Manylion y penderfyniad

School Holiday Enrichment Programme Review

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide the Committee with an overview of the SHEP Summer Programme and its contribution to the poverty priorities within the Council Plan

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad a oedd yn cynnwys trosolwg o’r dull a ddefnyddiwyd i ddarparu elfen ‘Bwyd a Hwyl’ Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol yn ystod y gwyliau.Hon yw trydedd flwyddyn y rhaglen yn Sir y Fflint a’r un mwyaf llwyddiannus hyd yma, gan atgyfnerthu effaith gadarnhaol gweithio mewn partneriaeth ar gymunedau.

 

            Adroddodd yr Ymgynghorydd Dysgu fod Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol wedi’i darparu ar draws Cymru yn defnyddio dull partneriaeth a oedd yn cynnwys ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol, awdurdodau lleol a staff chwaraeon cymunedol. Yn Sir y Fflint roedd y bartneriaeth yn cynnwys Hamdden Aura, Arlwyo NEWydd a dietegwyr BIPBC, wedi’i chydlynu gan y tîm Ysgolion Iach.

 

            Croesawodd y Cadeirydd MrAlex Jones (Athro Ymarfer Corff yn Ysgol Uwchradd Cei Connah) i’r cyfarfod.Cyflwynodd Mr Alex Jones ei hun i’r Pwyllgor a darparodd drosolwg o’i rôl addysgu yn Ysgol Uwchradd Cei Connah. Oherwydd y pandemig roedd yr ysgol yn teimlo y byddai disgyblion diamddiffyn yn ei chael hi’n anodd trosglwyddo i’r ysgol uwchradd ac y byddai cymryd rhan yn y rhaglen yn gyfle i’r ysgol weithio gydag ysgolion cynradd i nodi’r disgyblion hynny a fyddai'n elwa ar y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol.Rhoddodd Mr Alex Jones gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

  • Amserlen Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol

·         Roedd hyn yn cynnwys trosolwg o’r chwaraeon a ddarparwyd, sesiynau maetheg a sesiynau cyfoethogi mewnol a phecynnau bwyd i deuluoedd

  • Beth sydd wedi digwydd ers y rhaglen yn yr ysgol uwchradd

Ø  Disgyblion y flwyddyn 7 bresennol wedi ffurfio cyfeillgarwch –

·         Roedd y gemau yn canolbwyntio ar feithrin tîm a chyfathrebu i fagu hyder

·         Darparwyd 6 sesiwn ar faeth yn ystod y deuddeg diwrnod

Ø  Cynhaliodd aelodau o staff Ysgol Uwchradd Cei Connah ddigwyddiadau fel celf a chrefft a dylunio crysau T

Ø  Cynhaliodd Pete Hawley, aelod arall o dîm yr ysgol uwchradd, sesiynau byw yn y gwyllt

Ø  Roedd y cwmnïau allanol yn cynnwys AURA, Rygbi Cymru a Chlwb Pêl-droed Nomadiaid Cei Connah

Ø  Ymrwymiad gan y pennaeth i’r rhaglen yn 2022

Ø  Mwy o staff Ysgol Uwchradd Cei Connah am gymryd rhan yn 2022

 

            Canmolodd y Cynghorydd Martin White MrAlex Jones a’i dîm am y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol a chyfeiriodd at ymateb cadarnhaol rhieni a phobl ifanc.Roedd yn credu bod y cardiau rysáit yn syniad gwych a gofynnodd a fyddai modd rhannu’r rhain gyda phob disgybl i annog disgyblion i goginio a bwyta’n iach.Mynegodd bryderon ynghylch diffyg cadarnhad gan Lywodraeth Cymru am ddyfodol y rhaglen ac awgrymodd y dylai’r Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlygu budd Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol a’u hannog i ddarparu cyllid i’r dyfodol. Dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu bod rhannu’r cardiau rysáit yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried. Mae’r ryseitiau yn cael eu defnyddio gan NEWydd ar gyfer prydau ysgol a’r gobaith yw ehangu’r sgiliau coginio ymarferol a’r gweithgareddau, gan annog rhieni i gymryd rhan hefyd.Roedd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol oherwydd y ffocws ar dlodi, datblygiad plant a lles.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu fod cyllid yn cael ei ddarparu’n ôl-weithredol gan Lywodraeth Cymru, gydag ysgolion yn talu am y rhaglen ac yn derbyn ad-daliad gan Lywodraeth Cymru ar ôl cyflwyno tystiolaeth o’r costau.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Tudor Jones y dylid newid yr argymhelliad i “Bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn nodi llwyddiant a chynnydd Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol”.Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

            Cyfeiriodd yr Hwylusydd at awgrym y Cynghorydd Martin White yngl?n ag ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i dderbyn cadarnhad o gyllid yn y dyfodol.Awgrymodd y dylid hefyd cynnwys pryderon y Cynghorydd Dave Mackie am gyllid ôl-weithredol yn y llythyr.Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

 

            Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd uchod, eu cynnig gan y Cynghorydd Martin White a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Cunningham.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd Dysgu ac i MrAlex Jones am yr adroddiad a’r gwaith gwerthfawr a wnânt.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn nodi llwyddiant a chynnydd Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yngl?n â derbyn cadarnhad o gyllid Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol i’r dyfodol ac yn mynegi pryderon ynghylch cyllid ôl-weithredol.

Awdur yr adroddiad: Claire Homard, Claire Sinnott

Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021

Dyddiad y penderfyniad: 21/10/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: