Manylion y penderfyniad
Penn Review of the Ethical Standards Framework
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i rannu canfyddiadau’r adroddiad gan Richard Penn, cyn Brif Weithredwr (Cyngor Dinas Bradford yn fwy diweddar), yn dilyn ei adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol ac ymateb Llywodraeth Cymru (LlC)
Rhoddodd y Swyddog Monitro wybodaeth gefndir ac eglurodd fod telerau’r adolygiad fel y manylwyd yn yr adroddiad. Dywedodd fod dolen wedi’i darparu yn yr adroddiad i’r datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r adroddiad Penn. Dywedodd y Swyddog Monitro am ganfyddiadau adolygiad Penn fel y manylwyd yn yr adroddiad. Roedd rhai o’r canfyddiadau yn ddatganiadau ac eraill yn argymhellion arfer gorau.
Gofynnodd y Cynghorydd Mared Eastwood os byddai aelod wedi cael cynnig neu wedi derbyn hyfforddiant yn ymwneud ag ymddygiad gwael a fyddai hyn wedi’i gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw gwyn ffurfiol ddilynol neu ymchwiliad a gynhelir. Eglurodd y Swyddog Monitro bod Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymryd hyfforddiant i ystyriaeth ac mae’n bosibl y byddai’n argymell bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu mewn rhai achosion.
Dywedodd Gill Murgatroyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi nodi pa ganfyddiadau yr oedd yn bwriadu eu gweithredu ac wrth gyfeirio at etholiadau Llywodraeth Leol a gynhelir ym mis Mai 2022, gofynnodd pryd y gwneir hyn. Eglurodd y Swyddog Monitro y disgwylir y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i’r Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr cyn Mai 2022 ond mae’n bosibl y byddai newidiadau eraill yn digwydd ar ôl hynny.
Gofynnodd Janet Jones sut y gallai Cynghorwyr Tref/Cymuned gael eu hannog a’u cefnogi i gymryd rhan mewn hyfforddiant. Dywedodd y Swyddog Monitro fod mynychu hyfforddiant yn wirfoddol ac awgrymodd y gall y Clerc roi copi o ganllawiau Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus i Gynghorau Tref a Chymuned; codi ymwybyddiaeth am ddarpariaeth hyfforddiant rhithiol a’r dewis o ddigwyddiad hyfforddiant yn cael ei gynnal gan Gyngor Tref neu Gymuned yn y dyfodol i gael ei ystyried.
Tynnodd y Cadeirydd sylw at y trydydd argymhelliad yn yr adroddiad a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried pa un a oedd yn dymuno derbyn hyfforddiant ar gynnal gwrandawiadau nawr ac eto pan fyddai gwrandawiad yn cael ei gynnal. Yn dilyn trafodaeth roedd y Cadeirydd yn cynnig bod y Pwyllgor yn derbyn hyfforddiant ar wrandawiadau pan oedd gwrandawiad ar ddigwydd yn unig. Roedd Jacqueline Guest yn eilio’r cynnig. Cafodd yr argymhelliad ei gymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad.
(b) Bod y Swyddog Monitro yn archwilio pa un a all fforwm cenedlaethol i Aelodau Annibynnol gael ei sefydlu; a
(c) Bod y Pwyllgor yn derbyn hyfforddiant ar wrandawiadau pan oedd gwrandawiad ar ddigwydd yn unig.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 20/05/2022
Dyddiad y penderfyniad: 01/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/11/2021 - Pwyllgor Safonau
Dogfennau Atodol: