Manylion y penderfyniad

Review of Political Balance

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the Council's Political Balance calculations due to a new
Member joining the Labour Group following the Penyffordd by-election.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod y Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol a oedd yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, fel y’u diwygiwyd, yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor adolygu ei gyfrifiadau cydbwysedd gwleidyddol yn dilyn yr isetholiad ym Mhenyffordd ar 7 Hydref 2021.

 

Roedd y Cynghorydd newydd yn y ward honno, ynghyd â’r Cynghorydd Cindy Hinds fel Aelod arall y ward, yn y Gr?p Llafur, lle’r oedd yr Aelod presennol yn y Gr?p Annibynnol Newydd.  Roedd yr hawl i seddau a oedd wedi’i chyfrif yn awgrymu y byddai’r Gr?p Llafur yn ennill dau le ac y byddai’r Gr?p Annibynnol newydd yn colli dau le.  Roedd modd gwneud y newidiadau hynny heb effeithio ar grwpiau eraill.

 

Grwpiau gwleidyddol y Cyngor a nifer yr Aelodau ar bob un oedd:

 

Llafur

35

Y Gynghrair Annibynnol

16

Ceidwadwyr

6

Democratiaid Rhyddfrydol

6

Aelodau Annibynnol Newydd

3

Annibynnol

3

Aelod amhleidiol

1

 

Roedd cyfrifiad y cydbwysedd wedi’i atodi i’r adroddiad.  Un dyraniad cyfreithlon posib’ oedd hwn ac efallai fod dyraniadau eraill yn bosib’.

 

Yn ystod adolygiad strwythur Pwyllgorau yn 2019, cytunodd Arweinwyr Grwpiau, ar ran eu haelodau, y byddai’n well ac yn fwy buddiol ceisio dyrannu seddi’n unol â meysydd diddordeb Cynghorwyr os oedd modd.  Lle bo modd o fewn y rheolau, roedd dyraniad seddi felly’n cael ei ddylanwadu gan feysydd ddiddordeb hysbys.

 

Roedd hawl y Gr?p Llafur i sedd ychwanegol ar Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn amlwg o’r cyfrifiadau.  Roedd y problemau’n codi â’r ail sedd.  Ar yr achlysur hwn, byddai’r hawl i seddi sydd i’w gweld yn awgrymu y dylai’r Gr?p Annibynnol Newydd golli sedd ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i’r Gr?p Llafur.  Fodd bynnag, roedd y sedd yn cael ei llenwi gan Gynghorydd a oedd â phrofiad helaeth a diddordeb mawr yng ngwaith y Pwyllgor.  Er mwyn cyflawni’r uchelgais o ddyrannu seddi ar sail diddordeb, awgrymwyd y dylai’r Gr?p Llafur yn hytrach gael sedd ychwanegol ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Diwylliant ac Ieuenctid.  Byddai hynny’n arwain at or-gynrychiolaeth fechan i’r gr?p ar y Pwyllgor hwnnw ond roedd yn ddyraniad seddi posib’, cyfreithlon.

 

Gan fod dyraniad posib’ a fyddai’n cydymffurfio â rheolau iii ac iv, roedd y ddeddfwriaeth yn dweud y gallai’r dyraniad a argymhellid gael ei gymeradwyo os nad oedd unrhyw Gynghorydd yn pleidleisio yn erbyn hynny.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a’u heilio gan y Cynghorydd Peers.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Dyrannu’r seddi ar y Pwyllgorau yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol sydd i’w weld yn Atodiad A; a

 

(b)       Rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i enwebiadau i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted â phosib’.

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/12/2021 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: