Manylion y penderfyniad
Public Services Ombudsman for Wales (PSOW) Annual Letter
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr adroddiad i rannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020/21. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y Llythyr ynghlwm â’r adroddiad. Mae’n rhaid i’r Llythyr gael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor i’w cynorthwyo i graffu ar berfformiad y Cyngor ac adroddir ar gamau oedd yn ymwneud â hynny i OGCC erbyn 15 Tachwedd 2021.
Adroddodd y Dirprwy Brif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Mewn perthynas â’r nifer o gwynion Cod a gaewyd yn ystod y flwyddyn yn ymwneud â Chynghorwyr Sir y Fflint, roedd yna gyfanswm o 1 ble canfuwyd nad oedd unrhyw dystiolaeth o dorri amodau. Mewn perthynas â’r nifer o gwynion Cod a gaewyd yn ystod y flwyddyn yn ymwneud â Chynghorwyr Tref a Chymuned yn Sir y Fflint, roedd yna gyfanswm o 11, 9 a arweiniodd at ganfyddiadau nad oedd unrhyw dystiolaeth o dorri amodau, 1 heb ei ymchwilio ymhellach ac 1 wedi’i dynnu’n ôl.
Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y Llythyr Blynyddol yn egluro fod OGCC wedi cyflwyno cyhoeddiad newydd a elwir ‘Ein Canfyddiadau’. Roedd y cyhoeddiad yn disodli’r llyfrau achos chwarterol ar gyfer y ddau achos yn ymwneud ag achosion gwasanaethau a Chod Ymddygiad a byddai’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Nid oedd unrhyw achosion ychwanegol wedi eu cynnwys yn y cyhoeddiad ‘Ein Canfyddiadau’ ar hyn o bryd.
Eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd unrhyw ddata cymharol/meincnodi yngl?n â chwynion moesegol rhwng cynghorwyr. Cytunwyd y byddai’r Swyddog Monitro yn trafod hyn gyda’r Swyddogion Monitro mewn Cynghorau eraill i ystyried cyflwyno cais ar y cyd i’r OGCC i wybodaeth fod ar gael.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Arnold Woolley a'i eilio gan y Cynghorydd Phillipa Earlam.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried llythyr blynyddol OGCC ac ar ôl nodi’r cwynion a
gyflwynwyd yn ystod 2020/21 naill ai wedi arwain at ganfyddiadau heb
dystiolaeth o dorri’r Cod neu wedi cau neu dynnu’n ôl, roedd y Pwyllgor
wedi dod i’r casgliad nad oedd angen cymryd unrhyw gamau.
Awdur yr adroddiad: Matthew Georgiou
Dyddiad cyhoeddi: 20/05/2022
Dyddiad y penderfyniad: 01/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/11/2021 - Pwyllgor Safonau
Dogfennau Atodol: