Manylion y penderfyniad

Review of Winter Maintenance Policy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the policy prior to consideration at Cabinet

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) adroddiad i ofyn am sylwadau ar yr adolygiad o Bolisi’r Cyngor ar Gynnal a Chadw yn y Gaeaf.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu’r Polisi cyfredol (fel yr atodwyd), y gofynion deddfwriaethol wrth ddarparu gwasanaeth o’r fath, a’r camau a gymerir gan y portffolio Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth i gefnogi gweithrediadau gwasanaeth cynnal a chadw yn y gaeaf.  Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn amlinellu ymateb y Sir i achosion eraill o dywydd gwael megis llifogydd a gwyntoedd cryfion.

 

                        Cyflwynodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, esboniodd fod angen ychwanegu £150,000 at y gronfa wrth gefn er mwyn atal y Gwasanaeth rhag cyrraedd sefyllfa lle bydd wedi gorwario ar y gyllideb a gynlluniwyd a’r balans wrth gefn.

 

Mynegodd y Cynghorwyr Owen Thomas, Dennis Hutchinson a George Hardcastle bryderon ynghylch problem cwteri wedi’u blocio.  Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod y pwyntiau a wnaed ac esboniodd fod adolygiad yn cael ei gynnal ynghylch amledd a phrydlondeb gwaith cynnal a chadw a wneir ar gwteri a byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei chynnwys mewn adroddiad i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ar 9 Tachwedd.  Esboniodd swyddogion y bydd Safonau’r Gwasanaethau Stryd yn cael eu hadolygu’r flwyddyn nesaf a bod pa mor aml y caiff cwteri eu glanhau’n rhan o’r safonau hynny.  Wrth ymateb i’r pryderon eraill a fynegwyd gan Aelodau, esboniodd Swyddogion fod y gwasanaeth glanhau cwteri’n gweithredu drwy gydol y flwyddyn a bod nifer o’r prosiectau’n rhai parhaus a bod adnoddau ychwanegol ar gael er mwyn gwella’r gwasanaeth o ganlyniad i effaith storm a gafwyd mis Ionawr diwethaf.

           

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Joe Johnson ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Cymeradwyo canlyniad yr adolygiad o Bolisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf 2021-2023 (Atodiad 1) a gweithdrefnau ar gyfer darparu gweithrediadau gwasanaeth cynnal a chadw yn y gaeaf, ynghyd ag ymateb y Sir i achosion eraill o dywydd gwael.

 

(b)       Cefnogi’r angen i gynnal y gyllideb ar y lefelau presennol, ychwanegu £150,000 at y gronfa wrth gefn a dwyn ymlaen bwysau refeniw SATC ar gyfer 2023/24 ac wedi hynny.

Awdur yr adroddiad: Katie Wilby

Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2022

Dyddiad y penderfyniad: 14/09/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: