Manylion y penderfyniad

Conduct of a Licensed Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad er mwyn ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) mewn cysylltiad â gwybodaeth ychwanegol sydd wedi’i datgelu ar ei Dystysgrif Fanwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ôl disgresiwn Prif Swyddog yr Heddlu. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y prif ystyriaethau yn cynnwys y rhesymau dros gynnal y gwrandawiad, y sylwadau ysgrifenedig a ddarparwyd gan ddeilydd y drwydded, a’r adrannau perthnasol o ganllawiau’r Cyngor am drin collfarnau, rhybuddion a chosbau eraill a gofnodir. Cyn y cyfarfod, roedd y Swyddog Trwyddedu hefyd wedi rhannu erthygl yn y wasg gyda’r panel, oedd yn ymwneud ag ymddygiad deilydd y drwydded ar achlysur blaenorol.

 

Wrth ymateb i’r cwestiynau gan y panel a’r Cyfreithiwr, darparodd ddeilydd y drwydded eglurder am y digwyddiadau oedd yn arwain at ei benderfyniad i gysylltu gyda’r Heddlu.  Roedd deilydd y drwydded yn derbyn ei fod wedi bod yn cyfathrebu mewn ystafell sgwrsio i oedolion, ond roedd yn gwadu anfon unrhyw fideos neu luniau ac hefyd nad oedd y cyfathrebu’n ymddygiad troseddol.  Nid oedd deilydd y drwydded yn gwybod pwy oedd wedi cwyno wrth yr Heddlu na pham y byddent yn gwneud hynny. Nid oedd yn gallu egluro pam yr honnwyd fod y negeseuon yn cynnwys ei rif ffôn, er fe soniodd y gallai gwybodaeth o’r fath fod ar gael yn gyhoeddus. Dywedodd er ei fod wedi cydweithredu gyda’r Heddlu, ei fod wedi dewis rhoi atebion “Dim sylwadau” yn ei gyfweliad yn unol â chyngor gan ei Gyfreithiwr.Penderfynodd yr Heddlu, ar ôl cynnal ymchwiliad am yr honiadau a wnaed yn erbyn deilydd y drwydded, na fyddai camau pellach yn cael eu cymryd yn ei erbyn.

 

Yn dilyn y canlyniad hwnnw, dywedodd ddeilydd y drwydded bod cadw’r datgeliad ar ei Ffurflen Fanwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi creu cryn dipyn o ofid meddwl iddo.  Er ei fod yn derbyn y gallai’r Awdurdod Drwyddedu ystyried gwybodaeth a ddatgelwyd yn ôl disgresiwn y Prif Gwnstabl, dywedodd eto nad oedd unrhyw gyhuddiadau, euogfarnau na rhybuddion yn codi o ymchwiliad yr Heddlu, ac roedd hynny’n destun her gyfreithiol barhaus drwy ei Gyfreithiwr. Eglurodd ddeilydd y drwydded yr amgylchiadau yn ymwneud â’r adroddiad papur newydd a dywedodd nad oedd yn berthnasol i’r wybodaeth a ddatgelwyd yn y DBS.

 

Pan ofynnodd y Cadeirydd wrtho a oedd yn dymuno rhoi sylwadau pellach, diolchodd ddeilydd y drwydded i’r panel am ystyried y mater ac erfyn arnyn nhw i ystyried y ffeiliau, bod y wybodaeth wedi parhau i gael ei chynnwys ar ei ffurflen DBS er gwaethaf canlyniad ymchwiliad yr Heddlu. Siaradodd am ei barodrwydd i ddarparu sicrwydd i’r panel er mwyn gallu symud ymlaen o’r cyfnod anodd hwn yn ei fywyd.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod pob cwestiwn perthnasol wedi ei godi, gofynnodd i ddeiliad y drwydded a’r Swyddog Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.

 

5.1       Penderfynu ar y Cais

 

I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i’r holl sylwadau llafar ac ysgrifenedig, ynghyd â Chanllaw’r Cyngor ar Drin Euogfarnau, Rhybuddion, Cyhuddiadau Troseddol neu gosbau eraill a gofnodir a’r Canllaw Datgelu Statudol. Trafododd y panel yr opsiynau oedd ar gael, ond nodwyd bod sylwadau wedi’u gwneud, a bod her gyfreithiol barhaus yn erbyn cynnwys y wybodaeth a ddatgelwyd gan yr Heddlu. Nid oedd digon o wybodaeth ar gael i ddeall natur yr her honno, a phenderfynodd yr Is-bwyllgor i ohirio dod i benderfyniad er mwyn rhoi cyfle i ddeilydd y wybodaeth gyflwyno rhagor o wybodaeth ac unrhyw wybodaeth yr oedd modd ei chael gan yr Heddlu.

 

Gwahoddwyd y Swyddog Trwyddedu a deiliad y drwydded i ddychwelyd i’r cyfarfod, fel bod modd ailgynnull.

 

5.2       Penderfyniad

 

Darllenwyd y penderfyniad isod i bawb gael ei glywed.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor ohirio’r gwrandawiad er mwyn gallu gwneud ymholiadau pellach gyda’r Prif Gwnstabl ac hefyd er mwyn rhoi cyfle i’r gyrrwr gyflwyno gohebiaeth ei Gyfreithiwr gyda Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â’r her sy’n parhau a allai fod o fudd i’r Is-bwyllgor.

Awdur yr adroddiad: Chief Officer (Planning, Environment and Economy) (Theresa Greenhough)

Dyddiad cyhoeddi: 16/12/2021

Dyddiad y penderfyniad: 01/09/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/09/2021 - Is-bwyllgor Trwyddedu

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •