Manylion y penderfyniad

A presentation on the HyNet hydrogen production and carbon storage cross-border project

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive an update on the HyNet Hydrogen Project.

Penderfyniadau:

Croesawodd y Pwyllgor Rachel Perry ac Amy Bodey o Progressive Energy Ltd i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar y prosiect HyNet, fel a ganlyn:

 

·         Beth yw HyNet North West?

·         Datgarboneiddio a arweinir gan alw

·         Seilwaith HyNet North West

·         Cynhyrchu Hydrogen

·         Gweithfeydd dal CO2

·         Manteision ehangach

·         Momentwm a Darpariaeth

·         Y DU yn flaenllaw o ran arwain y byd mewn ynni glân

 

Canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton y cynnydd sy’n cael ei wneud gyda’r prosiect a'i fanteision o ran dyfodol carbon is i'r rhanbarth. Mewn ymateb i gwestiynau dywedodd Rachel Perry bod y seilwaith presennol yn cael ei ddefnyddio ble bynnag bosibl a rhoddodd wybodaeth am brosiect tebyg yn ardal Humber a Tees.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu cyflwyniad ar y prosiect arloesol hwn. Yn dilyn cwestiynau, cafodd y Cadeirydd wybod bod y model busnes, gyda chefnogaeth y Llywodraeth, yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac y byddai’n cael i gefnogi gan y Gronfa Dal Carbon gyda’r seilwaith adeiladu’n cael ei ariannu gan sefydliadau unigol.

 

Mewn ymateb i bryderon a fynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom yngl?n â safle pwll glo’r Parlwr Du, rhoddodd Rachel Perry sicrwydd ynghylch storio Co2 alltraeth ac asesiadau cadarn o biblinellau cyfredol nad oes unrhyw bryderon yn eu cylch. Bydd sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu hanfon at yr Aelodau yn unol â’u cais.

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Cynghorydd Owen Thomas, rhannwyd gwybodaeth am adeiladu seilwaith  newydd ar gyfer Co2 a hydrogen yn Stanlow, ac ar gyfer hydrogen yn unig ym mhyllau halen Swydd Gaer.

 

Gan groesawu’r targed datgarboneiddio, gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell beth yw'r risgiau posibl. Tra bo’r risgiau diogelwch yn isel, mae twf economaidd a’r cynlluniau hydrogen yn dibynnu ar gefnogaeth y Llywodraeth.

Canmolodd y Cynghorydd Glyn Banks gysylltiad y Cyngor â’r prosiect ac fel aelod lleol Ffynnongroyw, cynigiodd gynorthwyo ag ymgysylltiad  cyhoeddus cynnar ynghylch y safle er mwyn tawelu meddwl preswylwyr yng nghyffiniau safle'r Parlwr Du.Nododd cydweithwyr HyNet ei sylwadau yn cynnwys ei awgrym am sesiwn ymgysylltu cyhoeddus ar y safle gyda’r mesurau diogelwch priodol yn eu lle.

 

Siaradodd y Cynghorydd Derek Butler am gysylltiadau â Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a fyddai’n dod a manteision i bawb ar draws y rhanbarth. Mewn ymateb i sylwadau, rhoddwyd gwybodaeth am rôl hydrogen mewn gwresogi cartrefi yn y dyfodol a chynlluniau ar gyfer ddulliau storio Co2  amgen ar gyfer safle’r Parlwr Du, pe bai angen capasiti ychwanegol. Cafwyd manylion hefyd am wneud y rhwydwaith dosbarthu hydrogen yn ffit ar gyfer y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) bod prosiect Bargen Twf Gogledd Cymru ar gyfer canolbwynt hydrogen yng Nglannau Dyfrdwy yn seiliedig ar hydrogen gwyrdd fel ateb hirdymor cynaliadwy.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod HyNet yn rhan allweddol o waith Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ogystal â Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Paul Shotton a'i eilio gan y Cynghorydd Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys y cyflwyniad.

Awdur yr adroddiad: Andrew Farrow

Dyddiad cyhoeddi: 24/01/2022

Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: