Manylion y penderfyniad

Medium Term Financial Strategy (MTFS) and Council Fund Budget 2022/23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To present the first estimate for the budget requirement for 2022/23 and the strategy for funding the requirement.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn adolygu ac yn diweddaru’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn flynyddol, a chyn cynllunio'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.

 

Roedd y rhagolygon diweddaredig yn dangos yr hoffai’r Cyngor fod ag isafswm gofyniad cyllideb o £16.750m o adnoddau refeniw yn ychwanegol ar gyfer 2022/23.

 

Hwn oedd cam cyntaf datblygu’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Yn ystod mis Medi a Hydref, byddai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu gwahodd i adolygu pwysau costau, a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli costau ac effeithlonrwydd, o dan eu cylch gorchwyl perthnasol.

 

Pan fyddai’r gwaith wedi’i wneud, byddai’r Cyngor mewn sefyllfa gref i allu dweud wrth y Llywodraethau, partneriaid lleol, rhanddeiliaid a'r cyhoedd sut y gellid gwireddu cyllideb gyfreithlon, ddiogel a mantoledig ar gyfer 2022/23 a beth fyddai'n angenrheidiol o ran cyllid cenedlaethol drwy Grant Cynnal Refeniw (GCR). Roedd ymgysylltu eisoes yn digwydd gyda Llywodraeth Cymru (LlC) drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Roedd yr Aelodau’n ymwybodol o’r ffaith er y gellid dynodi rhai arbedion cost ac arbedion effeithlonrwydd fel rhan o'r broses flynyddol o osod y gyllideb, nid fyddai unrhyw arbedion mawr yn bosibl bellach ar ôl  degawd o danariannu Llywodraeth Leol.

 

Roedd y Cyngor, gyda phob cyfiawnhad, wedi cadw at yr egwyddor na fyddai'n torri cyllideb unrhyw wasanaeth i'r fath raddau bod y gwasanaeth hwnnw'n cael ei wneud yn anniogel neu os byddai gwneud hynny'n golygu na fyddai'r Cyngor yn diwallu ei safonau ansawdd ac/neu yn methu â diwallu ei ddyletswyddau statudol.

 

Roedd y Cyngor hefyd wedi cymryd y safiad na ddylai’r cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor fod yn fwy na 5%. Dylai’r ffigwr hwn gael ei drin fel uchafswm ac nid fel hawl i godi incwm lleol. Mae perygl y bydd Treth y Cyngor yn mynd yn anfforddiadwy i fwy a mwy o bobl ac yn marn y Cyngor cyfrifoldeb y Llywodraethau ac nid trethdalwyr lleol yw sicrhau cyllid llawn a theg ar gyfer llywodraeth leol.   Felly, bydd angen i Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer 2022/23 – a osodir ac ariennir gan Lywodraeth Cymru – fod yn ddigonol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r tîm cyllid am y modd y maent yn ymdrin â’r materion cyllidol, yn cynnwys y sylw a'r gofal a roddwyd i breswylwyr nad oeddent wedi gallu gwneud taliadau i'r Cyngor.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi cefnogi’r amcangyfrif cyllidol ond wedi gofyn hefyd bod adolygiad o falansau gwasanaethau’n cael ei gynnal.  Yn ogystal, anogodd y Pwyllgor bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu arall i arddel ymdriniaeth rymus.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn y gofyniad cyllidol ychwanegol a bod adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei dderbyn

 

(b)       Bod y pwysau costau’n cael eu cyfeirio i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Medi/Hydref i’w hadolygu; ac

 

(c)        Bod yr atebion sydd ar gael i gwrdd â’r pwysau costau’n cael eu nodi a bod strategaeth gyllido 2022/23 yn cael ei hailosod.

Awdur yr adroddiad: Neal Cockerton

Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2021

Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/07/2021 - Cabinet

Yn effeithiol o: 22/07/2021

Accompanying Documents: