Manylion y penderfyniad

Elective Home Education

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide the Committee with an update on the levels of pupils being Electively Home Educated and the Council’s oversight of this group of learners.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o Addysg Ddewisol yn y Cartref yn Sir y Fflint a rôl y Cyngor o ran monitro a chefnogi.

 

            Eglurodd yr Uwch-Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) fod addysg yn orfodol ond bod modd i rieni ddewis sut y caiff ei darparu, gyda rhai yn dewis anfon eu plant i ysgol ac eraill yn dewis addysgu eu plant gartref.Does dim cyfrifoldeb ar rieni i roi gwybod i’r awdurdod lleol eu bod yn dewis addysgu eu plant gartref. Os nad yw plentyn yn rhan o’r system addysg yna nid yw’r awdurdod yn ymwybodol ohono.Mae prosesau yn eu lle pan fo plentyn yn cael ei dynnu o ysgol; byddai’r awdurdod lleol yn cael gwybod ac yn anfon ffurflenni i’r rhieni eu llenwi.

 

Eglurodd yr Uwch-Reolwr fod plant gydag anghenion addysgol arbennig yn faes pryder posibl a bod gan yr awdurdod rhywfaint o bwerau yn hyn o beth i wneud yn si?r bod yr addysg yn bodloni gofynion unrhyw ddatganiad AAA.Cadarnhaodd nad oes yn rhaid i rieni gadw at y cwricwlwm cenedlaethol ac nad oes gan yr awdurdod unrhyw b?er i weld y plant na gweld pa addysg sy’n cael ei ddarparu.Y Gwasanaeth Lles Addysg sy’n gyfrifol am fonitro hyn, yn rhannol oherwydd eu harbenigedd mewn perthynas â diogelu.Mae’r swyddogion yn chwarae rôl allweddol gan ymweld â chartrefi’n flynyddol fel rhan o’r broses fonitro a mynegi unrhyw bryder yngl?n â diogelu fel y bo’n briodol.Ers 2020 mae cyllid wedi’i dderbyn ar gyfer hyn ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod yn ystyried cyllid parhaus ar sail tair blynedd.Mae’r cyllid, na chafodd ei ddarparu yn y gorffennol, yn caniatáu rhywfaint o gymorth swyddog i alluogi’r awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau. Mae’n darparu £14,000 i rieni brynu eitemau penodol fel gliniaduron a desgiau ac i ariannu ymweliadau addysgol. Eleni prynwyd aelodaeth iau Aura i gefnogi’r plant hyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chwrdd â phlant eraill.Dywedodd yr Uwch-Reolwr fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar ei pholisi ar Addysg Ddewisol yn y Cartref ers sawl blwyddyn, ond nid yw hyd yma wedi darparu pwerau statudol i awdurdodau fonitro’r maes hwn yn llawn.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Tudor Jones sylwadau ar y rhesymau dros dderbyn addysg yn y cartref, fel y dangosir yn nata Llywodraeth Cymru yn Atodiad 1, a dywedodd fod dau o’r prif resymau yn cynnwys y gair ‘gorbryder’.Gofynnodd a fyddai’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol, a drafodwyd yn gynharach, yn gallu helpu i leihau gorbryder plant sy’n symud o’r ysgol ganradd i’r ysgol uwchradd.Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr fod y Rhaglen TRAC wedi’i ehangu i gynnwys disgyblion blwyddyn 6 ac yn nodi plant sy’n orbryderus ynghylch mynd i flwyddyn 7.Mae ysgolion cynradd yn nodi disgyblion sydd â lefelau uchel o orbryder ac mae rhaglenni unigol yn cael eu rhoi ar waith ar eu cyfer.Soniodd y Cadeirydd pa mor bwysig yw hi i rieni gael gwybod am raglenni TRAC a Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol, a all helpu i leihau gorbryder eu plant wrth fynd i’r ysgol uwchradd.

 

            Mewn ymateb i bryderon y Cadeirydd o ran plant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn ennill cymwysterau, cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnig i greu cofrestr genedlaethol a fyddai’n gofyn i rieni gofrestru eu plant. Fodd bynnag, mae yna rywfaint o wrthwynebiad i hyn.Ychwanegodd fod rhai plant yn derbyn rhaglen addysg ardderchog sydd wedi’i theilwra i ddiwallu eu hanghenion.Y Gwasanaeth Lles Addysg sy’n gyfrifol am ddiogelu, ac maen nhw’n gallu nodi materion pan fyddant yn ymweld â chartrefi.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey, os yw plentyn yn mynd i’r ysgol ac yn absennol heb awdurdod, yna byddai’r rhieni yn cael eu herlyn ac felly gofynnodd sut mae hyn yn cael ei orfodi mewn perthynas â phlant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref. Cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr fod gan yr awdurdod bwerau i fynd i’r afael â hyn fel rhan o’r Gorchymyn Mynychu'r Ysgol y mae modd ei ddefnyddio os nad yw’r ddarpariaeth addysg briodol yn cael ei darparu.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at rôl fonitro’r awdurdod i sicrhau bod plentyn yn derbyn addysg briodol a gofynnodd sut mae modd cyflawni hyn os nad oes cyllid ychwanegol i gefnogi Addysg Ddewisol yn y Cartref, yn enwedig o ystyried nifer y plant sy’n derbyn addysg gartref.Hefyd, mynegodd bryderon ynghylch y diffyg rhyngweithiad cymdeithasol y mae plant sy’n derbyn addysg gartref yn ei wynebu.

           

            Mewn ymateb, amlinellodd yr Uwch-Reolwr yr heriau i’r awdurdod o ran cyflawni'r rôl fonitro os nad yw rhieni yn dymuno rhannu gwybodaeth neu ymgysylltu â'r awdurdod.O ran cyllid, gellir ei ddefnyddio i benodi swyddog penodol i ymgysylltu â theuluoedd a threfnu digwyddiadau gyda theuluoedd eraill.Mae cyllid presennol Llywodraeth Cymru wedi’i sicrhau tan fis Mawrth 2022 ond nid yw’n glir a fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i’w ddarparu ar ôl y dyddiad yma.

 

            Darparodd MrsLynne Bartlett enghreifftiau o rieni sydd wedi tynnu eu plant o’i hysgol oherwydd materion iechyd neu orbryder. Eglurodd fod y rhieni hyn yn dda eu bwriad ac wedi darparu addysg gytbwys ac ardderchog i’w plant. Yn ogystal, darparodd enghreifftiau lle’r oedd hi, a’r Swyddog Lles Addysg, wedi cynnig cymorth i deuluoedd sydd wedi penderfynu addysgu eu plant gartref. Gan gyfeirio at y data a ddarperir i’r Pwyllgor a’r niferoedd uchel o Addysg Ddewisol yn y Cartref yng Nghaerfyrddin, dywedodd fod hwn yn gr?p trefnus iawn sy’n cefnogi’r teuluoedd hynny.Roedd hi’n synnu nad yw’r niferoedd wedi cynyddu oherwydd Covid, sy’n glod i athrawon ar draws Sir y Fflint.Roedd hefyd ychydig yn bryderus ynghylch nifer y plant Addysg Ddewisol yn y Cartref sy’n symud o addysg gynradd i ysgol uwchradd, a bod angen hwyluso'r cyfnod pontio. Fydd bynnag, roedd y cyflwyniad a’r adroddiad gan y swyddogion wedi darparu sicrwydd iddi.

 

            Diolchodd y Prif Swyddog i Mrs Lynne Bartlett am ei sylwadau gan ei fod yn bwysig dangos nad yw’r awdurdod yn beirniadu rhieni sy’n dymuno addysgu eu plant gartref.Mae rhai rhieni yn dewis gwneud hyn am y rhesymau cywir ac yn galluogi eu plant i ddatblygu’n oedolion llwyddiannus.Roedd hi’n gobeithio bod yr adroddiad hwn wedi darparu rhywfaint o sicrwydd, yn enwedig o ran effaith y pandemig ar raglenni pontio nad oedd modd eu cynnal yn bersonol.Mae ysgolion wedi gweithio’n galed iawn yn ddigidol i bontio’r bwlch hwnnw o flwyddyn 6 i flwyddyn 7, ond nid yw’r un fath â bod yn yr adeilad.

 

            Cafodd argymhellion 1 a 2, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Tudor Jones a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Tudor Jones welliant i argymhelliad 3 fel y nodir yn yr adroddiad.Awgrymodd newid yr argymhelliad i “Bod yr Aelodau yn atgyfnerthu’r angen am barhad y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a diogelu gwasanaethau’r Cyngor mewn perthynas ag Addysg Ddewisol yn y Cartref”.

 

Awgrymodd MrsLynne Bartlett y dylid addasu argymhelliad 3 i: “Bod yr Aelodau yn atgyfnerthu’r angen am barhad y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a diogelu gwasanaethau ac adnoddau’r Cyngor mewn perthynas ag Addysg Ddewisol yn y Cartref”. Cytunodd y Cynghorydd Tudor Jones â’r newid hwn.

 

Cafodd argymhelliad 3, fel yr amlinellir uchod, ei gynnig gan y Cynghorydd Tudor Jones a’i eilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie argymhelliad ychwanegol i ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru i’w hannog i greu cofrestr ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn eu haddysg gartref. Roedd y Cynghorydd Paul Cunningham yn eilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau mewn perthynas ag Addysg Ddewisol yn y Cartref;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod yr heriau a wynebir gan y Tîm Lles Addysg wrth gyflawni eu swyddogaethau statudol gyda nifer cynyddol o ddisgyblion Addysg Ddewisol yn y Cartref yn Sir y Fflint;

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn atgyfnerthu’r angen am barhad y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a diogelu gwasanaethau ac adnoddau’r Cyngor mewn perthynas ag Addysg Ddewisol yn y Cartref; ac

 

(d)       Ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru i’w hannog i greu cofrestr genedlaethol ar gyfer plant sy’n derbyn eu haddysg gartref.

Awdur yr adroddiad: Claire Homard

Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021

Dyddiad y penderfyniad: 21/10/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/10/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: