Manylion y penderfyniad
Impact of the pandemic on prioritising highway schemes, gulley emptying, grass cutting, and flooding.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
Request from the Recovery Committee
Penderfyniadau:
Rhoddodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) gyflwyniad ar effaith y pandemig ar flaenoriaethu cynlluniau priffyrdd, gwagio cwteri, torri gwair a llifogydd, a oedd yn ymdrin â’r prif bwyntiau canlynol:
- Effaith Covid-19 ar wasanaethau: llinell amser
- Blaenoriaethu cynlluniau priffyrdd
- Torri gwair a chynnal a chadw tiroedd
- Gwagio cwteri
- Llifogydd
- Pwyntiau allweddol
Diolchodd y Cynghorydd George Hardcastle i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith caled. Mynegodd bryderon ynghylch rheoli chwyn a chwistrellu chwynladdwyr. Soniodd hefyd am wagio cwteri a gofynnodd a oes modd gwneud hyn deirgwaith y flwyddyn yn hytrach na dwy. Eglurodd y Prif Swyddog fod dewisiadau y gellir eu hystyried ar gyfer chwistrellu chwynladdwyr. Mewn ymateb i’r angen am glirio cwteri yn amlach, dywedodd wrth yr Aelodau y dylent roi gwybod am broblemau penodol yn eu wardiau i’r Cydlynydd Ardal, a fydd wedyn yn rhoi gwybod i’r Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth er mwyn trefnu defnyddio ysgubwyr stryd yn yr ardaloedd hynny. Dywedodd y Prif Swyddog fod y Safonau Stryd yn destun diweddariad y flwyddyn nesaf, a all fod yn gyfle i adolygu amlder gwagio cwteri pe bai angen. Darparodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd ragor o wybodaeth am drefniadau’r contract ar gyfer chwistrellu chwynladdwyr a’r broses. Dywedodd y Prif Swyddog fod yna ddewisiadau y gellir eu hystyried o ran y broses dendro ar gyfer y contract chwistrellu chwynladdwyr.
Mynegodd y Cynghorydd Owen Thomas rywfaint o bryder ynghylch y gwasanaeth torri gwair a defnyddio chwynladdwyr.
Dymunodd y Cynghorydd Patrick Heesom longyfarch y Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith caled a’u llwyddiannau yn ystod y pandemig, ac awgrymodd y gallai Arweinydd y Cyngor gydnabod hyn hefyd.
Cydnabu'r Cynghorydd Ian Roberts yr awgrym a diolchodd hefyd i staff holl wasanaethau’r Cyngor am eu gwaith caled ac am barhau i ddarparu gwasanaethau drwy gydol y pandemig. Soniodd y Prif Swyddog am yr heriau parhaus wrth gynnal gwasanaethau yn ystod y pandemig. Awgrymodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylid cofnodi neges o ddiolch a gwerthfawrogiad, ar ran yr Aelodau, ar slipiau cyflog bob gweithiwr i gydnabod eu gwaith a’u perfformiad yn ystod y pandemig. Cytunodd y Pwyllgor â hyn. Cytunodd yr Hwylusydd i gysylltu â Phennaeth Newid Sefydliadol i weithredu’r cais.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Dennis Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi gwaith y portffolio Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth i gynnal y prif wasanaethau yn ystod y pandemig; a
(b) Cofnodi neges o ddiolch a gwerthfawrogiad ar ran yr Aelodau ar slipiau cyflog bob gweithiwr i gydnabod eu gwaith a’u perfformiad yn ystod y pandemig.
Awdur yr adroddiad: Katie Wilby
Dyddiad cyhoeddi: 17/02/2022
Dyddiad y penderfyniad: 09/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/11/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi
Dogfennau Atodol: