion y penderfyniad
Welfare Reform Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on the impact of Welfare
Reform on Flintshire residents.
Penderfyniadau:
Rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad ar yr effeithiau y mae diwygio’r gyfundrefn les yn parhau i’w gael ar drigolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n cael ei wneud i’w lliniaru a chefnogi’r aelwydydd perthnasol. Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar aelwydydd agored i niwed, ac roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o fesurau a ddatblygwyd i helpu'r rhai hynny sydd wedi'u heffeithio gan y pandemig presennol a'r gefnogaeth a roddwyd i drigolion i geisio lliniaru'r effeithiau negyddol.
Rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad manwl ar y meysydd canlynol, fel y manylwyd o fewn yr adroddiad:-
- Cael gwared â’r cynnydd Credyd Cynhwysol o £20. Darparwyd astudiaeth achos a oedd yn tynnu sylw at y pryderon a’r dewisiadau y byddai angen i breswylwyr eu gwneud. Nid oedd galw mawr wedi bod am gefnogaeth ar hyn o bryd ond roedd ar gael os oedd ei angen;
- Roedd cynnydd wedi bod yn y galw am gymorth cyllidebu gan fod preswylwyr yn gorfod ymestyn eu cyllidebau;
- Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Er gwaetha’r galw uchel yn ystod y pandemig, roedd y niferoedd a oedd yn ei dderbyn yn araf ar hyn o bryd. Roedd gwaith wedi’i wneud i ddeall pryd fydd angen cymorth i gefnogi pobl mewn trafferthion;
- Y cynllun ffyrlo yn dod i ben. Ar hyn o bryd nid oedd galw mawr am geisiadau am gefnogaeth. Mae’n bosibl fod pobl yn ceisio cydbwyso eu harian, a bydd hyn yn parhau i gael ei fonitro ac roedd pob proses ar waith i roi cymorth;
- Roedd taliadau hunan-ynysu yn parhau gyda nifer uchel o geisiadau wedi’u cyflwyno; a
- Roedd Taliadau Dewisol Tai yn parhau i gynyddu’n raddol. Roedd gostyngiad wedi bod mewn cyllid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ond roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £126,000 yn ychwanegol at daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau i alluogi’r cymorth hwnnw.
Rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad ar lafar ar y Lwfans Cymorth Tanwydd y Gaeaf hefyd. Roedd y cynllun yn amodol ar gymeradwyaeth terfynol Llywodraeth Cymru ac yn agor ddydd Llun 13 Rhagfyr 2021. Roedd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn mabwysiadu’r un dull a rhagwelir y byddai tua 9,000 o hawlwyr yn Sir y Fflint. Roedd amodau hawlio budd-daliadau ynghlwm ac amodau o ran darparwyr ynni. Roedd preswylwyr cymwys yn gallu hawlio £100 oddi ar eu biliau tanwydd. Cadarnhaodd y byddai hwn yn cael ei gyhoeddi unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gwefannau ac ati. Ym mis Ionawr, yn dilyn dadansoddi data, byddwn yn cysylltu â’r aelwydydd cymwys hynny nad ydynt wedi hawlio i’w hannog nhw i hawlio.
Bu i’r Cadeirydd ddiolch i’r Rheolwr Budd-daliadau am ddiweddariad manwl. Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd David Wisinger a’i eilio gan y Cynghorydd Ron Davies.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith y mae diwygio’r gyfundrefn les yn ei gael, ac yn parhau i’w gael, ar rai o’r preswylwyr mwyaf agored i niwed yn Sir y Fflint.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2022
Dyddiad y penderfyniad: 08/12/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Dogfennau Atodol: